Plastig untro

Plastig untro

Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith: gohebiaeth mewn perthynas ag eitemau plastig untro.

 

Ar 9 Rhagfyr 2021, ysgrifennodd (PDF 88KB) y Cadeirydd at y Gweinidog Newid Hinsawdd yn gofyn am ddiweddariad ar y cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru o ran datblygu cynigion i wahardd eitemau plastig untro. Ymatebodd (PDF 159KB) y Gweinidog ar 4 Ionawr 2022.

 

Ar 10 Mai 2022, ysgrifennodd (PDF 81KB) y Cadeirydd at y Gweinidog Newid Hinsawdd i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas ag eithriad i Ddeddf Marchnad Fewnol y DU ar gyfer plastigau untro, a beth mae hyn yn ei olygu i wahardd eitemau plastig untro yng Nghymru. Ymatebodd (PDF 436KB) y Gweinidog ar 31 Mai 2022.

Math o fusnes: Arall

Cyhoeddwyd gyntaf: 09/12/2021

Dogfennau