Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: P Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 04/03/2024 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.30) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau. Cofnodion: Ni chafwyd dim ymddiheuriadau na dirprwyon. |
|
(13.30 - 13.35) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3. |
|
SL(6)454 - Rheoliadau Cyd-bwyllgor Comisiynu Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2024. Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad arno i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)455 - Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Symiau Terfynau Ffioedd a Benthyciadau) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad arno i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)456 - Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) (Diwygio) 2024 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad arno i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)457 - Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig (Darparwyr Gwasanaeth ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2024 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad arno i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)458 - Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Diwygio) a Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb
Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r
pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
(13.35 - 13.40) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol |
|
SL(6)440 - Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2024 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Materion
Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd. |
||
SL(6)453 - Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Mewnforio Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Risg Uchel Nad Ydynt yn Dod o Anifeiliaid) (Diwygio Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1793) (Cymru) 2024 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru. |
||
(13.40 - 13.45) |
Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol |
|
Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru: Cyfarfodydd y Grŵp Rhyngweinidogol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd mewn
cysylltiad â chyfarfodydd y canlynol: · y Pwyllgor
Sefydlog Rhyngweinidogol, · y Grŵp
Rhyngweinidogol ar Ddiwylliant a’r Diwydiannau Creadigol · y Grŵp Rhyngweinidogol Chwaraeon. |
||
Datganiad ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Ffioedd a Thaliadau) (Diwygio) 2024 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Datganiad
Ysgrifenedig a’r ohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru,
a’r Trefnydd a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am ragor o
eglurder. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Rheoliadau Deddf Caffael 2023 (Cychwyn Rhif 2) 2024 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth
gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau’r Amgylchedd a Materion Gwledig (Dirymu a Darpariaeth Ganlyniadol) 2024 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth
gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Pysgodfeydd Môr (Y Comisiwn Rhyngwladol ar Warchod Pysgod Tiwna Iwerydd) (Diwygio) (Rhif 2) 2024 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth
gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd. |
||
(13.45 - 13.50) |
Papurau i'w nodi |
|
Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth
gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad mewn ymateb i adroddiad y
Pwyllgor ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru. |
||
(13.50) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
(13.50 - 14.05) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw): Adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd
arno, yn amodol ar rai mân newidiadau. |
|
(14.05 - 14.20) |
Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Lesddaliadau a Rhydd-ddaliadau: Adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft a chytunodd
arno. Cytunodd hefyd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am ragor o
eglurder ynghylch y Memoranda Cydsyniad
Deddfwriaethol, ac y byddai'n copïo'r ohebiaeth i'r Pwyllgor Cyllid. |
|
(14.20 - 14.30) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Cerbydau Awtomataidd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol a chytunodd i drafod adroddiad drafft yn
ei gyfarfod nesaf. |
|
(14.30 - 14.35) |
Ymchwiliad Pwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi - Llywodraethu'r Undeb: Ymgynghori, Cydweithredu a Chydsyniad Deddfwriaethol: Trafodaeth Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Ymchwiliad Pwyllgor Cyfansoddiad Tŷ’r Arglwyddi
a chytunwyd y byddai’n cyflwyno tystiolaeth, ac y byddai drafft ohoni’n cael ei
ystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol. |