Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 25/11/2025 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.

(09.30 – 09.35)

2.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7

2.1

SL(6)673 - Gorchymyn Deddf Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) 2025 (Cychwyn a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2025

Gorchymyn

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

(09.35 – 09.40)

3.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

3.1

SL(6)674 - Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Mewnforio Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Risg Uchel Nad Ydynt yn Dod o Anifeiliaid) (Diwygio Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1793) (Cymru) 2025

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

3.2

SL(6)675 - Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllideb Garbon) (Cymru) 2025

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

3.3

SL(6)676 - Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Terfyn Credyd Cyfrif Allyriadau Net Cymru) (Cymru) 2025

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

(09.40 – 09.45)

4.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7 – trafodwyd eisoes

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw fusnes i'w drafod o dan yr eitem hon.

(09.45 – 09.50)

5.

Offerynnau sy’n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes

5.1

SL(6)661 - Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2025

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.

5.2

SL(6)667 - Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2025

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.

(09.50 – 09.55)

6.

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

6.1

Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru: Cyfarfodydd grwpiau rhyngweinidogol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan: y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig mewn perthynas â chyfarfod y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol; a chan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg mewn perthynas â chyfarfod Cyngor Gweinidogion Addysg y DU.

6.2

Gohebiaeth oddi wrth y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Rheoliadau Cynhyrchu Organig (Diwygio) 2025

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

(09.55 – 10.00)

7.

Papurau i'w nodi

7.1

Gohebiaeth gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig a’r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni: Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

7.2

Datganiad Ysgrifenedig gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Ymgynghoriad ar Reoliadau Targedau Ansawdd Aer drafft ar gyfer deunydd gronynnol mân

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

7.3

Gohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: Y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) - Adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru.

7.4

Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Y Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig.

7.5

Llythyr at y Pwyllgor Busnes: Adolygiad y Pwyllgor Busnes o'r prosesau ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelodau: cyhoeddi Biliau cyn eu cyflwyno

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ei ohebiaeth â’r Pwyllgor Busnes.

7.6

Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor.

7.7

Datganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Ymgynghoriad ar Reoliadau Cyllido Ysgolion, Datganiadau Cyllideb a Datganiadau Alldro (Cymru) 2026

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.

7.8

Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 5) ar y Bil Iechyd Meddwl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant.

7.9

Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Tybaco a Fêps

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant.

(10.00)

8.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

(10.00 - 10.15)

9.

Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru): Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad drafft, yn amodol ar fân newidiadau sydd i’w cytuno y tu allan i’r Pwyllgor.

(10.15 – 10.25)

10.

Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru): Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, a chytunodd i drafod fersiwn ddiwygiedig o’r adroddiad yn y cyfarfod nesaf.

(10.25 – 10.30)

11.

Rhagolwg a diweddariad y Pwyllgor: Diweddariad ar lafar

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor ddiweddariad ar ei flaenraglen waith.

Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiadau ar y Bil Cynllunio (Cymru) a’r Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru), a Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru), y tu allan i'r Pwyllgor.