Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 23/06/2025 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Alun Davies AS; dirprwyodd John Griffiths AS ar gyfer eitemau 1 a 2.

(13.00 - 14.00)

2.

Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru): Sesiwn dystiolaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru), fel y’i cyflwynwyd

Memorandwm Esboniadol

 

Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Sarah Rhodes, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Tai, Llywodraeth Cymru

Hannah Fisher, Pennaeth Deddfwriaeth atal Digartrefedd, Llywodraeth Cymru

Julie Stokes, Cyfreithiwr, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol ar y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru).

(14.05 – 14.10)

3.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.

Dogfennau ategol:

3.1

SL(6)618 – Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2025

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

3.2

SL(6)619 - Rheoliadau Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (Eithriadau ac Amrywio Terfynau Gwariant Ymgyrch) (Cymru) 2025

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

4.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

Cofnodion:

Nid oedd eitemau busnes i’w trafod.

(14.10 – 14.15)

5.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes

5.1

SL(6)615 - Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ei lythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai.

(14.15 – 14.20)

6.

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

6.1

Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru: Cyfarfodydd y grwpiau rhyngweinidogol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth Lywodraeth Cymru mewn perthynas â chyfarfod y Grŵp Rhyngweinidogol ar Gyfiawnder.

(14.20 – 14.25)

7.

Papurau i’w nodi

7.1

Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil Diogelwch y Ffin, Lloches a Mewnfudo

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor.

7.2

Gohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 3 a Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Data (Defnydd a Mynediad)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor.

7.3

Gohebiaeth a Datganiad Ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni: Y Bil drafft Cynllunio (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a’r Datganiad Ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni.

(14.25)

8.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

(14.25 – 14.35)

9.

Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru): Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai ar y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru).

(14.35 – 14.40)

10.

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol ar Orchymyn Diwygio Deddfwriaethol (Datgelu Data Gofal Cymdeithasol Oedolion) 2025

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol a chytunwyd i drafod adroddiad drafft yn ei gyfarfod nesaf.

(14.40 – 14.50)

11.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dioddefwyr a Llysoedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunwyd i drafod adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.

(14.50 – 15.00)

12.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Iechyd Meddwl: Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad drafft, yn amodol ar fân newidiadau.

(15.00 – 15.15)

13.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Gwasanaethau Bysiau (Rhif 2)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol, a chytunodd i drafod adroddiad drafft yn ei gyfarfod nesaf.