Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: P Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 10/03/2025 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
| Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
|---|---|---|
(13.30 - 13.35) |
Cynnig i ethol Cadeirydd dros dro o dan Reol Sefydlog 17.22 ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Cofnodion: Cafwyd enwebiad ar gyfer Cadeirydd dros dro o dan Reol
Sefydlog 17.22, a chytunodd y Pwyllgor ar yr enwebiad. Etholodd y Pwyllgor Alun
Davies AS yn Gadeirydd dros dro ar gyfer y cyfarfod
hwn o‘r Pwyllgor. |
|
(13.35) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant Cofnodion: Anfonodd Mike Hedges AS ei ymddiheuriadau. Roedd Hefin
David AS yn bresennol fel dirprwy. |
|
(13.35 - 13.40) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 |
|
|
SL(6)586 - Gorchymyn y Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Rhif 2) 2025 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac ymateb Llywodraeth
Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a
nodwyd. |
||
|
SL(6)587 - Rheoliadau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2025 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb
Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r
pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
(13.40 – 13.45) |
Offerynnau sy’n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes |
|
|
SL(6)585 - Rheoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Cymru) 2025 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru. |
||
(13.45 – 13.50) |
Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol |
|
|
Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru: Cyfarfodydd y grwpiau rhyngweinidogol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Lywodraeth Cymru mewn
perthynas â chyfarfodydd y Grŵp Rhyngweinidogol ar
gyfer yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a’r Pwyllgor Sefydlog
Rhyngweinidogol: Cyllid. |
||
|
Gohebiaeth gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Rheoliadau Llygryddion Organig Parhaus (Diwygio) (Rhif 2) 2025 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth
gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a
Materion Gwledig, a chytunodd i ymateb yn holi am eglurder ar rai materion. |
||
(13.50 – 13.55) |
Papurau i'w nodi |
|
|
Gohebiaeth gan Bwyllgor Cytundebau Rhyngwladol Tŷ’r Arglwyddi at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Tramor, y Gymanwlad a Datblygu Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan
Bwyllgor Cytundebau Rhyngwladol Tŷ’r
Arglwyddi at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Tramor, y Gymanwlad a
Datblygu, a chytunodd i ymaeb i’r Pwyllgor Cytundebau Rhyngwladol. |
||
|
Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru at y Llywydd: Bil Gwasanaethau Bysiau (Rhif 2) Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan
Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru at y Llywydd, a
chytunodd i ystyried yr ohebiaeth ymhellach mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
||
|
Gohebiaeth gyffredinol i'w nodi Dogfennau ategol:
|
||
|
Gohebiaeth gan y Comisiwn Dŵr Annibynnol: Galwad am Dystiolaeth Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan
y Comisiwn Dŵr Annibynnol a chytunodd i ystyried ymateb i’r alwad am dystiolaeth mewn cyfarfod yn
y dyfodol. |
||
|
Gohebiaeth â’r Pwyllgor Busnes: Adroddiad ar y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Pwyllgor Busnes. |
||
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Great British Energy Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Great British
Energy. |
||
|
Gohebiaeth gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig a’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni: Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Dirprwy Brif
Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig a’r
Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni a chytunodd i ysgrifennu nôl at
Lywodraeth Cymru. |
||
(13.55) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig. |
|
(13.55 – 14.00) |
Blaenraglen Waith Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar ei flaenraglen waith hyd at y Pasg
2025. |
PDF 280 KB