Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 23/09/2024 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd dim ymddiheuriadau na dirprwyon.

(13.30 - 13.35)

2.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.

2.1

SL(6)519 - Rheoliadau Adeiladau Rhestredig (Cytundebau Partneriaethau) (Cymru) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

(13.35 - 13.40)

3.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7

3.1

SL(6)509 - Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Darfodol a Throsiannol) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

3.2

SL(6)513 - Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (Cychwyn) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

(13.40 – 13.45)

4.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes

Cofnodion:

Nid oedd dim eitemau i'w hystyried.

(13.45 – 13.50)

5.

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

5.1

Datganiad Ysgrifenedig a gohebiaeth oddi wrth y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Rheoliadau Gorfodi Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

5.2

Gohebiaeth gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Rheoliadau Llygryddion Organig Parhaus (Diwygio) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

5.3

Datganiad Ysgrifenedig gan y Prif Weinidog: Rheoliadau Deddf Caffael 2023 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Arbed a Throsiannol) (Diwygio) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan y Prif Weinidog.

(13.50 – 13.55)

6.

Papurau i’w nodi

6.1

Datganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip.

6.2

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Rheoliadau Gwasanaethau Iechyd (y Gyfundrefn Dethol Darparwyr) (Cymru) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

6.3

Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Deddf Seilwaith (Cymru) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio..

(13.55)

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

(13.55 – 14.35)

8.

Y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru): Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft a chytunodd i drafod drafft pellach mewn cyfarfod yn y dyfodol.

(14.35 – 14.45)

9.

Adroddiad monitro

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad a chytunodd arno. Cytunodd y Pwyllgor i ymateb i alwad Pwyllgor Pwerau Dirprwyedig a Diwygio’r Gyfraith Senedd yr Alban am safbwyntiau ar gyfer ei ymchwiliad i ddeddfwriaeth fframwaith a phwerau Harri’r Wythfed.

(14.45 – 14.50)

10.

Y wybodaeth ddiweddaraf am gyfrifoldebau'r Gweinidogion

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am gyfrifoldebau’r Gweinidogion.