Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 209 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/05/2024 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.19

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

(20 munud)

3.

Cwestiynau Amserol

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol

Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am y materion sydd wedi dod i'r amlwg yng Ngharchar Parc EF?

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.18

Atebwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol

Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am y materion sydd wedi dod i'r amlwg yng Ngharchar Parc EF?

(5 munud)

4.

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.26

Gwnaeth Jack Sargeant ddatganiad am - Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl (13-19 Mai).

Gwnaeth Delyth Jewell ddatganiad am - Lauren Price yn ennill teitlau paffio y byd pwysau welter yr WBA, yr IBO a’r cylchgrawn “The Ring” (11 Mai).

Gwnaeth Llyr Gruffydd ddatganiad am - 150 mlynedd o Ysgol Pentrecelyn, ger Rhuthun (11 Mai).

(5 munud)

Cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau

Dechreuodd yr eitem am 15.31

Derbyniwyd y cynnig o dan Reolau Sefydlog 12.24 a 12.40 i grwpio’r cynigion a ganlyn ar gyfer dadl ac ar gyfer pleidleisio.

NNDM8583 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Rhianon Passmore (Llafur Cymru) yn lle John Griffiths (Llafur Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Deisebau.

NNDM8584 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Sarah Murphy (Llafur Cymru) yn lle Jack Sargeant (Llafur Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.

NNDM8585 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol John Griffiths (Llafur Cymru) yn lle Sarah Murphy (Llafur Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

5.

Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Rheoli cynhyrchion tybaco a nicotin

NDM8571 Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod ysmygu yn lladd 5,600 o bobl y flwyddyn yng Nghymru ac yn rhoi baich enfawr ar GIG Cymru o fwy na £300 miliwn bob blwyddyn;

b) mai ysmygu yw prif achos afiechydon y gellir eu hatal a marw cyn pryd yng Nghymru, gan achosi 3,100 o achosion o ganser bob blwyddyn;

c) bod cynnydd amlwg i'w weld yng Nghymru yn nifer y bobl ifanc sy’n fepio, ynghyd â chynnydd sydyn yn nifer y manwerthwyr sy'n gwerthu cynhyrchion nicotin;

d) y bydd mwy o ddibyniaeth ar nicotin ymhlith pobl iau yn cynyddu’r galw am wasanaethau cymorth i roi'r gorau i nicotin yng Nghymru; ac

e) bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau, gweithio'n well gyda phobl, cymunedau a'i gilydd, ac atal problemau parhaus fel tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid yn yr hinsawdd.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ymrwymo i weithredu penodau 2, 3 a 4 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn llawn a fyddai'n ei gwneud yn bosibl:

i) sefydlu cofrestr genedlaethol o fanwerthwyr tybaco a chynhyrchion nicotin;

ii) ychwanegu troseddau a fyddai’n cyfrannu at orchymyn mangre o dan gyfyngiad yng Nghymru, gan alluogi swyddogion gorfodi i wahardd manwerthwr rhag gwerthu tybaco neu gynhyrchion nicotin am hyd at flwyddyn; a

iii) gwahardd rhoi tybaco a chynhyrchion nicotin i berson o dan 18 oed;

b) sicrhau bod y Bwrdd Strategol ar gyfer Rheoli Tybaco yn blaenoriaethu gweithredu cofrestr o fanwerthwyr tybaco a nicotin fel rhan o ail gam y cynllun gweithredu ar reoli tybaco ar gyfer Cymru 2024-2026;

c) ymrwymo i ymgyrch gyfathrebu wedi'i hariannu'n llawn i gefnogi'r broses weithredu a newidiadau dilynol i reoliadau a deddfwriaeth; a

d) sefydlu gweithgor i:

i) goruchwylio'r broses o weithredu'r gofrestr o fanwerthwyr yn brydlon;

ii) archwilio sut y gallai'r gofrestr o fanwerthwyr arwain y ffordd at gynllun trwyddedu a/neu adnoddau ar gyfer mesurau gorfodi ychwanegol; a

iii) cyflwyno'r data a gasglwyd o'r gofrestr i helpu i dargedu ymdrechion i roi'r gorau i ysmygu a diogelu'r cyhoedd.

Cyd-gyflwynwyr

John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru)

Cefnogwyr

Carolyn Thomas (Gogledd Cymru)

Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)

Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)

Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru)

Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru)

Rhys ab Owen (Canol De Cymru)

Sioned Williams (Gorllewin De Cymru)

Vikki Howells (Cwm Cynon)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.31

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

20

4

53

Derbyniwyd y cynnig.

(60 munud)

6.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Heb lais: Taith menywod drwy ganser gynaecolegol

NDM8581 Russell George (Sir Drefaldwyn)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ‘Heb lais: Taith menywod drwy ganser gynaecolegol’, a osodwyd ar 6 Rhagfyr 2023.

Dogfennau ategol

Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y pwyllgor

Blog y Senedd (yn cynnwys fideos) - Canserau gynaecolegol: A yw menywod yn cael eu cymryd o ddifrif?

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.13

NDM8581 Russell George (Sir Drefaldwyn)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ‘Heb lais: Taith menywod drwy ganser gynaecolegol’, a osodwyd ar 6 Rhagfyr 2023.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

7.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Practisau meddygon teulu a chyllido

NDM8582 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi'r adroddiad Mynediad i Bractisau Meddygon Teulu yng Nghymru a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, sy'n tynnu sylw at bwysigrwydd practisau meddygon teulu o ran lliniaru'r pwysau ar ysbytai a chefnogi cleifion ledled Cymru.

2. Yn gresynu bod gan Gymru 473 o bractisau meddygon teulu yn 2012, ond bod hyn wedi gostwng i 374 ym mis Rhagfyr 2023.

3. Yn gresynu ymhellach mai dim ond 6.1 y cant o gyllid GIG Cymru aeth tuag at ymarfer cyffredinol yn y flwyddyn 2020-21 a bod llai nag 8 y cant o gyllid GIG Cymru yn mynd tuag at ymarfer cyffredinol ar hyn o bryd, sy'n is nag yn 2005-6.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cymryd camau brys i sicrhau nad yw'r 100fed practis meddygon teulu yn cau yng Nghymru mewn ychydig dros ddegawd;

b) mabwysiadu galwadau allweddol ymgyrch Achubwch Ein Meddygfeydd BMA Cymru Wales i 11 y cant o gyllid GIG Cymru gael ei wario ar ymarfer cyffredinol ac i lunio strategaeth gweithlu i sicrhau bod Cymru'n hyfforddi, recriwtio a chadw digon o feddygon teulu i symud tuag at nifer cyfartalog yr OECD o ran meddygon teulu fesul 1000 o bobl; ac

c) sicrhau bod y swm canlyniadol Barnett llawn, sy'n deillio o wariant ar y GIG gan Lywodraeth y DU ar gael ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Adroddiad Mynediad i Bractisau Meddygon Teulu yng Nghymru Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd practisau meddygon teulu.

2. Yn croesawu’r cynnydd o ran y Model Gofal Sylfaenol i Gymru sy'n cefnogi gofal mewn cymunedau lleol, yn nes at gartrefi pobl.

3. Yn nodi:

a) bod nifer y meddygon teulu yng Nghymru wedi aros yn sefydlog;

b) bod y gostyngiad yn nifer y meddygfeydd yn adlewyrchu tuedd tuag at feddygfeydd mwy o faint wrth i feddygon teulu geisio lleihau costau a gwneud y mwyaf o adnoddau ar gyfer gweithgarwch sy'n wynebu cleifion;

c) bod y targed recriwtio presennol o 160 o feddygon teulu newydd dan hyfforddiant bob blwyddyn yn cael ei gyflawni'n gyson; a

d) bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r proffesiwn meddygon teulu ar raglen o ddiwygio contractau i leihau biwrocratiaeth i feddygon teulu a gwella profiadau i gleifion.

4. Yn cydnabod bod Cyllideb Cymru ar gyfer 2024-25 wedi cynyddu’r cyllid i’r GIG yng Nghymru dros 4 y cant, o'i gymharu â llai nag 1 y cant yn Lloegr.

Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.

Gwelliant 2 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Dileu is-bwynt 4 (b) a rhoi yn ei le:

mabwysiadu galwadau ymgyrch allweddol Achubwch Ein Meddygfeydd BMA Cymru Wales o adfer cyfran cyllideb GIG Cymru a gaiff ei wario mewn ymarfer cyffredinol i 8.7 y cant gyda dyhead i gynyddu i fod yn agosach at 11 y cant ac i lunio strategaeth gweithlu i sicrhau bod Cymru'n hyfforddi, recriwtio ac chadw digon o feddygon teulu i symud tuag at nifer cyfartalog yr OECD o ran meddygon teulu fesul 1000 o bobl;

Gwelliant 3 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Dileu is-bwynt 4 (c) a rhoi yn ei le: 

gwneud cais ffurfiol i Lywodraeth y DU am adolygiad cynhwysfawr o fformiwla Barnett i sicrhau cyllid teg ar gyfer pob maes cyllideb yng Nghymru, gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol;

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.19

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM8582 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi'r adroddiad Mynediad i Bractisau Meddygon Teulu yng Nghymru a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, sy'n tynnu sylw at bwysigrwydd practisau meddygon teulu o ran lliniaru'r pwysau ar ysbytai a chefnogi cleifion ledled Cymru.

2. Yn gresynu bod gan Gymru 473 o bractisau meddygon teulu yn 2012, ond bod hyn wedi gostwng i 374 ym mis Rhagfyr 2023.

3. Yn gresynu ymhellach mai dim ond 6.1 y cant o gyllid GIG Cymru aeth tuag at ymarfer cyffredinol yn y flwyddyn 2020-21 a bod llai nag 8 y cant o gyllid GIG Cymru yn mynd tuag at ymarfer cyffredinol ar hyn o bryd, sy'n is nag yn 2005-6.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cymryd camau brys i sicrhau nad yw'r 100fed practis meddygon teulu yn cau yng Nghymru mewn ychydig dros ddegawd;

b) mabwysiadu galwadau allweddol ymgyrch Achubwch Ein Meddygfeydd BMA Cymru Wales i 11 y cant o gyllid GIG Cymru gael ei wario ar ymarfer cyffredinol ac i lunio strategaeth gweithlu i sicrhau bod Cymru'n hyfforddi, recriwtio a chadw digon o feddygon teulu i symud tuag at nifer cyfartalog yr OECD o ran meddygon teulu fesul 1000 o bobl; ac

c) sicrhau bod y swm canlyniadol Barnett llawn, sy'n deillio o wariant ar y GIG gan Lywodraeth y DU ar gael ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Adroddiad Mynediad i Bractisau Meddygon Teulu yng Nghymru Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

37

53

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd practisau meddygon teulu.

2. Yn croesawu’r cynnydd o ran y Model Gofal Sylfaenol i Gymru sy'n cefnogi gofal mewn cymunedau lleol, yn nes at gartrefi pobl.

3. Yn nodi:

a) bod nifer y meddygon teulu yng Nghymru wedi aros yn sefydlog;

b) bod y gostyngiad yn nifer y meddygfeydd yn adlewyrchu tuedd tuag at feddygfeydd mwy o faint wrth i feddygon teulu geisio lleihau costau a gwneud y mwyaf o adnoddau ar gyfer gweithgarwch sy'n wynebu cleifion;

c) bod y targed recriwtio presennol o 160 o feddygon teulu newydd dan hyfforddiant bob blwyddyn yn cael ei gyflawni'n gyson; a

d) bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r proffesiwn meddygon teulu ar raglen o ddiwygio contractau i leihau biwrocratiaeth i feddygon teulu a gwella profiadau i gleifion.

4. Yn cydnabod bod Cyllideb Cymru ar gyfer 2024-25 wedi cynyddu’r cyllid i’r GIG yng Nghymru dros 4 y cant, o'i gymharu â llai nag 1 y cant yn Lloegr.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

26

53

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gan fod gwelliant 1 wedi ei dderbyn, cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM8582 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd practisau meddygon teulu.

2. Yn croesawu’r cynnydd o ran y Model Gofal Sylfaenol i Gymru sy'n cefnogi gofal mewn cymunedau lleol, yn nes at gartrefi pobl.

3. Yn nodi:

a) bod nifer y meddygon teulu yng Nghymru wedi aros yn sefydlog;

b) bod y gostyngiad yn nifer y meddygfeydd yn adlewyrchu tuedd tuag at feddygfeydd mwy o faint wrth i feddygon teulu geisio lleihau costau a gwneud y mwyaf o adnoddau ar gyfer gweithgarwch sy'n wynebu cleifion;

c) bod y targed recriwtio presennol o 160 o feddygon teulu newydd dan hyfforddiant bob blwyddyn yn cael ei gyflawni'n gyson; a

d) bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r proffesiwn meddygon teulu ar raglen o ddiwygio contractau i leihau biwrocratiaeth i feddygon teulu a gwella profiadau i gleifion.

4. Yn cydnabod bod Cyllideb Cymru ar gyfer 2024-25 wedi cynyddu’r cyllid i’r GIG yng Nghymru dros 4 y cant, o'i gymharu â llai nag 1 y cant yn Lloegr.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

26

53

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

8.

Cyfnod Pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.30

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

9.

Dadl Fer

NDM8577 Cefin Campbell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Strategaeth tlodi gwledig i Gymru

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.34