NDM8582 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Practisau meddygon teulu a chyllido
NDM8582 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Practisau meddygon teulu a chyllido
NDM8582 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r adroddiad
Mynediad i Bractisau Meddygon Teulu yng Nghymru a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd
Pobl Hŷn Cymru, sy'n tynnu sylw at bwysigrwydd practisau meddygon teulu o
ran lliniaru'r pwysau ar ysbytai a chefnogi cleifion ledled Cymru.
2. Yn gresynu bod gan
Gymru 473 o bractisau meddygon teulu yn 2012, ond bod hyn wedi
gostwng i 374 ym mis Rhagfyr 2023.
3. Yn gresynu ymhellach
mai dim ond 6.1 y cant o gyllid GIG Cymru aeth tuag at ymarfer cyffredinol yn y
flwyddyn 2020-21 a bod llai nag 8 y cant o gyllid GIG Cymru yn mynd tuag at
ymarfer cyffredinol ar hyn o bryd, sy'n is nag yn 2005-6.
4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a) cymryd camau brys i
sicrhau nad yw'r 100fed practis meddygon teulu yn cau yng Nghymru mewn ychydig
dros ddegawd;
b) mabwysiadu galwadau
allweddol ymgyrch Achubwch Ein Meddygfeydd BMA Cymru Wales i 11 y cant o
gyllid GIG Cymru gael ei wario ar ymarfer cyffredinol ac i lunio strategaeth
gweithlu i sicrhau bod Cymru'n hyfforddi, recriwtio a chadw digon o feddygon
teulu i symud tuag at nifer cyfartalog yr OECD o ran meddygon teulu fesul 1000
o bobl; ac
c) sicrhau bod
y swm canlyniadol Barnett llawn, sy'n deillio o wariant ar y GIG gan
Lywodraeth y DU ar gael ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
Adroddiad Mynediad i Bractisau Meddygon Teulu yng Nghymru
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod
pwysigrwydd practisau meddygon teulu.
2. Yn croesawu’r cynnydd
o ran y Model Gofal Sylfaenol i Gymru sy'n cefnogi gofal mewn cymunedau lleol,
yn nes at gartrefi pobl.
3. Yn nodi:
a) bod nifer y meddygon
teulu yng Nghymru wedi aros yn sefydlog;
b) bod y gostyngiad yn
nifer y meddygfeydd yn adlewyrchu tuedd tuag at feddygfeydd mwy o faint wrth i
feddygon teulu geisio lleihau costau a gwneud y mwyaf o adnoddau ar gyfer
gweithgarwch sy'n wynebu cleifion;
c) bod y targed
recriwtio presennol o 160 o feddygon teulu newydd dan hyfforddiant bob blwyddyn
yn cael ei gyflawni'n gyson; a
d) bod Llywodraeth Cymru
yn gweithio gyda'r proffesiwn meddygon teulu ar raglen o ddiwygio contractau i
leihau biwrocratiaeth i feddygon teulu a gwella profiadau i gleifion.
4. Yn cydnabod bod
Cyllideb Cymru ar gyfer 2024-25 wedi cynyddu’r cyllid i’r GIG yng Nghymru dros
4 y cant, o'i gymharu â llai nag 1 y cant yn Lloegr.
Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.
Gwelliant 2 Heledd Fychan
(Canol De Cymru)
Dileu is-bwynt 4 (b) a
rhoi yn ei le:
mabwysiadu galwadau
ymgyrch allweddol Achubwch Ein Meddygfeydd BMA Cymru Wales o adfer cyfran
cyllideb GIG Cymru a gaiff ei wario mewn ymarfer cyffredinol i 8.7 y cant gyda
dyhead i gynyddu i fod yn agosach at 11 y cant ac i lunio strategaeth gweithlu
i sicrhau bod Cymru'n hyfforddi, recriwtio a chadw digon o feddygon teulu i
symud tuag at nifer cyfartalog yr OECD o ran meddygon teulu fesul 1000 o bobl;
Gwelliant 3 Heledd Fychan
(Canol De Cymru)
Dileu is-bwynt 4 (c) a
rhoi yn ei le:
gwneud cais ffurfiol i
Lywodraeth y DU am adolygiad cynhwysfawr o fformiwla Barnett i sicrhau cyllid
teg ar gyfer pob maes cyllideb yng Nghymru, gan gynnwys iechyd a gofal
cymdeithasol;
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/06/2024