NDM8571 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Rheoli cynhyrchion tybaco a nicotin

NDM8571 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Rheoli cynhyrchion tybaco a nicotin

NDM8571 Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod ysmygu yn lladd 5,600 o bobl y flwyddyn yng Nghymru ac yn rhoi baich enfawr ar GIG Cymru o fwy na £300 miliwn bob blwyddyn;

b) mai ysmygu yw prif achos afiechydon y gellir eu hatal a marw cyn pryd yng Nghymru, gan achosi 3,100 o achosion o ganser bob blwyddyn;

c) bod cynnydd amlwg i'w weld yng Nghymru yn nifer y bobl ifanc sy’n fepio, ynghyd â chynnydd sydyn yn nifer y manwerthwyr sy'n gwerthu cynhyrchion nicotin;

d) y bydd mwy o ddibyniaeth ar nicotin ymhlith pobl iau yn cynyddu’r galw am wasanaethau cymorth i roi'r gorau i nicotin yng Nghymru; ac

e) bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau, gweithio'n well gyda phobl, cymunedau a'i gilydd, ac atal problemau parhaus fel tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid yn yr hinsawdd.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ymrwymo i weithredu penodau 2, 3 a 4 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn llawn a fyddai'n ei gwneud yn bosibl:

i) sefydlu cofrestr genedlaethol o fanwerthwyr tybaco a chynhyrchion nicotin;

ii) ychwanegu troseddau a fyddai’n cyfrannu at orchymyn mangre o dan gyfyngiad yng Nghymru, gan alluogi swyddogion gorfodi i wahardd manwerthwr rhag gwerthu tybaco neu gynhyrchion nicotin am hyd at flwyddyn; a

iii) gwahardd rhoi tybaco a chynhyrchion nicotin i berson o dan 18 oed;

b) sicrhau bod y Bwrdd Strategol ar gyfer Rheoli Tybaco yn blaenoriaethu gweithredu cofrestr o fanwerthwyr tybaco a nicotin fel rhan o ail gam y cynllun gweithredu ar reoli tybaco ar gyfer Cymru 2024-2026;

c) ymrwymo i ymgyrch gyfathrebu wedi'i hariannu'n llawn i gefnogi'r broses weithredu a newidiadau dilynol i reoliadau a deddfwriaeth; a

d) sefydlu gweithgor i:

i) goruchwylio'r broses o weithredu'r gofrestr o fanwerthwyr yn brydlon;

ii) archwilio sut y gallai'r gofrestr o fanwerthwyr arwain y ffordd at gynllun trwyddedu a/neu adnoddau ar gyfer mesurau gorfodi ychwanegol; a

iii) cyflwyno'r data a gasglwyd o'r gofrestr i helpu i dargedu ymdrechion i roi'r gorau i ysmygu a diogelu'r cyhoedd.

Cyd-gyflwynwyr

John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru)

Cefnogwyr

Carolyn Thomas (Gogledd Cymru)

Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)

Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)

Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru)

Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru)

Rhys ab Owen (Canol De Cymru)

Sioned Williams (Gorllewin De Cymru)

Vikki Howells (Cwm Cynon)

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Math: Er gwybodaeth

Cyhoeddwyd gyntaf: 11/06/2024