Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 196
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/03/2024 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd
arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.33 |
|||||||||
(60 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.55 |
|||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Y Rhaglen Cartrefi Clyd Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.45 |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Diwrnod Rhyngwladol y Menywod Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.18 |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.50 |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ail Gartrefi a Fforddiadwyedd Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
17.17 |
|||||||||
(5 munud) |
Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2024 NDM8510 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn
cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion
Arbennig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2024 yn cael ei
llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Chwefror 2024. Dogfennau Ategol Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.56 NDM8510 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod y Senedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau
Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion
Cyfrifol) (Cymru) 2024 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Chwefror 2024. Dogfennau Ategol Adroddiad y Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(5 munud) |
Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Diwygio) a Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024 NDM8511 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn
cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi
(Cyfraddau Treth) (Diwygio) a Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016
(Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn
ddrafft a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Chwefror 2024. Dogfennau Ategol Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.03 NDM8511 Lesley Griffiths
(Wrecsam) Cynnig bod y Senedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau
Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Diwygio) a Deddf Casglu a Rheoli
Trethi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024 yn cael ei llunio yn
unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Chwefror 2024. Dogfennau Ategol Adroddiad y Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(5 munud) |
Cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Seilwaith (Cymru) NDM8506 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36: b) Atodlen 1; c) Adrannau 62 - 91; d) Atodlen 2; e) Adrannau 92 - 143; f) Atodlen 3; g) Adrannau 144 - 146; h) Enw hir. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.08 NDM8506 Lesley Griffiths
(Wrecsam) Cynnig bod Senedd Cymru,
yn unol â Rheol Sefydlog 26.36: b) Atodlen 1; c) Adrannau 62 - 91; d) Atodlen 2; e) Adrannau 92 - 143; f) Atodlen 3; g) Adrannau 144 - 146; h) Enw hir. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(15 munud) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân |
|||||||||
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel) – cynnig 1 NDM8512 Mick
Antoniw (Pontypridd) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn
cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaeth yn y Bil Masnach
(Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel), sef cymal
2, trin cyrff asesu cydymffurfiaeth etc., i’r graddau y maent yn dod o fewn
cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8
Rhagfyr 2023 a gosodwyd Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ionawr 2024 yn unol
â Rheol Sefydlog 29.2. Ceir copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU: Y Bil Masnach (Cytundeb
Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel) [HL] (parliament.uk) (Saesneg yn unig) Dogfennau Ategol Adroddiad y
Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.08 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM8512 Mick Antoniw
(Pontypridd) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU
ystyried darpariaeth yn y Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar
ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel), sef cymal 2, trin cyrff asesu
cydymffurfiaeth etc., i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol y Senedd. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 8 Rhagfyr 2023 a gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ionawr 2024 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2. Ceir
copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU: Y Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer
Partneriaeth y Môr Tawel) [HL] (parliament.uk) (Saesneg yn
unig) Dogfennau
Ategol Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Llythyr gan Weinidog yr Economi, 4 Mawrth 2024 Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
||||||||||
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel) – cynnig 2 NDM8513 Mick
Antoniw (Pontypridd) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn
cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Masnach (Cytundeb
Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel), sef cymal 3 sy'n
ymwneud â chaffael cyhoeddus, a chymal 4 sy'n ymwneud â dynodiadau tarddiad a
dynodiadau daearyddol, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol y Senedd. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8
Rhagfyr 2023 a gosodwyd Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ionawr 2024 yn unol
â Rheol Sefydlog 29.2. Ceir copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU: Y Bil Masnach (Cytundeb
Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel) [HL] (parliament.uk) (Saesneg yn unig) Dogfennau Ategol Adroddiad y
Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.08 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM8513 Mick Antoniw
(Pontypridd) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU
ystyried y darpariaethau yn y Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar
gyfer Partneriaeth y Môr Tawel), sef cymal 3 sy'n ymwneud â chaffael cyhoeddus,
a chymal 4 sy'n ymwneud â dynodiadau tarddiad a dynodiadau daearyddol, i'r
graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 8 Rhagfyr 2023 a gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ionawr 2024 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2. Ceir
copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU: Y Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer
Partneriaeth y Môr Tawel) [HL] (parliament.uk) (Saesneg yn
unig) Dogfennau
Ategol Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Llythyr gan Weinidog yr Economi, 4 Mawrth 2024 Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Gwrthodwyd y cynnig. |
||||||||||
(15 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw) NDM8509 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn
cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Lles Anifeiliaid
(Allforion Da Byw) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol
y Senedd. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20
Rhagfyr 2023 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2. Ceir copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU: Y
Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) - Biliau Seneddol - Senedd y DU (Saesneg yn unig) Dogfennau Ategol Adroddiad y
Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.28 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM8509 Lesley Griffiths
(Wrecsam) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU
ystyried y darpariaethau yn y Bil Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw) i’r
graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 20 Rhagfyr 2023 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2. Ceir
copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU: Y Bil Lles Anifeiliaid
(Anifeiliaid a Gedwir) - Biliau Seneddol - Senedd y DU (Saesneg yn
unig) Dogfennau
Ategol Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||
(30 munud) |
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil ar gyfer mwy o ddiogelwch ar drafnidiaeth gyhoeddus NDM8460 Delyth
Jewell (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar gyfer mwy o ddiogelwch
ar drafnidiaeth gyhoeddus. 2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai: a) cyflwyno systemau ar gyfer monitro, adrodd ac
uwchraddio goleuadau yn rheolaidd ar gyfer yr holl wasanaethau trafnidiaeth
gyhoeddus, gan gynnwys ar fwrdd cerbydau, mewn arosfannau a gorsafoedd, ac ar
strydoedd yn union o amgylch gorsafoedd trên a safleoedd bysiau mawr; b) adolygu hyfforddiant a gynigir ar hyn o bryd ym maes
diogelwch i'r rhai sy'n gweithio yn y diwydiant trafnidiaeth, o'u rhan eu
hunain ac eraill; c) gwella gweithdrefnau adrodd presennol a datblygu
systemau mwy cyson a thryloyw ar gyfer adrodd a chofnodi achosion o gam-drin
sy'n effeithio ar bobl sy'n agored i niwed ar drafnidiaeth gyhoeddus; a d) asesu'r angen am ddyletswydd statudol ar gwmnïau
trafnidiaeth gyhoeddus i sicrhau bod teithwyr yn cyrraedd pen eu taith, neu fan
diogel, ar ôl iddi dywyllu. Cefnogwyr Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.41 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM8460 Delyth Jewell (Dwyrain
De Cymru) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar gyfer mwy o ddiogelwch ar drafnidiaeth
gyhoeddus. 2.
Yn nodi mai diben y Bil fyddai: a)
cyflwyno systemau ar gyfer monitro, adrodd ac uwchraddio goleuadau yn rheolaidd
ar gyfer yr holl wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys ar fwrdd
cerbydau, mewn arosfannau a gorsafoedd, ac ar strydoedd yn union o amgylch
gorsafoedd trên a safleoedd bysiau mawr; b)
adolygu hyfforddiant a gynigir ar hyn o bryd ym maes diogelwch i'r rhai sy'n
gweithio yn y diwydiant trafnidiaeth, o'u rhan eu hunain ac eraill; c)
gwella gweithdrefnau adrodd presennol a datblygu systemau mwy cyson a thryloyw
ar gyfer adrodd a chofnodi achosion o gam-drin sy'n effeithio ar bobl sy'n
agored i niwed ar drafnidiaeth gyhoeddus; a d)
asesu'r angen am ddyletswydd statudol ar gwmnïau trafnidiaeth gyhoeddus i
sicrhau bod teithwyr yn cyrraedd pen eu taith, neu fan diogel, ar ôl iddi
dywyllu. Cefnogwyr Jane Dodds (Canolbarth
a Gorllewin Cymru) Sioned Williams
(Gorllewin De Cymru) Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Yn unol â Rheol Sefydlog 12.44, canwyd y gloch am 19.01 a
gohiriwyd y cyfarfod tan y cyfnod pleidleisio. Dechreuodd yr eitem am 19.07 |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |