Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 186 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 30/01/2024 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.28

(45 munud)

3.

Datganiad gan y Prif Weinidog: Adroddiad terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.45

(30 munud)

4.

Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Papur gwyn ar Fil arfaethedig ar egwyddorion amgylcheddol, llywodraethu amgylcheddol, a thargedau bioamrywiaeth

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.40

(30 munud)

5.

Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Diwrnod Cofio’r Holocost

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.14

(30 munud)

6.

Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Blas Cymru

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.06

(60 munud)

7.

Dadl: Adroddiad Blynyddol 2022-23 Comisiynydd y Gymraeg

NDM8463 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg 2022-23.

Adroddiad Blynyddol: 2022-2023 Comisiynydd y Gymraeg

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: 

Gwelliant 1 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi gwaith y Comisiynydd i annog sefydliadau yn y sector preifat, megis y sector bancio, i ddefnyddio'r Gymraeg ar sail anstatudol.

Yn cytuno y dylai banciau fod yn ddarostyngedig i safonau'r Gymraeg statudol.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.38

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8463 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg 2022-23.

Adroddiad Blynyddol: 2022-2023 Comisiynydd y Gymraeg

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi gwaith y Comisiynydd i annog sefydliadau yn y sector preifat, megis y sector bancio, i ddefnyddio'r Gymraeg ar sail anstatudol.

Yn cytuno y dylai banciau fod yn ddarostyngedig i safonau'r Gymraeg statudol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM8463 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg 2022-23.

Adroddiad Blynyddol: 2022-2023 Comisiynydd y Gymraeg

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

53

0

0

53

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

</AI7>

<AI8>

 

(60 munud)

Derbyniwyd y cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar eitemau 8 a 9 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân

8.

Egwyddorion cyffredinol Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.03

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8464 Mick Antoniw (Pontypridd)

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau).

Gosodwyd Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 18 Medi 2023.

Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Biliau Diwygio ar Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) gerbron y Senedd ar 19 Ionawr 2024.

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Ymateb gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i adroddiad y Pwyllgor Biliau Diwygio

Ymateb gan y Pwyllgor Busnes i adroddiad y Pwyllgor Biliau Diwygio

Ymateb gan Gomisiwn y Senedd i adroddiad y Pwyllgor Biliau Diwygio

Ymateb gan Fwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd i adroddiad y Pwyllgor Biliau Diwygio

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

14

53

Derbyniwyd y cynnig.

 

9.

Y penderfyniad ariannol ynghylch Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)

NDM8465 Mick Antoniw (Pontypridd)

Cynnig bod Senedd Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.03

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8465 Mick Antoniw (Pontypridd)

Cynnig bod Senedd Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

14

53

Derbyniwyd y cynnig.

 

10.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 19.33

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: