Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 183
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/01/2024 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn
2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 2, 3 ac 8 gan y Dirprwy Weinidog Newid
Hinsawdd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Dirprwy Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn
2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.31 Gofynnwyd
cwestiynau 1-4 a 6-8. Ni ofynnwyd cwestiwn 5. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y
pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i Weinidog yr Economi Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am unrhyw
drafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael mewn perthynas â dyfodol cwmni
Gwynedd Shipping? Gofyn i Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a
Thwristiaeth Llyr
Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn rhoi ymateb i
argymhelliad unfrydol Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a
Chysylltiadau Rhyngwladol y dylai fod gan Lywodraeth Cymru rôl ffurfiol yn y
broses o benodi Cadeirydd newydd ar gyfer S4C? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.14 Atebwyd
gan Weinidog yr Economi Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am unrhyw
drafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael mewn perthynas â dyfodol cwmni
Gwynedd Shipping? Atebwyd
gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth Llyr Gruffydd (Gogledd
Cymru):
A
wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn rhoi ymateb i argymhelliad unfrydol Pwyllgor
Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol y
dylai fod gan Lywodraeth Cymru rôl ffurfiol yn y broses o benodi Cadeirydd
newydd ar gyfer S4C? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw Ddatganiadau 90 Eiliad |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod – Bil ar sicrwydd hinsawdd i blant a phobl ifanc NDM8370 Delyth Jewell (Dwyrain De
Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi cynnig ar
gyfer Bil ar sicrwydd hinsawdd i blant a phobl ifanc. 2. Yn nodi mai diben y
Bil hwn fyddai: a) diwygio Deddf
Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 i sicrhau bod y cwricwlwm ysgol yn cynnwys
dealltwriaeth o ddifrifoldeb a brys yr argyfwng hinsawdd a'r argyfwng ecolegol
fel cysyniad allweddol ar draws pob maes dysgu a phrofiad; b) sicrhau bod y
cwricwlwm yn adlewyrchu brys ac anghenraid mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd
a diogelu'r amgylchedd ecolegol; c) sicrhau nad yw
addysgu o'r fath wedi'i gyfyngu i bynciau traddodiadol sy'n cwmpasu'r maes hwn,
ond wedi'i wreiddio ar draws pob maes dysgu a phrofiad; d) cydnabod
pwysigrwydd dysgu isganfyddol a hyrwyddo amgylchedd cynaliadwy lle y gall dysgu
ddigwydd; ac e)
dechrau mynd i'r afael â phryder hinsawdd ymhlith plant a phobl ifanc. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.37 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM8370 Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar sicrwydd hinsawdd i blant a phobl ifanc. 2.
Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai: a)
diwygio Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 i sicrhau bod y cwricwlwm ysgol
yn cynnwys dealltwriaeth o ddifrifoldeb a brys yr argyfwng hinsawdd a'r
argyfwng ecolegol fel cysyniad allweddol ar draws pob maes dysgu a phrofiad; b)
sicrhau bod y cwricwlwm yn adlewyrchu brys ac anghenraid mynd i'r afael â'r
argyfwng hinsawdd a diogelu'r amgylchedd ecolegol; c)
sicrhau nad yw addysgu o'r fath wedi'i gyfyngu i bynciau traddodiadol sy'n
cwmpasu'r maes hwn, ond wedi'i wreiddio ar draws pob maes dysgu a phrofiad; d)
cydnabod pwysigrwydd dysgu isganfyddol a hyrwyddo amgylchedd cynaliadwy lle y
gall dysgu ddigwydd; ac e)
dechrau mynd i'r afael â phryder hinsawdd ymhlith plant a phobl ifanc. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Arolygu ac ariannu gofal iechyd NDM8452 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi Adroddiad
Blynyddol Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru 2022-2023. 2. Yn gresynu bod yr
adroddiad: a) yn amlygu risgiau
yn ymwneud â gofal brys, pryderon staffio, llif gwael cleifion a hygyrchedd
apwyntiadau; b) yn datgan bod oedi
yn aml o ran rhyddhau cleifion oherwydd prinder staff gofal cymdeithasol a
gweithwyr cymdeithasol i asesu anghenion rhyddhau; ac c) heb ddod
o hyd i dystiolaeth fod mentrau Llywodraeth Cymru yn gwneud gwahaniaeth
clir a sylweddol i wasanaethau ar y rheng flaen. 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) dileu toriadau a
wnaed i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yng nghyllideb ddrafft 2024-2025, ac
ehangu eu cylch gwaith i ymchwilio i gwynion; b) sefydlu amserlen
gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar gyfer archwilio'r bron i 60 y cant o
wasanaethau gofal iechyd nad ydynt wedi'u harolygu yn ystod y 5 mlynedd
diwethaf; c) sicrhau bod y
cynnydd canlyniadol Barnett llawn o 20 y cant ar gyfer iechyd yn cael ei wario
ar GIG Cymru; a d) cyflwyno cynllun
sylweddol ar gyfer y gweithlu gydag ad-daliad ffioedd dysgu ar gyfer gweithwyr
gofal iechyd sy'n aros yng Nghymru am bum mlynedd ar ôl eu hastudiaethau. Adroddiad
Blynyddol Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru 2022-2023 Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth ar ôl
is-bwynt 2b) a rhoi yn ei le: Yn gwerthfawrogi
gwaith pwysig AGIC ac yn nodi'r heriau a amlygwyd. Yn cydnabod y sefyllfa
ariannol heriol ar draws Llywodraeth Cymru, sy'n parhau i flaenoriaethu gofal
rheng flaen a gofynion staffio ein GIG. Yn nodi bod
Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda darparwyr gofal iechyd gan
ddefnyddio arolygiadau i ddysgu a gwella. Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Gwelliant 2 Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd) Ym mhwynt
3, dileu is-bwynt c), a rhoi yn ei le: gwneud cais ffurfiol
i Lywodraeth y DU am adolygiad cynhwysfawr o Fformiwla Barnett i sicrhau
cyllid teg ar gyfer pob maes cyllideb yng Nghymru, gan gynnwys iechyd a
gofal cymdeithasol; Gwelliant 3 Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd) Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 3: cynyddu nifer y
prentisiaethau gradd sydd ar gael yn y sector gofal iechyd i roi mwy o
gyfleoedd i bobl ifanc ymuno â'r proffesiwn ac aros yng Nghymru i weithio. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.55 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8452 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi Adroddiad Blynyddol
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru 2022-2023. 2. Yn gresynu bod yr adroddiad: a) yn amlygu risgiau yn ymwneud
â gofal brys, pryderon staffio, llif gwael cleifion a hygyrchedd apwyntiadau; b) yn datgan bod oedi yn aml o
ran rhyddhau cleifion oherwydd prinder staff gofal cymdeithasol a gweithwyr
cymdeithasol i asesu anghenion rhyddhau; ac c) heb ddod o hyd i
dystiolaeth fod mentrau Llywodraeth Cymru yn gwneud gwahaniaeth clir a
sylweddol i wasanaethau ar y rheng flaen. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i: a) dileu toriadau a wnaed i
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yng nghyllideb ddrafft 2024-2025, ac ehangu eu
cylch gwaith i ymchwilio i gwynion; b) sefydlu amserlen gydag
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar gyfer archwilio'r bron i 60 y cant o
wasanaethau gofal iechyd nad ydynt wedi'u harolygu yn ystod y 5 mlynedd
diwethaf; c) sicrhau bod y cynnydd
canlyniadol Barnett llawn o 20 y cant ar gyfer iechyd yn cael ei wario ar GIG
Cymru; a d) cyflwyno cynllun sylweddol
ar gyfer y gweithlu gydag ad-daliad ffioedd dysgu ar gyfer gweithwyr gofal
iechyd sy'n aros yng Nghymru am bum mlynedd ar ôl eu hastudiaethau. Adroddiad
Blynyddol Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru 2022-2023
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth ar ôl
is-bwynt 2b) a rhoi yn ei le: Yn gwerthfawrogi
gwaith pwysig AGIC ac yn nodi'r heriau a amlygwyd. Yn cydnabod y sefyllfa
ariannol heriol ar draws Llywodraeth Cymru, sy'n parhau i flaenoriaethu gofal
rheng flaen a gofynion staffio ein GIG. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru
yn parhau i weithio gyda darparwyr gofal iechyd gan ddefnyddio arolygiadau i
ddysgu a gwella. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant.
Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gwelliant 2 Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd) Ym mhwynt 3, dileu is-bwynt c), a rhoi yn ei le: gwneud cais ffurfiol i Lywodraeth y DU am adolygiad
cynhwysfawr o Fformiwla Barnett i sicrhau cyllid teg ar gyfer pob maes
cyllideb yng Nghymru, gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol; Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3: cynyddu nifer y prentisiaethau gradd sydd ar gael yn
y sector gofal iechyd i roi mwy o gyfleoedd i bobl ifanc ymuno â'r proffesiwn
ac aros yng Nghymru i weithio. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM8452 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi Adroddiad Blynyddol
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru 2022-2023. 2. Yn gresynu bod yr adroddiad: a) yn amlygu risgiau yn ymwneud
â gofal brys, pryderon staffio, llif gwael cleifion a hygyrchedd apwyntiadau; b) yn datgan bod oedi yn aml o
ran rhyddhau cleifion oherwydd prinder staff gofal cymdeithasol a gweithwyr
cymdeithasol i asesu anghenion rhyddhau; ac c) heb ddod o hyd i
dystiolaeth fod mentrau Llywodraeth Cymru yn gwneud gwahaniaeth clir a
sylweddol i wasanaethau ar y rheng flaen. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i: a) dileu toriadau a wnaed i
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yng nghyllideb ddrafft 2024-2025, ac ehangu eu
cylch gwaith i ymchwilio i gwynion; b) sefydlu amserlen gydag
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar gyfer archwilio'r bron i 60 y cant o
wasanaethau gofal iechyd nad ydynt wedi'u harolygu yn ystod y 5 mlynedd
diwethaf; c) gwneud cais ffurfiol i
Lywodraeth y DU am adolygiad cynhwysfawr o Fformiwla Barnett i sicrhau cyllid
teg ar gyfer pob maes cyllideb yng Nghymru, gan gynnwys iechyd a gofal
cymdeithasol; d) cyflwyno cynllun sylweddol
ar gyfer y gweithlu gydag ad-daliad ffioedd dysgu ar gyfer gweithwyr gofal
iechyd sy'n aros yng Nghymru am bum mlynedd ar ôl eu hastudiaethau; a e) cynyddu nifer y
prentisiaethau gradd sydd ar gael yn y sector gofal iechyd i roi mwy o
gyfleoedd i bobl ifanc ymuno â'r proffesiwn ac aros yng Nghymru i weithio. Adroddiad
Blynyddol Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru 2022-2023
Gwrthodwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Prentisiaethau NDM8451 Luke Fletcher (Gorllewin De
Cymru) Cynnig bod y Senedd
hon: 1. Yn nodi: a) bod tua 80 y cant o
gwmnïau bach yng Nghymru wedi cael trafferth recriwtio yn ystod y 12 mis
diwethaf oherwydd prinder sgiliau; b) y bwlch sgiliau ar
draws sectorau economaidd yng Nghymru a amlinellwyd mewn Arolygon Sgiliau
Cyflogwyr yn ddiweddar; ac c) targed Llywodraeth
Cymru i greu 125,000 o brentisiaethau pob oed erbyn diwedd tymor presennol y
Senedd. 2. Yn gresynu: a) mai llai na
thraean o darged Llywodraeth Cymru sydd wedi'i gyflawni, dros hanner ffordd
drwy dymor presennol y Senedd; b) y bydd gostyngiad
amcangyfrifedig o 24.5 y cant mewn cyllid ar gyfer rhaglen brentisiaethau
Llywodraeth Cymru, a fydd yn arwain at 10,000 yn llai o brentisiaethau yn
dechrau yn 2024-25; ac c) bod Llywodraeth
Cymru, o ganlyniad i ostyngiadau cyllid, yn methu yn ei chenhadaeth economaidd
i gefnogi pobl ifanc i sicrhau dyfodol uchelgeisiol yng Nghymru. 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) sefydlu model
ariannu hirdymor cynaliadwy ar gyfer prentisiaethau; b) diystyru cyflwyno
ffioedd dysgu ar gyfer gradd-brentisiaethau yng Nghymru; ac c) comisiynu
gwerthusiad annibynnol o ddichonoldeb cyrraedd ei tharged ar gyfer
prentisiaethau pob oed erbyn 2026. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) bod busnesau bach
ledled Cymru yn cael mynediad at ystod o gymorth cyflogaeth, sgiliau a busnes a
ariennir gan Lywodraeth Cymru i gwrdd â heriau recriwtio mewn marchnad lafur
gyfnewidiol ac yn amgylchedd twf isel y DU; b) y bwlch sgiliau
sy'n bodoli mewn sectorau economaidd yng Nghymru a amlinellwyd mewn Arolygon
Sgiliau Cyflogwyr diweddar; ac yn croesawu pwyslais Llywodraeth Cymru ar
gymorth wedi'i dargedu yn y meysydd hynny, gan gynnwys cyllid ar gyfer cyfrifon
dysgu personol; c) targed Llywodraeth
Cymru i greu 125,000 o brentisiaethau pob oed erbyn diwedd tymor presennol y
Senedd, a'r effaith y mae'r toriadau i gyllideb Cymru, colli arian yn lle'r
cronfeydd Ewropeaidd a'r chwyddiant uchaf erioed yn ei chael ar gyllidebau busnes
a chyhoeddus sy'n ofynnol i gyflawni yn erbyn amcangyfrifon a osodwyd cyn y
sawl ysgytwad economaidd sydd wedi dod i'r amlwg ers 2021; a d) bod toriadau i
gyllideb Cymru, colli arian a addawyd yn lle cronfeydd yr UE a chwyddiant uchel
tu hwnt wedi tanseilio cenhadaeth economaidd Llywodraeth Cymru, a goblygiadau
hyn i bobl ifanc a'u gallu i gyflawni dyfodol uchelgeisiol yng Nghymru. 2. Yn croesawu: a) bod Llywodraeth
Cymru, erbyn hanner ffordd drwy dymor presennol y Senedd, wedi ymrwymo dros
£400m mewn prentisiaethau; a b) yr ymrwymiad i
ddiogelu ansawdd darpariaeth prentisiaethau ar adeg o ostyngiad mewn
cyllidebau, ac yn cydnabod y risgiau hirdymor sy'n gysylltiedig â lleihau
ystyriaethau ansawdd er mwyn cynyddu nifer y prentisiaethau a gyflwynir. 3. Yn nodi y bydd
Llywodraeth Cymru yn: a) parhau i
flaenoriaethu cyllid ar gyfer prentisiaethau yn erbyn cefndir o bwysau ariannol
difrifol; b) cefnogi
prentisiaethau gradd yng Nghymru; ac c) gweithio gyda'r
rhwydwaith prentisiaethau i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl. Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Ym mhwynt 3,
cynnwys is-bwynt newydd ar ôl is-bwynt (a) ac ail-rifo yn unol â hynny: ehangu prentisiaethau,
yn enwedig i lefel gradd, i fynd i'r afael â phrinder sgiliau mewn sectorau
craidd gan gynnwys gofal iechyd, ynni adnewyddadwy a thechnoleg ddigidol; Gwelliant 3 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Ym mhwynt 3, cynnwys
is-bwynt newydd ar ôl is-bwynt (a), ac ailrifo yn unol â hynny: caniatáu
ar gyfer pwyntiau mynediad hyblyg ar gyfer prentisiaethau gradd, gan gydnabod
cyrhaeddiad addysgol blaenorol unigolyn; Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.46 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8451 Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod y Senedd hon: 1. Yn nodi: a) bod tua 80 y cant o gwmnïau
bach yng Nghymru wedi cael trafferth recriwtio yn ystod y 12 mis diwethaf
oherwydd prinder sgiliau; b) y bwlch sgiliau ar draws
sectorau economaidd yng Nghymru a amlinellwyd mewn Arolygon Sgiliau Cyflogwyr
yn ddiweddar; ac c) targed Llywodraeth Cymru i
greu 125,000 o brentisiaethau pob oed erbyn diwedd tymor presennol y
Senedd. 2. Yn gresynu: a) mai llai na thraean o
darged Llywodraeth Cymru sydd wedi'i gyflawni, dros hanner ffordd drwy dymor
presennol y Senedd; b) y bydd gostyngiad
amcangyfrifedig o 24.5 y cant mewn cyllid ar gyfer rhaglen brentisiaethau
Llywodraeth Cymru, a fydd yn arwain at 10,000 yn llai o brentisiaethau yn
dechrau yn 2024-25; ac c) bod Llywodraeth Cymru, o
ganlyniad i ostyngiadau cyllid, yn methu yn ei chenhadaeth economaidd i gefnogi
pobl ifanc i sicrhau dyfodol uchelgeisiol yng Nghymru. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i: a) sefydlu model ariannu
hirdymor cynaliadwy ar gyfer prentisiaethau; b) diystyru cyflwyno ffioedd
dysgu ar gyfer gradd-brentisiaethau yng Nghymru; ac c) comisiynu gwerthusiad
annibynnol o ddichonoldeb cyrraedd ei tharged ar gyfer prentisiaethau pob oed
erbyn 2026.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) bod busnesau bach ledled Cymru yn cael mynediad at
ystod o gymorth cyflogaeth, sgiliau a busnes a ariennir gan Lywodraeth Cymru i
gwrdd â heriau recriwtio mewn marchnad lafur gyfnewidiol ac yn amgylchedd twf
isel y DU; b) y bwlch sgiliau sy'n bodoli mewn sectorau economaidd
yng Nghymru a amlinellwyd mewn Arolygon Sgiliau Cyflogwyr diweddar; ac yn
croesawu pwyslais Llywodraeth Cymru ar gymorth wedi'i dargedu yn y meysydd
hynny, gan gynnwys cyllid ar gyfer cyfrifon dysgu personol; c) targed Llywodraeth Cymru i greu 125,000 o
brentisiaethau pob oed erbyn diwedd tymor presennol y Senedd, a'r effaith y
mae'r toriadau i gyllideb Cymru, colli arian yn lle'r cronfeydd Ewropeaidd a'r
chwyddiant uchaf erioed yn ei chael ar gyllidebau busnes a chyhoeddus sy'n
ofynnol i gyflawni yn erbyn amcangyfrifon a osodwyd cyn y sawl ysgytwad
economaidd sydd wedi dod i'r amlwg ers 2021; a d) bod toriadau i gyllideb Cymru, colli arian a addawyd
yn lle cronfeydd yr UE a chwyddiant uchel tu hwnt wedi tanseilio cenhadaeth
economaidd Llywodraeth Cymru, a goblygiadau hyn i bobl ifanc a'u gallu i
gyflawni dyfodol uchelgeisiol yng Nghymru. 2. Yn croesawu: a) bod Llywodraeth Cymru, erbyn hanner ffordd drwy dymor
presennol y Senedd, wedi ymrwymo dros £400m mewn prentisiaethau; a b) yr ymrwymiad i ddiogelu ansawdd darpariaeth
prentisiaethau ar adeg o ostyngiad mewn cyllidebau, ac yn cydnabod y risgiau
hirdymor sy'n gysylltiedig â lleihau ystyriaethau ansawdd er mwyn cynyddu nifer
y prentisiaethau a gyflwynir. 3. Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn: a) parhau i flaenoriaethu cyllid ar gyfer prentisiaethau
yn erbyn cefndir o bwysau ariannol difrifol; b) cefnogi prentisiaethau gradd yng Nghymru; ac c) gweithio gyda'r rhwydwaith prentisiaethau i sicrhau'r
canlyniadau gorau posibl. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant.
Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Ym mhwynt 3, cynnwys is-bwynt newydd ar ôl is-bwynt
(a) ac ail-rifo yn unol â hynny: ehangu prentisiaethau, yn enwedig i lefel gradd, i fynd
i'r afael â phrinder sgiliau mewn sectorau craidd gan gynnwys gofal iechyd,
ynni adnewyddadwy a thechnoleg ddigidol; Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd
y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly,
gwrthodwyd y gwelliant. Gwelliant 3 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Ym mhwynt 3, cynnwys is-bwynt newydd ar ôl is-bwynt (a),
ac ailrifo yn unol â hynny: caniatáu ar gyfer pwyntiau mynediad hyblyg ar gyfer
prentisiaethau gradd, gan gydnabod cyrhaeddiad addysgol blaenorol unigolyn; Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei
ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.52 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM8453 Gareth Davies (Dyffryn
Clwyd) Strwythuro
system gofal cymdeithasol sy'n addas ar gyfer Cymru yn yr unfed ganrif ar
hugain. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.01 NDM8453 Gareth Davies (Dyffryn
Clwyd) Strwythuro system
gofal cymdeithasol sy'n addas ar gyfer Cymru yn yr unfed ganrif ar hugain. |