NDM8452 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Arolygu ac ariannu gofal iechyd

NDM8452 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Arolygu ac ariannu gofal iechyd

NDM8452 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi Adroddiad Blynyddol Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru 2022-2023.

2. Yn gresynu bod yr adroddiad:

a) yn amlygu risgiau yn ymwneud â gofal brys, pryderon staffio, llif gwael cleifion a hygyrchedd apwyntiadau;

b) yn datgan bod oedi yn aml o ran rhyddhau cleifion oherwydd prinder staff gofal cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol i asesu anghenion rhyddhau; ac

c) heb ddod o hyd i dystiolaeth fod mentrau Llywodraeth Cymru yn gwneud gwahaniaeth clir a sylweddol i wasanaethau ar y rheng flaen.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) dileu toriadau a wnaed i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yng nghyllideb ddrafft 2024-2025, ac ehangu eu cylch gwaith i ymchwilio i gwynion;

b) sefydlu amserlen gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar gyfer archwilio'r bron i 60 y cant o wasanaethau gofal iechyd nad ydynt wedi'u harolygu yn ystod y 5 mlynedd diwethaf;

c) sicrhau bod y cynnydd canlyniadol Barnett llawn o 20 y cant ar gyfer iechyd yn cael ei wario ar GIG Cymru; a

d) cyflwyno cynllun sylweddol ar gyfer y gweithlu gydag ad-daliad ffioedd dysgu ar gyfer gweithwyr gofal iechyd sy'n aros yng Nghymru am bum mlynedd ar ôl eu hastudiaethau.

Adroddiad Blynyddol Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru 2022-2023

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu popeth ar ôl is-bwynt 2b) a rhoi yn ei le:

Yn gwerthfawrogi gwaith pwysig AGIC ac yn nodi'r heriau a amlygwyd.

Yn cydnabod y sefyllfa ariannol heriol ar draws Llywodraeth Cymru, sy'n parhau i flaenoriaethu gofal rheng flaen a gofynion staffio ein GIG.

Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda darparwyr gofal iechyd gan ddefnyddio arolygiadau i ddysgu a gwella.

Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.

Gwelliant 2 Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd)

Ym mhwynt 3, dileu is-bwynt c), a rhoi yn ei le:

gwneud cais ffurfiol i Lywodraeth y DU am adolygiad cynhwysfawr o Fformiwla Barnett i sicrhau cyllid teg ar gyfer pob maes cyllideb yng Nghymru, gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol;

Gwelliant 3 Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:

cynyddu nifer y prentisiaethau gradd sydd ar gael yn y sector gofal iechyd i roi mwy o gyfleoedd i bobl ifanc ymuno â'r proffesiwn ac aros yng Nghymru i weithio.

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Math: Er gwybodaeth

Cyhoeddwyd gyntaf: 15/02/2024