NDM8451 Dadl Plaid Cymru - Prentisiaethau
NDM8451 Dadl Plaid Cymru - Prentisiaethau
NDM8451 Luke Fletcher
(Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod y Senedd
hon:
1. Yn nodi:
a) bod tua 80 y cant o
gwmnïau bach yng Nghymru wedi cael trafferth recriwtio yn ystod y 12 mis
diwethaf oherwydd prinder sgiliau;
b) y bwlch sgiliau ar
draws sectorau economaidd yng Nghymru a amlinellwyd mewn Arolygon Sgiliau
Cyflogwyr yn ddiweddar; ac
c) targed Llywodraeth
Cymru i greu 125,000 o brentisiaethau pob oed erbyn diwedd tymor presennol y
Senedd.
2. Yn gresynu:
a) mai llai na
thraean o darged Llywodraeth Cymru sydd wedi'i gyflawni, dros hanner ffordd
drwy dymor presennol y Senedd;
b) y bydd gostyngiad
amcangyfrifedig o 24.5 y cant mewn cyllid ar gyfer rhaglen brentisiaethau
Llywodraeth Cymru, a fydd yn arwain at 10,000 yn llai o brentisiaethau yn
dechrau yn 2024-25; ac
c) bod Llywodraeth
Cymru, o ganlyniad i ostyngiadau cyllid, yn methu yn ei chenhadaeth economaidd
i gefnogi pobl ifanc i sicrhau dyfodol uchelgeisiol yng Nghymru.
3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i:
a) sefydlu model
ariannu hirdymor cynaliadwy ar gyfer prentisiaethau;
b) diystyru cyflwyno
ffioedd dysgu ar gyfer gradd-brentisiaethau yng Nghymru; ac
c) comisiynu
gwerthusiad annibynnol o ddichonoldeb cyrraedd ei tharged ar gyfer
prentisiaethau pob oed erbyn 2026.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley
Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod busnesau bach
ledled Cymru yn cael mynediad at ystod o gymorth cyflogaeth, sgiliau a busnes a
ariennir gan Lywodraeth Cymru i gwrdd â heriau recriwtio mewn marchnad lafur
gyfnewidiol ac yn amgylchedd twf isel y DU;
b) y bwlch sgiliau
sy'n bodoli mewn sectorau economaidd yng Nghymru a amlinellwyd mewn Arolygon
Sgiliau Cyflogwyr diweddar; ac yn croesawu pwyslais Llywodraeth Cymru ar
gymorth wedi'i dargedu yn y meysydd hynny, gan gynnwys cyllid ar gyfer cyfrifon
dysgu personol;
c) targed Llywodraeth
Cymru i greu 125,000 o brentisiaethau pob oed erbyn diwedd tymor presennol y
Senedd, a'r effaith y mae'r toriadau i gyllideb Cymru, colli arian yn lle'r
cronfeydd Ewropeaidd a'r chwyddiant uchaf erioed yn ei chael ar gyllidebau busnes
a chyhoeddus sy'n ofynnol i gyflawni yn erbyn amcangyfrifon a osodwyd cyn y
sawl ysgytwad economaidd sydd wedi dod i'r amlwg ers 2021; a
d) bod toriadau i
gyllideb Cymru, colli arian a addawyd yn lle cronfeydd yr UE a chwyddiant uchel
tu hwnt wedi tanseilio cenhadaeth economaidd Llywodraeth Cymru, a goblygiadau
hyn i bobl ifanc a'u gallu i gyflawni dyfodol uchelgeisiol yng Nghymru.
2. Yn croesawu:
a) bod Llywodraeth
Cymru, erbyn hanner ffordd drwy dymor presennol y Senedd, wedi ymrwymo dros
£400m mewn prentisiaethau; a
b) yr ymrwymiad i
ddiogelu ansawdd darpariaeth prentisiaethau ar adeg o ostyngiad mewn
cyllidebau, ac yn cydnabod y risgiau hirdymor sy'n gysylltiedig â lleihau
ystyriaethau ansawdd er mwyn cynyddu nifer y prentisiaethau a gyflwynir.
3. Yn nodi y bydd
Llywodraeth Cymru yn:
a) parhau i
flaenoriaethu cyllid ar gyfer prentisiaethau yn erbyn cefndir o bwysau ariannol
difrifol;
b) cefnogi
prentisiaethau gradd yng Nghymru; ac
c) gweithio gyda'r
rhwydwaith prentisiaethau i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl.
Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.
Gwelliant 2 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Ym mhwynt 3,
cynnwys is-bwynt newydd ar ôl is-bwynt (a) ac ail-rifo yn unol â hynny:
ehangu prentisiaethau,
yn enwedig i lefel gradd, i fynd i'r afael â phrinder sgiliau mewn sectorau
craidd gan gynnwys gofal iechyd, ynni adnewyddadwy a thechnoleg ddigidol;
Gwelliant 3 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Ym mhwynt 3, cynnwys
is-bwynt newydd ar ôl is-bwynt (a), ac ailrifo yn unol â hynny:
caniatáu
ar gyfer pwyntiau mynediad hyblyg ar gyfer prentisiaethau gradd, gan gydnabod
cyrhaeddiad addysgol blaenorol unigolyn;
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 15/02/2024