NDM8370 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod – Bil ar sicrwydd hinsawdd i blant a phobl ifanc
NDM8370 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod – Bil ar sicrwydd hinsawdd i blant a phobl ifanc
NDM8370 Delyth Jewell
(Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar
gyfer Bil ar sicrwydd hinsawdd i blant a phobl ifanc.
2. Yn nodi mai diben y
Bil hwn fyddai:
a) diwygio Deddf
Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 i sicrhau bod y cwricwlwm ysgol yn cynnwys
dealltwriaeth o ddifrifoldeb a brys yr argyfwng hinsawdd a'r argyfwng ecolegol
fel cysyniad allweddol ar draws pob maes dysgu a phrofiad;
b) sicrhau bod y
cwricwlwm yn adlewyrchu brys ac anghenraid mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd
a diogelu'r amgylchedd ecolegol;
c) sicrhau nad yw
addysgu o'r fath wedi'i gyfyngu i bynciau traddodiadol sy'n cwmpasu'r maes hwn,
ond wedi'i wreiddio ar draws pob maes dysgu a phrofiad;
d) cydnabod
pwysigrwydd dysgu isganfyddol a hyrwyddo amgylchedd cynaliadwy lle y gall dysgu
ddigwydd; ac
e)
dechrau mynd i'r afael â phryder hinsawdd ymhlith plant a phobl ifanc.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 15/02/2024