Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 154
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/09/2023 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
y 7 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.31 |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diweddariad Addysg ar RAAC Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.02 |
|||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Adolygiad Annibynnol ac adroddiadau 2020-21 Cyfoeth Naturiol Cymru ar lifogydd Dogfennau Ategol Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.41 |
|||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Terfyn cyflymder diofyn 20mya ar ffyrdd cyfyngedig Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 16.14 |
|||||||||
(0 munud) |
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Adolygu Cymwysterau Galwedigaethol - TYNNWYD YN ÔL Cofnodion: Tynnwyd yr eitem
hon yn ôl |
|||||||||
Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog Dechreuodd yr eitem am 17.06 NNDM8350 Julie James (Gorllewin Abertawe) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8: Yn
atal y rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y
cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer
busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, Rheol Sefydlog 12.20(i) a Rheol
Sefydlog 29.8, er mwyn caniatáu i NNDM8349 gael eu hystyried yn y Cyfarfod
Llawn ddydd Mawrth, 12 Medi 2023. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||
(30 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ynni NNDM8349 Julie James
(Gorllewin Abertawe) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn
cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ynni i’r graddau y
maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Troednodyn: Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 29
Mehefin 2023 a gosodwyd Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 25 Gorffennaf
2023, a 01
Medi 2023 a 11
Medi 2023 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2. Gellir gweld copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU: https://publications.parliament.uk/pa/bills/cbill/58-03/0340/220340.pdf. Dogfennau Ategol Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 17.06 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NNDM8349 Julie
James (Gorllewin Abertawe) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU
ystyried y darpariaethau yn y Bil Ynni i’r graddau y maent yn dod o fewn
cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Troednodyn: Gosodwyd
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29
Mehefin 2023 a
gosodwyd Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 25
Gorffennaf 2023,
a 01 Medi
2023 a 11 Medi
2023 yn
unol â Rheol Sefydlog 29.2. Gellir
gweld copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU: https://publications.parliament.uk/pa/bills/cbill/58-03/0340/220340.pdf. Dogfennau
Ategol Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro NNDM8342 Rebecca
Evans (Gŵyr) Cynnig bod Senedd Cymru, yn
unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8: Yn atal y rhan honno o Reol
Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol
Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr
wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM8341 gael ei ystyried yn y Cyfarfod
Llawn ddydd Mawrth, 12 Medi 2023. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||
(15 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig NNDM8341 Rebecca
Evans (Gŵyr) Cynnig bod Senedd Cymru, yn
unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y
darpariaethau yn y Bill Ardrethu Annomestig, i’r graddau y maent yn dod o fewn
cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 11
Ebrill 2023 a 1
Awst 2023, yn y drefn honno, yn unol â
Rheol Sefydlog 29.2. Gellir gweld copi o’r Bil ar
wefan Senedd y DU: https://bills.parliament.uk/bills/3442 Dogfennau Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.39 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NNDM8341 Rebecca
Evans (Gŵyr) Cynnig
bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU
ystyried y darpariaethau yn y Bill Ardrethu Annomestig, i’r graddau y maent yn
dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru. Gosodwyd
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Ebrill
2023 a 1 Awst
2023,
yn y drefn honno, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2. Gellir
gweld copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU: https://bills.parliament.uk/bills/3442 Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro Dechreuodd yr eitem am 17.56 NNDM8344 Lee
Waters (Llanelli) Cynnig bod
Senedd Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8: Yn atal y
rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y datganiad a'r
cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer
busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol , er mwyn caniatáu i NNDM8343
gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ar 12 Medi 2023. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) NNDM8343 Lee
Waters (Llanelli) Cynnig bod Senedd Cymru, yn
unol â Rheol Sefydlog 26.11: Yn cytuno i egwyddorion
cyffredinol Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru). Gosodwyd Bil
yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) a'r Memorandwm
Esboniadol gerbron y Senedd ar 20 Mawrth
2023. Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr
Amgylchedd a Seilwaith ar Fil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru)
gerbron y Senedd ar 14 Gorffennaf 2023. Dogfennau Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.56 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NNDM8343 Lee
Waters (Llanelli) Cynnig
bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: Yn
cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau)
(Cymru). Gosodwyd Bil yr
Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) a'r Memorandwm
Esboniadol gerbron
y Senedd ar 20 Mawrth 2023. Gosodwyd adroddiad
Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar Bil yr Amgylchedd
(Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) gerbron y Senedd ar 14 Gorffennaf 2023. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 18.52. |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |