Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 151 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 05/07/2023 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 2, 4, 5 a 7 gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.22

Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

(20 munud)

3.

Cwestiynau Amserol

Gofyn i Weinidog yr Economi

Sarah Murphy (Pen-y-bont ar Ogwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad mewn ymateb i'r cyhoeddiad gan Zimmer Biomet y bydd yn rhoi'r gorau i weithgynhyrchu yn ei ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr?

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn dilyn y dystiolaeth a roddwyd gan y Prif Weinidog a Gweinidog yr Economi ynghylch diffyg parodrwydd ar gyfer y pandemig yng Nghymru yn ymchwiliad Covid-19 y DU ddoe?

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.08

Atebwyd gan Weinidog yr Economi

Sarah Murphy (Pen-y-bont ar Ogwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad mewn ymateb i'r cyhoeddiad gan Zimmer Biomet y bydd yn rhoi'r gorau i weithgynhyrchu yn ei ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr?

Cyn symud ymlaen at yr ail Gwestiwn Amserol, rhoddodd y Llywydd arweiniad i’r Aelodau am gwestiynau’n ymwneud â’r ymchwiliad Covid-19. Dywedodd y Llywydd efallai y bydd amgylchiadau lle na fydd y Gweinidogion yn gallu rhoi ymateb manwl, yn enwedig pan fydd y cwestiynau’n ymwneud â rhannau o’r ymchwiliad sydd wedi’u hagor ond heb eu cwblhau.

Atebwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn dilyn y dystiolaeth a roddwyd gan y Prif Weinidog a Gweinidog yr Economi ynghylch diffyg parodrwydd ar gyfer y pandemig yng Nghymru yn ymchwiliad Covid-19 y DU ddoe?

(5 munud)

4.

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.29

Gwnaeth Sioned Williams ddatganiad am - 125 mlwyddiant Clwb Rygbi Trebannws.

(0 munud)

5.

Cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022–23 - Gohiriwyd

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem hon

(60 munud)

6.

Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Gwasanaethau epilepsi

NDM8273 Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod cyffredinrwydd epilepsi ledled Cymru yn 1 y cant (tua 32,000 o bobl ag epilepsi), gydag amrywiad lleol yn gysylltiedig â lefelau amddifadedd;

b) bod 11.5 o nyrsys arbenigol epilepsi cyfwerth ag amser cyfan yng Nghymru, sy'n cyfateb i gymhareb o 1 nyrs i bob 2,823 o gleifion;

c) bod adroddiad Steers (2008) yn argymell cymhareb o 300 o gleifion i un nyrs arbenigol epilepsi a fyddai'n cyfateb i gyfanswm o 107 o nyrsys arbenigol epilepsi yng Nghymru.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cefnogi mesurau i leihau amseroedd aros presennol i gleifion a defnyddwyr gwasanaeth sy'n defnyddio gwasanaethau epilepsi;

b) cefnogi gweithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru, drwy sicrhau bod y lefelau staffio ar draws byrddau iechyd Cymru yn cael adnoddau priodol i gyflawni a chynnal cynaliadwyedd, diogelwch cleifion, ac ansawdd gwasanaeth.

Report of the Welsh Neuroscience External Expert Review Group Recommendations for Mid and South Wales (Saesneg yn unig)

Cefnogwyr

Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)

Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Huw Irranca-Davies (Ogwr)

Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)

Joel James (Canol De Cymru)

Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru)

Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)

Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru)

Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Sioned Williams (Gorllewin De Cymru)

Tom Giffard (Gorllewin De Cymru)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.31

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

7.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol - Y fframwaith deddfwriaethol sy'n cefnogi darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg

NDM8314 Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol, ‘Y fframwaith deddfwriaethol sy’n cefnogi darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Mai 2023.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Gorffennaf 2023.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.09

NDM8314 Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol, ‘Y fframwaith deddfwriaethol sy’n cefnogi darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Mai 2023.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Gorffennaf 2023.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

8.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gwasanaeth Iechyd Gwladol

NDM8315 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn dathlu 75 mlynedd ers creu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

2. Yn nodi rhybudd Cymdeithas Feddygol Prydain bod gwasanaethau meddygon teulu a Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru mewn argyfwng ac mewn perygl o chwalu.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau 75 mlynedd nesaf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol drwy ddiwallu anghenion cleifion a staff a chynnal yr egwyddor graidd o fod yn am ddim lle bynnag y bo’i angen.

Achubwch Ein Meddygfeydd, PMT Cymru - Cymdeithas Feddygol Prydain

Llythyr gan Gymdeithas Feddygol Prydain at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Saesneg yn unig)

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod preifateiddio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn fygythiad sylfaenol i'n gwasanaeth iechyd ac y dylai darparu gofal iechyd am ddim lle bynnag y bo’i angen barhau i fod yr egwyddor wrth wraidd darpariaeth gofal iechyd yng Nghymru.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.45

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM8315 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn dathlu 75 mlynedd ers creu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

2. Yn nodi rhybudd Cymdeithas Feddygol Prydain bod gwasanaethau meddygon teulu a Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru mewn argyfwng ac mewn perygl o chwalu.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau 75 mlynedd nesaf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol drwy ddiwallu anghenion cleifion a staff a chynnal yr egwyddor graidd o fod yn am ddim lle bynnag y bo’i angen.

Achubwch Ein Meddygfeydd, PMT Cymru - Cymdeithas Feddygol Prydain

Llythyr gan Gymdeithas Feddygol Prydain at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Saesneg yn unig)

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

36

51

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod preifateiddio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn fygythiad sylfaenol i'n gwasanaeth iechyd ac y dylai darparu gofal iechyd am ddim lle bynnag y bo’i angen barhau i fod yr egwyddor wrth wraidd darpariaeth gofal iechyd yng Nghymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM8315 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn dathlu 75 mlynedd ers creu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

2. Yn nodi rhybudd Cymdeithas Feddygol Prydain bod gwasanaethau meddygon teulu a Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru mewn argyfwng ac mewn perygl o chwalu.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau 75 mlynedd nesaf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol drwy ddiwallu anghenion cleifion a staff a chynnal yr egwyddor graidd o fod yn am ddim lle bynnag y bo’i angen.

4. Yn credu bod preifateiddio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn fygythiad sylfaenol i'n gwasanaeth iechyd ac y dylai darparu gofal iechyd am ddim lle bynnag y bo’i angen barhau i fod yr egwyddor wrth wraidd darpariaeth gofal iechyd yng Nghymru.

Achubwch Ein Meddygfeydd, PMT Cymru - Cymdeithas Feddygol Prydain

Llythyr gan Gymdeithas Feddygol Prydain at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Saesneg yn unig)

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd

9.

Cyfnod Pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.50

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

10.

Dadl Fer

NDM8312 Samuel Kurtz (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)

Ôl troed y fyddin yng Nghymru: pwysigrwydd y lluoedd arfog i hunaniaeth Cymru

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.52