NDM8315 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gwasanaeth Iechyd Gwladol
NDM8315 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gwasanaeth Iechyd Gwladol
NDM8315 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn dathlu 75
mlynedd ers creu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
2. Yn nodi rhybudd
Cymdeithas Feddygol Prydain bod gwasanaethau meddygon teulu a Gwasanaeth Iechyd
Gwladol Cymru mewn argyfwng ac mewn perygl o chwalu.
3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau 75 mlynedd nesaf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol drwy
ddiwallu anghenion cleifion a staff a chynnal yr egwyddor graidd o fod yn am
ddim lle bynnag y bo’i angen.
Save
our Surgeries, GPC Wales - Cymdeithas Feddygol Prydain (Saesneg yn
unig)
Llythyr
gan Gymdeithas Feddygol Prydain at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol (Saesneg
yn unig)
Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn:
Gwelliant 1 Heledd Fychan (Canol De
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn
credu bod preifateiddio'r GIG yn fygythiad sylfaenol i'n gwasanaeth iechyd ac y
dylai darparu gofal iechyd am ddim lle bynnag y bo’i angen barhau i fod yr
egwyddor wrth wraidd darpariaeth gofal iechyd yng Nghymru.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 31/07/2023