NDM8273 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Gwasanaethau epilepsi
NDM8273 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Gwasanaethau epilepsi
NDM8273 Luke Fletcher (Gorllewin De
Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod
cyffredinrwydd epilepsi ledled Cymru yn 1 y cant (tua 32,000 o bobl ag
epilepsi), gydag amrywiad lleol yn gysylltiedig â lefelau amddifadedd;
b) bod 11.5 o nyrsys
arbenigol epilepsi cyfwerth ag amser cyfan yng Nghymru, sy'n cyfateb i gymhareb
o 1 nyrs i bob 2,823 o gleifion;
c) bod adroddiad
Steers (2008) yn argymell cymhareb o 300 o gleifion i un nyrs arbenigol
epilepsi a fyddai'n cyfateb i gyfanswm o 107 o nyrsys arbenigol
epilepsi yng Nghymru.
2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i:
a) cefnogi mesurau i
leihau amseroedd aros presennol i gleifion a defnyddwyr gwasanaeth sy'n
defnyddio gwasanaethau epilepsi;
b) cefnogi gweithwyr
iechyd proffesiynol yng Nghymru, drwy sicrhau bod y lefelau staffio ar draws
byrddau iechyd Cymru yn cael adnoddau priodol i gyflawni a chynnal
cynaliadwyedd, diogelwch cleifion, ac ansawdd gwasanaeth.
Report
of the Welsh Neuroscience External Expert Review Group Recommendations for Mid
and South Wales
(Saesneg yn unig)
Cefnogwyr
Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Delyth Jewell (Dwyrain De
Cymru)
Heledd Fychan (Canol De
Cymru)
Jane Dodds (Canolbarth a
Gorllewin Cymru)
Jayne Bryant (Gorllewin
Casnewydd)
Joyce Watson (Canolbarth a
Gorllewin Cymru)
Mark Isherwood (Gogledd
Cymru)
Mike Hedges (Dwyrain
Abertawe)
Peredur Owen Griffiths
(Dwyrain De Cymru)
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 31/07/2023