Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 150(v4) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 04/07/2023 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Mae’r Llywydd wedi cael gwybod, o dan Reol Sefydlog 12.58, y bydd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd yn ateb cwestiynau ar ran y Prif Weinidog.

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd cwestiynau 1-4 a 6-9. Tynnwyd cwestiwn 5 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd ar ôl cwestiwn 2.

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.19

Cynigion i ethol Aelodau i Bwyllgorau (5 munud)

Dechreuodd yr eitem am 14.32

NNDM8316 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Peredur Owen Griffiths (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Deisebau yn lle Luke Fletcher (Plaid Cymru).

NNDM8317 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Llyr Gruffydd (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol yn lle Heledd Fychan (Plaid Cymru).

NNDM8318 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Heledd Fychan (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn lle Sioned Williams (Plaid Cymru).

NNDM8319 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn lle Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru).

NNDM8320 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Luke Fletcher (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn lle Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru).

NNDM8321 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Adam Price (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn lle Peredur Owen Griffiths (Plaid Cymru).

NNDM8322 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Adam Price (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn lle Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru).

Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynnig i Ethol Aelod i Gomisiwn y Senedd (5 munud)

Dechreuodd yr eitem am 14.32

NNDM8324 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 7.9, yn penodi Adam Price (Plaid Cymru) yn aelod o Gomisiwn y Senedd.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(30 munud)

3.

Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 75

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.33

(30 munud)

4.

Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diweddariad ar Ddatblygu’r Gweithlu Ôl-16

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.11

(30 munud)

5.

Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Diweddariad ar Ddiogelwch Adeiladau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.35

(30 munud)

6.

Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ymateb y Llywodraeth i’r ymgynghoriad ‘Datblygu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU’

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.06

(5 munud)

7.

Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023

NDM8311 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Mehefin 2023.

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.38

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

9

15

51

Derbyniwyd y cynnig.

(15 munud)

8.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Caffael

NDM8310 Rebecca Evans (Gŵyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Caffael sy’n ymwneud ag ymchwiliadau gwahardd, gwaharddiadau oherwydd diogelwch cenedlaethol, atal a diwygiadau technegol eraill, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mehefin 2023 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Gellir gweld copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU:

Y Bil Caffael

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Saesneg yn unig)
Ymateb Llywodraeth Cymru

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.51

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8310 Rebecca Evans (Gŵyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Caffael sy’n ymwneud ag ymchwiliadau gwahardd, gwaharddiadau oherwydd diogelwch cenedlaethol, atal a diwygiadau technegol eraill, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mehefin 2023 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Gellir gweld copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU:

Y Bil Caffael

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

0

10

51

Derbyniwyd y cynnig.

(15 munud)

9.

Dadl: Cyllideb Atodol Gyntaf 2023-2024

NDM8298 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023-24 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Mawrth, 13 Mehefin 2023.

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:

(i)   y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;

(ii)  yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

(iii)  cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;

(iv)  cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig;

(v)  cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a

(vi)  manylion am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 – 20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y cytunwyd arno o dan Reol Sefydlog 20.1A.

Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:

- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.

Dogfennau ategol

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.15

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

36

0

15

51

Derbyniwyd y cynnig.

(60 munud)

10.

Dadl: Cysylltiadau Addysg â Chyflogwyr

NDM8309 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi adroddiad Hefin David AS, ‘Pontio i Fyd Gwaith: Adroddiad i Lywodraeth Cymru’.

2. Yn cydnabod rôl addysg wrth ddarparu’r sgiliau a’r hyfforddiant sydd eu hangen ar ddysgwyr yng Nghymru er mwyn ymateb i ofynion economi Cymru.

Pontio i Fyd Gwaith: Adroddiad i Lywodraeth Cymru

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu na ddylai'r baich ariannol ar gyfer prentisiaethau gradd ddisgyn ar yr unigolyn ac y dylai pob fath o addysg fod yn rhad ac am ddim.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.37

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8309 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi adroddiad Hefin David AS, ‘Pontio i Fyd Gwaith: Adroddiad i Lywodraeth Cymru’.

2. Yn cydnabod rôl addysg wrth ddarparu’r sgiliau a’r hyfforddiant sydd eu hangen ar ddysgwyr yng Nghymru er mwyn ymateb i ofynion economi Cymru.

Pontio i Fyd Gwaith: Adroddiad i Lywodraeth Cymru

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu na ddylai'r baich ariannol ar gyfer prentisiaethau gradd ddisgyn ar yr unigolyn ac y dylai pob fath o addysg fod yn rhad ac am ddim.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

15

0

51

Derbyniwyd gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM8309 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi adroddiad Hefin David AS, ‘Pontio i Fyd Gwaith: Adroddiad i Lywodraeth Cymru’.

2. Yn cydnabod rôl addysg wrth ddarparu’r sgiliau a’r hyfforddiant sydd eu hangen ar ddysgwyr yng Nghymru er mwyn ymateb i ofynion economi Cymru.

3. Yn credu na ddylai'r baich ariannol ar gyfer prentisiaethau gradd ddisgyn ar yr unigolyn ac y dylai pob fath o addysg fod yn rhad ac am ddim.

Pontio i Fyd Gwaith: Adroddiad i Lywodraeth Cymru

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

15

0

51

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

11.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.26

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: