Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 128 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/03/2023 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.25

(60 munud)

3.

Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.35

(30 munud)

4.

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.13

(30 munud)

5.

Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cenhadaeth Ein Cenedl

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.34

(30 munud)

6.

Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Diogelwch Adeiladau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.03

(15 munud)

7.

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Cymru) 2023

NDM8228 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Cymru) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Chwefror 2023.

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.39

NDM8228 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Cymru) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Chwefror 2023.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(0 munud)

8.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) - GOHIRIWYD TAN 28 MAWRTH

NDM8226 Mick Antoniw (Pontypridd)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Tachwedd 2022, a gosodwyd Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Rhagfyr 2022, 6 Chwefror 2023, a 10 Mawrth 2023, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Memorandwm, Memorandwm Rhif 2 a Memorandwm Rhif 3)

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem hon tan 28 Mawrth 2023.

(30 munud)

9.

Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru 2021 – 2022

NDM8224 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd yn nodi adroddiad blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ar weithrediad Tribiwnlysoedd Cymru yn ystod y cyfnod rhwng mis Ebrill 2021 a mis Rhagfyr 2022.

Pedwerydd Adroddiad Blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru Ebrill 2021 – Rhagfyr 2022

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 – Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cefnogi galwadau am lawer mwy o annibyniaeth i Uned Tribiwnlysoedd Cymru, a chreu adran anweinidogol i weinyddu Tribiwnlysoedd Cymru.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.46

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cefnogi galwadau am lawer mwy o annibyniaeth i Uned Tribiwnlysoedd Cymru, a chreu adran anweinidogol i weinyddu Tribiwnlysoedd Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

38

52

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

NDM8224 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd yn nodi adroddiad blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ar weithrediad Tribiwnlysoedd Cymru yn ystod y cyfnod rhwng mis Ebrill 2021 a mis Rhagfyr 2022.

Pedwerydd Adroddiad Blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru Ebrill 2021 – Rhagfyr 2022

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd y cynnig.

(60 munud)

10.

Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2021-22

NDM8227 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd:

1.   Yn nodi Adroddiad Blynyddol 2021-22 gan Brif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Ei Fawrhydi yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Chwefror 2023.

2.    Yn nodi arddeliad yr adroddiad sef, er i nifer o'r materion a gododd yn ystod y pandemig ddechrau dangos arwyddion o welliant graddol, bod heriau yn parhau.

3.   Yn croesawu casgliad yr adroddiad bod darparwyr addysg a hyfforddiant wedi ymateb yn dda i'r heriau, gan osod dysgwyr wrth galon eu gwaith.

4.    Yn croesawu canfyddiadau’r adroddiad bod pob darparwr wedi canolbwyntio'n briodol ar les dysgwyr a staff, gyda'r darparwyr cryfaf yn parhau i hunanwerthuso yn agored ac yn onest a rhoi ffocws di-flino ar addysgu a dysgu.

Estyn Adroddiad Blynyddol | Annual Report – 2021-2022 (llyw.cymru)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.25

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8227 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd:

1.   Yn nodi Adroddiad Blynyddol 2021-22 gan Brif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Ei Fawrhydi yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Chwefror 2023.

2.    Yn nodi arddeliad yr adroddiad sef, er i nifer o'r materion a gododd yn ystod y pandemig ddechrau dangos arwyddion o welliant graddol, bod heriau yn parhau.

3.   Yn croesawu casgliad yr adroddiad bod darparwyr addysg a hyfforddiant wedi ymateb yn dda i'r heriau, gan osod dysgwyr wrth galon eu gwaith.

4.    Yn croesawu canfyddiadau’r adroddiad bod pob darparwr wedi canolbwyntio'n briodol ar les dysgwyr a staff, gyda'r darparwyr cryfaf yn parhau i hunanwerthuso yn agored ac yn onest a rhoi ffocws di-flino ar addysgu a dysgu.

Estyn Adroddiad Blynyddol | Annual Report – 2021-2022 (llyw.cymru)

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

13

0

52

Derbyniwyd y cynnig.

11.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.56

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: