Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 111(v3) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/12/2022 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i Weinidog yr Economi

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.21

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

(20 munud)

3.

Cwestiynau Amserol

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd): Pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i fynd i'r afael a'r prinder gwrthfiotigau dros gyfnod y Nadolig?

Gofyn i’r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol

Joel James (Canol De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynnig i sicrhau safonau cyflogaeth mwy trwyadl yng ngwasanaethau tân ac achub Cymru yn sgil yr honiadau yn erbyn Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru?

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.15

Atebwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd): Pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r prinder gwrthfiotigau dros gyfnod y Nadolig?

Atebwyd gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol

Joel James (Canol De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynnig i sicrhau safonau cyflogaeth mwy trwyadl yng ngwasanaethau tân ac achub Cymru yn sgil yr honiadau yn erbyn Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru?

(5 munud)

4.

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.30

Gwnaeth Natasha Asghar ddatganiad am - Dechrau gŵyl Hanukkah (18 Rhagfyr).

Gwnaeth Janet Finch-Saunders ddatganiad am - #YmgyrchPickstock – ymgyrch ymwybyddiaeth troseddau cyllyll yn Aberconwy.

(60 munud)

5.

Datganiad gan Peter Fox - Cyflwyno Bil Arfaethedig Aelod: Bil Bwyd (Cymru)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.35

(60 munud)

6.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol - Trais ar sail rhywedd: Anghenion menywod mudol

NDM8166 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder ar drais ar sail rhywedd – Anghenion menywod mudol, a osodwyd ar 26 Hydref 2022.

Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Rhagfyr 2022.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.26

NDM8166 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder ar drais ar sail rhywedd – Anghenion menywod mudol, a osodwyd ar 26 Hydref 2022.

Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Rhagfyr 2022

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

7.

Dadl Plaid Cymru - Tlodi plant

NDM8165 Sian Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu at y ffaith bod gan Gymru'r cyfraddau tlodi plant uchaf yn y DU.

2. Yn cydnabod bod yr argyfwng costau byw presennol yn gwaethygu tueddiadau diweddar sydd wedi gweld cyfraddau tlodi plant yn cynyddu yng Nghymru, er gwaethaf addewid Llywodraeth Cymru i ddileu tlodi plant erbyn 2020.

3. Yn nodi nad yw Llywodraeth Cymru yn meddu ar strategaeth i fynd i'r afael â thlodi plant ar hyn o bryd, er gwaethaf y ffaith bod Comisiynydd Plant Cymru a grwpiau gweithredu tlodi plant eraill wedi galw dro ar ôl thro am ffocws a gweithredu penodol a brys yn y maes hwn.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth tlodi plant, wedi'i ategu gan dargedau statudol, a hynny ar frys.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi buddsoddiad sylweddol Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi plant ac y bydd Llywodraeth Cymru, yn unol â'i Strategaeth Tlodi Plant gyfredol, yn cyhoeddi ei hadroddiad diweddaru y mis hwn ac yn cyhoeddi strategaeth ddiwygiedig yn 2023.

[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]

Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnwys fel pwynt 3 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

Yn croesawu'r camau y mae Llywodraeth y DU yn eu cymryd i helpu i leddfu'r pwysau costau byw y mae cartrefi yng Nghymru yn eu hwynebu.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.05

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM8165 Sian Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu at y ffaith bod gan Gymru'r cyfraddau tlodi plant uchaf yn y DU.

2. Yn cydnabod bod yr argyfwng costau byw presennol yn gwaethygu tueddiadau diweddar sydd wedi gweld cyfraddau tlodi plant yn cynyddu yng Nghymru, er gwaethaf addewid Llywodraeth Cymru i ddileu tlodi plant erbyn 2020.

3. Yn nodi nad yw Llywodraeth Cymru yn meddu ar strategaeth i fynd i'r afael â thlodi plant ar hyn o bryd, er gwaethaf y ffaith bod Comisiynydd Plant Cymru a grwpiau gweithredu tlodi plant eraill wedi galw dro ar ôl thro am ffocws a gweithredu penodol a brys yn y maes hwn.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth tlodi plant, wedi'i ategu gan dargedau statudol, a hynny ar frys.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

8

0

38

46

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi buddsoddiad sylweddol Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi plant ac y bydd Llywodraeth Cymru, yn unol â'i Strategaeth Tlodi Plant gyfredol, yn cyhoeddi ei hadroddiad diweddaru y mis hwn ac yn cyhoeddi strategaeth ddiwygiedig yn 2023.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

22

46

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gan fod gwelliant 1 wedi ei dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM8165 Sian Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi buddsoddiad sylweddol Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi plant ac y bydd Llywodraeth Cymru, yn unol â'i Strategaeth Tlodi Plant gyfredol, yn cyhoeddi ei hadroddiad diweddaru y mis hwn ac yn cyhoeddi strategaeth ddiwygiedig yn 2023.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

8

14

46

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

8.

Cyfnod Pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.58

(30 munud)

9.

Dadl Fer

NDM8148 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Gwasanaethau bancio yn Gymraeg

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.01

NDM8148 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Gwasanaethau bancio yn Gymraeg

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: