NDM8165 Dadl Plaid Cymru - Tlodi plant
NDM8165 Dadl Plaid Cymru - Tlodi plant
NDM8165 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn gresynu at y
ffaith bod gan Gymru'r cyfraddau tlodi plant uchaf yn y DU.
2. Yn cydnabod bod yr
argyfwng costau byw presennol yn gwaethygu tueddiadau diweddar sydd wedi gweld
cyfraddau tlodi plant yn cynyddu yng Nghymru, er gwaethaf addewid Llywodraeth
Cymru i ddileu tlodi plant erbyn 2020.
3. Yn nodi nad yw
Llywodraeth Cymru yn meddu ar strategaeth i fynd i'r afael â thlodi plant
ar hyn o bryd, er gwaethaf y ffaith bod Comisiynydd Plant Cymru a grwpiau
gweithredu tlodi plant eraill wedi galw dro ar ôl thro am ffocws a gweithredu
penodol a brys yn y maes hwn.
4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth tlodi plant, wedi'i
ategu gan dargedau statudol, a hynny ar frys.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 08/12/2022