Peter Fox AS

Peter Fox AS

Datblygu'r Bil Bwyd (Cymru)

Cyhoeddwyd 22/09/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 25/05/2023   |   Amser darllen munudau

  • Enillydd y balot: Peter Fox AS, Cynnig 018, Bil Bwyd (Cymru)

O bryd i'w gilydd, rhaid i'r Llywydd gynnal balot i benderfynu ar enw Aelod, heblaw aelod o'r Llywodraeth, a gaiff ofyn am gytundeb y Senedd i gyflwyno Bil.

Rhaid i Aelod ddarparu "gwybodaeth cyn y balot" yn nodi bwriad y Bil arfaethedig.

Os bydd y Senedd yn cytuno i gyflwyno Bil o'r fath, gall enillydd y Balot ymgynghori ar ei gynigion cyn cyflwyno'r Bil yn ffurfiol.

Prif Gerrig Milltir Manylion
Dyddiad y balot 22 Medi 2021
Dadl lle bydd y Senedd yn trafod cyflwyno Bil i roi effaith i’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn y Memorandwm Esboniadol

Memorandwm Esboniadol i'r cynnig a gyflwynwyd ar 27 Hydref 2021

Y Cyfarfod Llawn – 17 Tachwedd 2021

Caniatâd i frwrw ati - Ie

Ymgynghoriad ar Fil Bwyd (Cymru) drafft

Ar 18 Gorffennaf 2022, lansiwyd ymgynghoriad ar Bil Bwyd (Cymru) drafft gan Peter Fox AS, gan wahodd pobl i roi sylwadau ar sut y mae’r gyfraith arfaethedig wedi cael ei drafftio. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 16 Medi 2022.

Dyddiad Cyflwyno'r Bil

12 Rhagfyr 2022

Gwybodaeth am daith ddeddfwriaethol y Bil ar ôl ei gyflwyno

Craffu Bil Bwyd (Cymru)

Cynhaliwyd dadl ar yr egwyddorion cyffredinol ar 24 Mai 2023. Gwrthodwyd y cynnig i dderbyn yr egwyddorion cyffredinol a gwrthodwyd y Bil gan y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.14.