Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 65(v4)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 26/04/2022 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.31 |
|||||||||
(0 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Covid-19 - TYNNWYD YN ÔL |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.58 |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynllun Adfer Gofal wedi’i Gynllunio Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.39 |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cyflawni ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i ariannu rhagor o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.23 |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Therapi Trosi Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.48 |
|||||||||
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog Dechreuodd yr eitem am 17.07 NNDM7985 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8: Yn
atal dros dro y rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod
y datganiad a'r cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r
amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn
caniatáu i NNDM7983 a NNDM7984 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ar 26
Ebrill 2022. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||
(15 munud) |
Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2022 NNDM7983 Lesley Griffiths
(Wrecsam) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau
Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2022 yn cael ei
llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 8 Ebrill 2022. Dogfennau Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.07 NNDM7983 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1.
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd
(Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn
ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Ebrill 2022. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(15 munud) |
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2022 NNDM7984 Lesley Griffiths
(Wrecsam) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau
Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2022 a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 13 Ebrill 2022. Dogfennau Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.11 NNDM7984 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1.
Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5)
(Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2022 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Ebrill
2022 Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(15 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Iaith Arwyddion Prydain NDM7981 Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Cynnig bod y Senedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y
darpariaethau ym Mil Iaith Arwyddion Prydain i’r graddau y maent yn dod o fewn
cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru. Gosodwyd
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Mawrth 2022 yn
unol â Rheol Sefydlog 29.2. Bil Iaith
Arwyddion Prydain (Saesneg
yn unig) Dogfennau Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.21 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7981 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y
darpariaethau ym Mil Iaith Arwyddion Prydain i’r graddau y maent yn dod o fewn
cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru. Gosodwyd
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Mawrth 2022 yn
unol â Rheol Sefydlog 29.2. Bil
Iaith Arwyddion Prydain (Saesneg
yn unig) Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||
(15 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Iechyd a Gofal NDM7982 Eluned Morgan
(Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod y Senedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y
darpariaethau yn y Bil Iechyd a Gofal sy’n ymwneud â thrafodion masnachol, mewn organau i'w trawsblannu: troseddau
alldiriogaethol, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y
Senedd. Gosodwyd
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Ebrill
2022 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2. Bil Iechyd a
Gofal (Saesneg
yn unig) Dogfennau Ategol Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 17.38 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7982 Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin
Cymru) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU
ystyried y darpariaethau yn y Bil Iechyd a Gofal sy’n ymwneud â thrafodion
masnachol mewn organau i’w trawsblannu: troseddau alldiriogaethol, i'r graddau
y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Ebrill 2022 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2. Bil Iechyd a
Gofal (Saesneg
yn unig) Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. Derbyniwyd y cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24
i gynnal dadl ar y ddwy eitem canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar
wahân. |
|||||||||
Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pwer i Addasu) NDM7986 Lesley Griffiths
(Wrecsam) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: 1. Yn cytuno i
egwyddorion cyffredinol Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu). Gosodwyd Bil Deddfau Trethi
Cymru etc. (Pŵer i Addasu) a'r Memorandwm
Esboniadol gerbron y Senedd ar 13 Rhagfyr 2021. Gosodwyd
adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Fil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i
Addasu) gerbron y Senedd ar 8 Ebrill 2022. Dogfennau Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.51 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7986 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: 1. Yn cytuno i
egwyddorion cyffredinol Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu). Gosodwyd Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar
13 Rhagfyr 2021. Gosodwyd adroddiad y
Pwyllgor Cyllid ar Fil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) gerbron y
Senedd ar 8 Ebrill 2022. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
||||||||||
Cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol ynghylch Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pwer i Addasu) NDM7987 Lesley Griffiths
(Wrecsam) Cynnig bod Senedd
Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fil Deddfau Trethi
Cymru etc. (Pŵer i Addasu), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn
gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o
ganlyniad i’r Bil. Cofnodion: Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7987 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Senedd
Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu), yn cytuno i
unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69,
sy’n codi o ganlyniad i’r Bil. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2020-21 NDM7980 Lesley Griffiths
(Wrecsam) Cynnig bod y Senedd: 1.
Yn nodi Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a
Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2020-21 a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 7 Ebrill 2022. 2.
Yn croesawu'r ffaith bod yr adroddiad yn cydnabod gwydnwch a dyfalbarhad y
gweithlu addysg a sut y maent wedi bod yn hyblyg, yn greadigol ac wedi addasu
mewn ffyrdd arloesol i gefnogi dysgwyr. 3.
Yn croesawu'r ffaith ‘y rhoddodd yr holl ddarparwyr flaenoriaeth i les eu
dysgwyr’ a’u bod yn parhau i gryfhau cysylltiadau gyda theuluoedd a chymunedau. 4.
Yn nodi na ddylem ddiystyru effaith y pandemig ar les dysgwyr, staff ac
arweinwyr. Cyflwynwyd y gwelliant
canlynol: Gwelliant 1 - Sian Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwyntiau
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at
ganfyddiadau Estyn y "daeth y rhaniad rhwng disgyblion o gefndiroedd
difreintiedig a mwy breintiedig yn amlycach dros gyfnod y pandemig." Yn credu y bydd y
gwahaniaethau a amlinellir yn yr adroddiad yn cael eu gwaethygu ymhellach gan
yr argyfwng costau byw ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag Estyn i
gynyddu ymdrechion i sicrhau bod mesurau i gefnogi plant o gefndiroedd
difreintiedig mewn ysgolion yn cael eu gweithredu ar frys. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.35 Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn: Gwelliant
1 - Sian
Gwenllian (Arfon) Ychwanegu
pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
gresynu at ganfyddiadau Estyn y "daeth y rhaniad rhwng disgyblion o
gefndiroedd difreintiedig a mwy breintiedig yn amlycach dros gyfnod y
pandemig." Yn
credu y bydd y gwahaniaethau a amlinellir yn yr adroddiad yn cael eu gwaethygu
ymhellach gan yr argyfwng costau byw ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio
gydag Estyn i gynyddu ymdrechion i sicrhau bod mesurau i gefnogi plant o
gefndiroedd difreintiedig mewn ysgolion yn cael eu gweithredu ar frys. Derbyniwyd
y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. NDM7980
Lesley Griffiths
(Wrecsam) Cynnig
bod y Senedd: 1. Yn nodi Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd
Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2020-21 a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Ebrill 2022. 2. Yn croesawu'r ffaith bod yr adroddiad yn
cydnabod gwydnwch a dyfalbarhad y gweithlu addysg a sut y maent wedi bod yn hyblyg,
yn greadigol ac wedi addasu mewn ffyrdd arloesol i gefnogi dysgwyr. 3. Yn croesawu'r ffaith ‘y rhoddodd yr holl
ddarparwyr flaenoriaeth i les eu dysgwyr’ a’u bod yn parhau i gryfhau
cysylltiadau gyda theuluoedd a chymunedau. 4. Yn nodi na ddylem ddiystyru effaith y
pandemig ar les dysgwyr, staff ac arweinwyr. 5.
Yn gresynu at ganfyddiadau Estyn y
"daeth y rhaniad rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a mwy
breintiedig yn amlycach dros gyfnod y pandemig." 6.
Yn credu y bydd y gwahaniaethau a
amlinellir yn yr adroddiad yn cael eu gwaethygu ymhellach gan yr argyfwng
costau byw ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag Estyn i gynyddu
ymdrechion i sicrhau bod mesurau i gefnogi plant o gefndiroedd difreintiedig
mewn ysgolion yn cael eu gweithredu ar frys. Derbyniwyd
y cynnig fel y’i diwygiwyd yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 19.12 cafodd y trafodion eu hatal
dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio. |
|||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 19.18 |