Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 33(v3) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/11/2021 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.16

Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

(20 munud)

3.

Cwestiynau Amserol

I’w ateb gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd:

Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gyrwyr bysiau Arriva Cymru sy'n ceisio cyflog teg?

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.04

Atebwyd gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd:

Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gyrwyr bysiau Arriva Cymru sy'n ceisio cyflog teg?

(5 munud)

4.

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.14

Gwnaeth Llyr Gruffydd ddatganiad am - Nodi a dathlu llwyddiant y Cynghorydd Abdul Khan ar gael ei ethol yn Gadeirydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy – y person Bangladeshaidd cyntaf yng Nghymru i ddod yn gadeirydd cyngor sir.

Gwnaeth Vikki Howells ddatganiad am - Y cynlluniau i adfer Cofeb Ryfel Penrhiwceiber i’w hen ogoniant wrth iddi ddathlu 95 mlynedd.

Gwnaeth Rhys ab Owen ddatganiad am - Nodi 100 mlynedd o Gymanfa Ganu Cymry Llundain Westminster.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.19 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd.

(5 munud)

5.

Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Aelodaeth y Pwyllgor Safonau Ymddygiad

NDM7826 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Aelodaeth y Pwyllgor Safonau Ymddygiad’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Tachwedd 2021.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 22, fel y nodir yn Atodiad A adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.26

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(30 munud)

6.

Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022-23

NDM7830 Ken Skates (De Clwyd)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:

Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022-23, fel y pennir yn Nhabl 1 o Gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022-23, a osodwyd gerbron y Senedd ar 10 Tachwedd 2021 a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).

Dogfennau ategol
Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar gyllideb ddrafft Comisiwn y Senedd
Ymateb Comisiwn y Senedd

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.27

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7830 Ken Skates (De Clwyd)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:

Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022-23, fel y pennir yn Nhabl 1 o Gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022-23, a osodwyd gerbron y Senedd ar 10 Tachwedd 2021 a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

13

51

Derbyniwyd y cynnig.

(60 munud)

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn ceisio cytundeb y Senedd i gyflwyno Bil Aelod – Bil Bwyd (Cymru)

NDM7813 Peter Fox (Mynwy)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91:

Yn cytuno y caiff Peter Fox AS gyflwyno Bil i roi effaith i'r wybodaeth a gynhwysir yn y Memorandwm Esboniadol a gyflwynwyd ar 27 Hydref 2021 o dan Reol Sefydlog 26.91A.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.52

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7813 Peter Fox (Mynwy)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91:

Yn cytuno y caiff Peter Fox AS gyflwyno Bil i roi effaith i'r wybodaeth a gynhwysir yn y Memorandwm Esboniadol a gyflwynwyd ar 27 Hydref 2021 o dan Reol Sefydlog 26.91A.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

2

22

51

Derbyniwyd y cynnig.

(60 munud)

8.

Dadl Plaid Cymru – Cefnogi gwledydd incwm isel i reoli'r pandemig Covid-19

NDM7827 Siân Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod Cymru wedi ymrwymo, yn ôl y gyfraith, i weithredu fel cenedl sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015;

b) bod gwledydd incwm isel yn ysgwyddo'r baich uchaf o ganlyniadau iechyd ac economaidd pandemig COVID-19;

c) ymdrechion staff GIG Cymru i sicrhau bod gan Gymru un o'r rhaglenni cyflenwi brechlynnau mwyaf llwyddiannus yn fyd-eang.

2. Yn credu, gyda'r sefyllfa a'r profiad arweinyddiaeth hwn, fod cyfrifoldeb ar Gymru i rannu ei harbenigedd, ei gwybodaeth dechnegol a'i chyflenwadau meddygol gyda gwledydd incwm isel i gefnogi rhaglenni brechu a thriniaeth byd-eang.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnull byrddau iechyd Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac elusennau Cymru i nodi a darparu cymorth hirdymor i wledydd incwm isel i ddod â'r pandemig dan reolaeth ar lefel fyd-eang.

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gefnogi cynlluniau i hepgor rheolau eiddo deallusol a mynnu bod gwybodaeth a thechnoleg brechlyn yn cael ei rhannu drwy gronfa mynediad at dechnoleg COVID-19 Sefydliad Iechyd y Byd, gan alluogi cynnydd mewn cynhyrchiant brechlynnau byd-eang a fydd yn achub bywydau.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1. Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi ymhellach bod Llywodraeth y DU wedi darparu £548 miliwn i ymrwymiad marchnad COVAX, sy'n darparu 1.8 biliwn o frechlynnau i hyd at 92 o wledydd er mwyn sicrhau mynediad teg byd-eang i frechlynnau COVID-19.

Yn cydnabod, fel rhan o Lywyddiaeth G7 y DU, fod Llywodraeth y DU wedi hyrwyddo mynediad teg i frechlynnau, therapiwteg a diagnosteg ac wedi sicrhau ymrwymiad AstraZeneca i ddosbarthu ei frechlyn ar sail ddi-elw.

Yn cydnabod bod rhwydwaith Llywodraeth y DU o gynghorwyr iechyd mewn gwledydd perthnasol yn cefnogi llywodraethau gwledydd hynny i dderbyn a darparu brechlynnau a bydd yn rhannu 100 miliwn dos ychwanegol erbyn mis Mehefin 2022. 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.46

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM7827 Siân Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod Cymru wedi ymrwymo, yn ôl y gyfraith, i weithredu fel cenedl sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015;

b) bod gwledydd incwm isel yn ysgwyddo'r baich uchaf o ganlyniadau iechyd ac economaidd pandemig COVID-19;

c) ymdrechion staff GIG Cymru i sicrhau bod gan Gymru un o'r rhaglenni cyflenwi brechlynnau mwyaf llwyddiannus yn fyd-eang.

2. Yn credu, gyda'r sefyllfa a'r profiad arweinyddiaeth hwn, fod cyfrifoldeb ar Gymru i rannu ei harbenigedd, ei gwybodaeth dechnegol a'i chyflenwadau meddygol gyda gwledydd incwm isel i gefnogi rhaglenni brechu a thriniaeth byd-eang.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnull byrddau iechyd Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac elusennau Cymru i nodi a darparu cymorth hirdymor i wledydd incwm isel i ddod â'r pandemig dan reolaeth ar lefel fyd-eang.

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gefnogi cynlluniau i hepgor rheolau eiddo deallusol a mynnu bod gwybodaeth a thechnoleg brechlyn yn cael ei rhannu drwy gronfa mynediad at dechnoleg COVID-19 Sefydliad Iechyd y Byd, gan alluogi cynnydd mewn cynhyrchiant brechlynnau byd-eang a fydd yn achub bywydau.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

13

51

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.30 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.

9.

Cyfnod Pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.35

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

10.

Dadl Fer

NDM7829 Huw Irranca-Davies (Ogwr)

Cladin wal allanol: unioni pethau pan fyddant yn mynd o chwith

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.38

NDM7829 Huw Irranca-Davies (Ogwr)

Cladin wal allanol: unioni pethau pan fyddant yn mynd o chwith.