Pobl y Senedd

Ken Skates AS

Ken Skates AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Llafur Cymru

Grŵp Llafur Cymru

De Clwyd

Comisiynydd

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i ffoaduriaid o Wcráin ers i Rwsia ymosod ar eu gwlad?

Wedi'i gyflwyno ar 14/03/2024

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd o ran creu ysgol feddygol yng Ngogledd Cymru?

Wedi'i gyflwyno ar 13/03/2024

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith newid hinsawdd ar y rhwydwaith trafnidiaeth?

Wedi'i gyflwyno ar 13/03/2024

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gadw athrawon?

Wedi'i gyflwyno ar 06/03/2024

Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei roi i Lywodraeth Cymru ynghylch effaith Deddf Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) 2023 ar y sector cyhoeddus yng Nghymru?

Wedi'i gyflwyno ar 28/02/2024

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y sector ynni niwclear yng Nghymru?

Wedi'i gyflwyno ar 14/02/2024

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Ken Skates AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Yn ei amser rhydd, mae Ken yn mwynhau rhedeg, nofio, heicio a chyrlio. Mae ganddo ddiddordeb hefyd mewn garddio, celf a dylunio pensaernïol. Mae ei ddiddordebau gwleidyddol yn cynnwys hyfforddiant sgiliau, twristiaeth, gwarchod yr amgylchedd, iechyd meddwl, chwaraeon a ffitrwydd a chynhwysiant cymdeithasol.

Hanes personol

Cafodd Ken Skates ei eni yn 1976 yn Wrecsam. Cafodd ei addysg yn Ysgol Alun, yr Wyddgrug, ac aeth ymlaen i astudio Gwyddor Gymdeithasol a Gwleidyddol ym Mhrifysgol Caergrawnt.

Cefndir proffesiynol

Roedd Ken yn y gorffennol yn newyddiadurwr gyda phapur newydd y Wrexham Leader, a BBC Cymru yn Wrecsam. Roedd yn Gynorthwyydd Personol i Mark Tami AS.

Hanes gwleidyddol

Yn 2008, cafodd ei ethol yn gynghorydd cymuned. Mae diddordebau polisi Ken yn cynnwys gweithgynhyrchu, iechyd meddwl, chwaraeon a hamdden, dileu tlodi a'r economi wleidyddol.

Cafodd Ken ei benodi i Lywodraeth Cymru fel y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau a Thechnoleg yn 2011. Yna cafodd ei benodi'n Ddirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn 2014 a'i ddyrchafu'n Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith ym mis Mai 2016.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 06/05/2011 - 05/04/2016
  2. 06/05/2016 - 28/04/2021
  3. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Ken Skates AS