Agenda
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyfeirnod: 337
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
| Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
|---|---|---|
|
Cynhelir y cyfarfod
hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau
yn Siambr y Senedd ac eraill
yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg Dogfennau ategol: |
|
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig |
|
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol |
|
(5 munud) |
Datganiadau 90 eiliad |
|
(5 munud) |
Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Chofrestru Buddiannau’r Aelodau NDM9203 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod
y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn
ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio’r Rheolau Sefydlog: Rheolau
Sefydlog 2, 3, 4 a 5 mewn perthynas â Chofrestru Buddiannau’r Aelodau’, a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mawrth 2026. 2. Yn
cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad B
adroddiad y Pwyllgor Busnes. 3. Yn nodi
y bydd y newidiadau yn dod i rym ar ddechrau'r Senedd nesaf |
|
(5 munud) |
Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Datgan Buddiannau’r Aelodau NDM9204 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod
y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn
ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio’r Rheolau Sefydlog: Rheolau
Sefydlog 2, 13, 15 a 17 mewn perthynas â datgan buddiannau’r Aelodau’, a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mawrth 2026. 2. Yn
cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad B
adroddiad y Pwyllgor Busnes. 3. Yn nodi
y bydd y newidiadau yn dod i rym ar ddechrau'r Senedd nesaf. |
|
(5 munud) |
Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Busnes Seneddol yn y Seithfed Senedd NDM9205 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod
y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn
ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio’r Rheolau Sefydlog: Rheolau
Sefydlog 11.10 a 12.6(i)’, a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mawrth 2026. 2. Yn
cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad B
adroddiad y Pwyllgor Busnes. 3. Yn nodi
y bydd y newidiadau yn dod i rym ar ddechrau'r Senedd nesaf |
|
(5 munud) |
Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Biliau Aelod NDM9206 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod
y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn
ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio’r Rheolau Sefydlog: Rheol
Sefydlog 26: Biliau Aelod’, a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mawrth 2026. 2. Yn
cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad 2
adroddiad y Pwyllgor Busnes. 3. Yn nodi
y bydd y newidiadau yn dod i rym ar ddechrau'r Senedd nesaf |
|
(5 munud) |
Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Biliau Cyhoeddus NDM9207 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod
y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn
ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio’r Rheolau Sefydlog: Rheol
Sefydlog 26 Deddfau’r Senedd, a newidiadau canlyniadol i Reolau Sefydlog 26A
Deddfau Preifat y Senedd, 26B Deddfau Hybrid y Senedd a 26C Deddfau
Cydgrynhoi’r Senedd’, a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mawrth 2026. 2. Yn
cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad 2
adroddiad y Pwyllgor Busnes. 3. Yn nodi
y bydd y newidiadau yn dod i rym ar ddechrau'r Senedd nesaf |
|
(5 munud) |
Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Deisebau’r Cyhoedd NDM9208 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn unol â
Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried adroddiad y
Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio’r Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 23 – Deisebau’r
Cyhoedd’, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mawrth 2026. 2. Yn cymeradwyo'r cynnig i
ddiwygio Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad B adroddiad y Pwyllgor Busnes.
3. Yn nodi y bydd y newidiadau yn
dod i rym ar ddechrau'r Senedd nesaf |
|
(30 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Cywain y cynhaeaf: Cefnogi diwydiant prosesu bwyd Cymru NDM9200 Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru) Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a
Materion Gwledig ‘Cywain y cynhaeaf: Cefnogi diwydiant prosesu bwyd Cymru’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Ionawr
2026. Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r
adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mawrth 2026. |
|
(30 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Cronfa Twf Lleol NDM9201 Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru) Yn nodi adroddiad
Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar y Gronfa
Twf Lleol, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror
2026. |
|
(15 munud) |
Dadl: Cyfnod 4 y Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) |
|
(60 munud) |
Dadl ar Adroddiad y Bwrdd Adolygiad Seneddol sy'n Gynhwysol ac yn Ystyriol o Deuluoedd NDM9199 Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi'r adroddiad ar yr Adolygiad o
Senedd sy'n Gynhwysol ac yn Ystyriol o Deuluoedd,
Senedd i Bawb, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 3 Mawrth 2026. |
|
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Polisi Economaidd NDM9202 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi Datganiad Gwanwyn Llywodraeth y DU ar 3
Mawrth 2026 a'r rhagolygon economaidd diweddaraf. 2. Yn gresynu, o dan lywodraethau Llafur yn San
Steffan a Chaerdydd: a) bod rhagolygon twf economaidd wedi'u hisraddio; b) bod disgwyl i ddiweithdra godi a bod Cymru'n parhau
i fod â'r gyfradd gyflogaeth isaf yn y DU; c) bod nifer y bobl yng Nghymru ar gredyd cynhwysol ar
ei lefel uchaf erioed; d) mai'r lefel anweithgarwch economaidd yng Nghymru
yw'r uchaf ym Mhrydain Fawr; e) mai pecynnau cyflog yng Nghymru yw'r isaf yn y
Deyrnas Unedig. 3. Yn credu, ar ôl bron i dri degawd o lywodraeth dan
arweiniad Llafur yng Nghymru, bod economi Cymru yn tanberfformio a bod angen
dull cryf sy'n ffafrio twf ar bobl sy'n gweithio a busnesau. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gael Cymru i weithio
drwy wneud y canlynol: a) gwneud toriad o 1 geiniog yn y bunt i gyfradd
sylfaenol treth incwm Cymru; b) diddymu ardrethi busnes ar gyfer cwmnïau bach,
tafarndai a swyddfeydd post; c) dileu'r dreth dwristiaeth arfaethedig; d) diddymu treth trafodiadau tir wrth brynu prif
breswylfa; e) ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gynnal
refferendwm cyn cyflwyno cynnydd o fwy na 5 y cant i'r dreth gyngor. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Yn croesawu’r £555 milliwn yn ychwanegol mewn cyllid
cyfalaf ac adnoddau ar gyfer Cymru dros y tair blynedd nesaf yn natganiad y
gwanwyn Llywodraeth y DU. Gwelliant 2 Heledd Fychan (Canol De Cymru) Yn gresynu at y canlynol o dan Lywodraeth Geidwadol
flaenorol y DU: a) bod treth fel cyfran o CMC wedi cyrraedd ei lefel
uchaf ers yr Ail Ryfel Byd; b) bod safonau byw wedi gostwng yn ystod Senedd
2019-2024, y dirywiad cyntaf o'r fath ar gofnod; c) bod cyllideb fach Liz Truss, gyda chefnogaeth y grŵp
Ceidwadol yn y Senedd, wedi chwalu economi'r DU ac anfon taliadau morgais i
berchnogion tai drwy'r to; d) bod Brexit wedi achosi ergyd economaidd i Gymru
sydd hyd yma yn fwy na £4 biliwn, ac mae'n parhau i osod biwrocratiaeth beichus
ar fusnesau Cymru; ac e) na wnaeth addewidion i drydaneiddio'r rheilffordd
rhwng Caerdydd ac Abertawe ac ailwampio rheilffordd Gogledd Cymru erioed gael
eu gwireddu. Yn gresynu at y canlynol o dan y llywodraethau Llafur
presennol yn San Steffan a Chymru: a) bydd cyllideb Cymru yn profi ei thwf isaf mewn
gwariant o ddydd i ddydd y tu allan i'r blynyddoedd llymder presennol, a
chyllideb gyfalaf sy'n crebachu; b) bod fformiwla Barnett wedi cael ei llywio ar
draul Cymru wrth gyfrifo ad-daliadau'r Trysorlys ar gyfer cyfraniadau yswiriant
gwladol cyflogwyr yn y sector cyhoeddus craidd, gan greu twll du yng nghyllid
cyhoeddus Cymru y bu'n rhaid ei ysgwyddo gan awdurdodau lleol; ac c) bod Cymru ymhlith yr isaf o'r 12 cenedl a rhanbarth
y DU ar ystod o fetrigau perfformiad economaidd, gan gynnwys cynhyrchiant,
cyflogaeth ac incwm sylfaenol y pen. Yn credu: a) bod pobl Cymru wedi cael eu gadael mewn gwaeth
sefyllfa yn sgil agendâu polisi llywodraethau olynol yn San Steffan; b) bod Reform yn bygwth gwaethygu'r niwed hwn drwy
gynlluniau gwariant sydd heb eu costio a thoriadau dwfn i wasanaethau
cyhoeddus; ac c) mai dim ond Plaid Cymru sy'n cynnig arweinyddiaeth
newydd i ryddhau potensial economaidd Cymru. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) sefydlu asiantaeth ddatblygu genedlaethol ar gyfer
yr 21ain ganrif i ryddhau potensial economi Cymru; b) gweithredu rhaglen gofal plant Plaid Cymru i arbed
mwy na £30,000 i deuluoedd mewn costau fesul plentyn; c) diwygio ardrethi busnes i gefnogi busnesau bach a
chanolig domestig yn well; a d) gweithio gyda Phartneriaeth Pensiwn Cymru i sicrhau
bod cyfran uwch o gyfoeth asedau pensiwn Cymru yn cael ei chadw a'i
hail-fuddsoddi yn ein cymunedau. Gwelliant 3 Laura Anne Jones (Dwyrain De Cymru) Yn credu, bod economi Cymru, ar ôl bron i dri degawd o
Lywodraethau Llafur Cymru, gyda chefnogaeth Plaid Cymru, yn tanberfformio a bod
angen dull cryf o gefnogi twf ar fusnesau a phobl sy'n gweithio. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â chostau
byw, rhoi hwb i economi Cymru, a rhoi pobl Cymru yn gyntaf trwy: a) cyflwyno cynllun credadwy i leihau treth incwm un
geiniog ar draws pob band; b) dileu'r dreth dwristiaeth; c) cyflwyno clo ar drethi er mwyn atal trethi neu
ardollau newydd rhag cael eu creu gan Lywodraeth Cymru; d) dileu sero net i roi terfyn ar gymorthdaliadau
gwastraffus, a'i gwneud yn haws adeiladu seilwaith; e) ei gwneud yn ofynnol i gynghorau gynnal refferenda
ar gyfer codiadau'r dreth gyngor uwchlaw 4.99 y cant; f) adfer y terfyn cyflymder diofyn o 30mya; g) cyflawni ffordd liniaru'r M4; h) cynnal adolygiad trylwyr o'r holl reoliadau i asesu
a ydynt yn angenrheidiol, yn gymesur ac yn addas i'r diben; i) gweithredu lluosydd cyfraddau busnes is yn barhaol
ar gyfer tafarndai, gwestai a lleoliadau lletygarwch; a j) blaenoriaethu caffael gyda chwmnïau lleol. Cyd-gyflwynwyr |
|
(30 munud) |
Cyfnod pleidleisio |
|
(30 munud) |
Dadl Fer NDM9190 Russell George (Sir Drefaldwyn) |
PDF 247 KB