Cronfa Twf Lleol

Cronfa Twf Lleol

Inquiry4

 

Mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig wedi’i sefydlu gan y Senedd i edrych ar bolisi a deddfwriaeth, ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif mewn meysydd penodol. Mae'r meysydd hyn yn cynnwys busnes, datblygu economaidd, sgiliau, masnach ryngwladol, amaethyddiaeth, pysgodfeydd a bwyd.

 

Mae’r Pwyllgor yn cynnal ymchwiliad byr i’r Gronfa Twf Lleol.

 

Cylch gwaith

Yn benodol, bydd y Pwyllgor yn ystyried:

>>>> 

>>>Trefniadau arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllido a chyflawni’r Gronfa Twf Lleol o fis Ebrill 2026 ymlaen.

>>>I ba raddau y mae cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gronfa Twf Lleol yn debygol o gyflawni ei hamcan o gefnogi twf cynhyrchiant a mynd i'r afael â materion sy'n arwain at anghydraddoldebau economaidd.

>>>P’un a ddylid newid unrhyw elfennau o gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gronfa Twf Lleol, gan gynnwys pa elfennau y gallai’r rhain fod, a pham.

>>>Y prif wersi y gellir eu dysgu o drefniadau cyllido datblygu rhanbarthol blaenorol megis Cronfeydd Strwythurol yr UE a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin. I ba raddau y mae cynigion Llywodraeth Cymru yn rhoi’r gwersi hyn ar waith.

<<< 

 

Adroddiad
Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad Cronfa Twf Lleol ar 23 Chwefror 2026 (PDF 3.16MB).

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 20/11/2025

Dogfennau