Prosesu Bwyd

Prosesu Bwyd

Inquiry3

 

Mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig wedi’i sefydlu gan y Senedd i edrych ar bolisi a deddfwriaeth, ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif mewn meysydd penodol. Mae'r meysydd hyn yn cynnwys busnes, datblygu economaidd, sgiliau, masnach ryngwladol, amaethyddiaeth, pysgodfeydd a bwyd.

 

Mae'r Pwyllgor yn cynnal ymchwiliad i Brosesu Bwyd.

 

Cylch Gorchwyl

Yn benodol, bydd y Pwyllgor yn ystyried:

>>>> 

>>>perfformiad Llywodraeth Cymru o ran cyflawni yn erbyn yr amcanion yn ei Gweledigaeth ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod;

>>>a yw'r amcanion yn y Weledigaeth ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod yn parhau i fod yn addas at y diben neu a ddylid eu diwygio;

>>>yr effaith y mae gostyngiadau yn nifer y da byw yn ei chael ar allu'r sector prosesu i ychwanegu gwerth at gynnyrch o Gymru;

>>>beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi'r sector prosesu ymhellach i gynyddu gwerth ychwanegol cynhyrchion bwyd yng Nghymru, yn enwedig ar gyfer y sectorau cig coch, llaeth a garddwriaeth;

>>>y rhwystrau rhag cynyddu caffael cyhoeddus o ran bwyd sydd wedi'i brosesu yng Nghymru.

<<< 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 08/05/2025

Ymgynghoriadau