Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyfeirnod: 261
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/02/2025 - Y Cyfarfod Llawn
| Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y
Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl
Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 1 a 5 gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau
a Phartneriaeth Gymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet a’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol Bydd y Gweinidog Iechyd Meddwl
a Llesiant a’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol yn ateb cwestiynau ar ran
yr Ysgrifennydd Cabinet. Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidogion ar ôl
Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.19 Atebwyd y cwestiynau
gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant a’r Gweinidog Plant a Gofal
Cymdeithasol ar ran yr Ysgrifennydd Cabinet. Gofynnwyd cwestiynau
1-4 a 6-9. Tynnwyd cwestiwn 5 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i
ofyn cwestiynau i’r Gweinidogion ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Cwestiynau Amserol Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau amserol Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau amserol |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.16 Gwnaeth Alun Davies ddatganiad am - Teyrnged
i’r Arglwydd Keith Brookman, o Lyn Ebwy. Gwnaeth
Mabon ap Gwynfor ddatganiad am -
Menter gymdeithasol Y Dref Werdd ym Mlaenau Ffestiniog, sydd wedi llwyddo i
gael arian gan y Loteri i redeg ei rhaglenni cymunedol. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Bwyd NDM8814 Jenny Rathbone
(Canol Caerdydd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) er gwaethaf y
digonedd o fwyd o safon a gynhyrchir gan ffermwyr Cymru, mae goruchafiaeth bwyd
wedi'i brosesu'n helaeth yn ein diet yn arwain at ganlyniadau dinistriol i
iechyd, cyfoeth a llesiant ein cenedl; b) bod mynediad at fwyd
fforddiadwy ac iach yn fater cyfiawnder cymdeithasol, gyda chymunedau tlotach
yn cael eu heffeithio'n anghymesur gan afiechydon sy'n gysylltiedig â diet; c) bod cynhyrchiant
Cymru o 20,000 tunnell o ffrwythau a llysiau y flwyddyn ond yn cyfateb i
chwarter dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd fesul person; d) y gall ehangu
cynhyrchu bwyd lleol cynaliadwy helpu i leihau milltiroedd bwyd, gwella
diogelwch bwyd, a chreu swyddi gwyrdd yng Nghymru; ac e) bod pontio i fod yn
genedl fwyd gynaliadwy yn gofyn am ddull cydgysylltiedig, cydweithredol ac
ataliol yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. 2. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i: a) datblygu strategaeth
llywodraeth gyfannol a chydgysylltiedig i wella diet pobl; b) hyrwyddo manteision
bwyd ffres, heb ei brosesu i annog newidiadau dietegol a mynd i'r
afael â goruchafiaeth bwydydd wedi'u prosesu'n helaeth; c) defnyddio'r
buddsoddiad sydd i'w groesawu mewn partneriaethau bwyd lleol i ddod â thyfwyr,
arlwywyr a bwytawyr at ei gilydd i ehangu garddwriaeth yng Nghymru; d) cyflymu'r
gwaith o lunio strategaeth fwyd gymunedol o fewn y Chweched Senedd;
ac e) defnyddio pŵer
caffael cyhoeddus i wella'r bwyd a weinir i ddisgyblion, cleifion a phobl sy'n
byw mewn cartrefi gofal. Cyd-gyflwynwyr Supporters James Evans
(Brycheiniog a Sir Faesyfed) Julie Morgan
(Gogledd Caerdydd) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.19 NDM8814 Jenny Rathbone
(Canol Caerdydd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) er gwaethaf y
digonedd o fwyd o safon a gynhyrchir gan ffermwyr Cymru, mae goruchafiaeth bwyd
wedi'i brosesu'n helaeth yn ein diet yn arwain at ganlyniadau dinistriol i
iechyd, cyfoeth a llesiant ein cenedl; b) bod mynediad at
fwyd fforddiadwy ac iach yn fater cyfiawnder cymdeithasol, gyda chymunedau
tlotach yn cael eu heffeithio'n anghymesur gan afiechydon sy'n gysylltiedig â
diet; c) bod cynhyrchiant
Cymru o 20,000 tunnell o ffrwythau a llysiau y flwyddyn ond yn cyfateb i
chwarter dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd fesul person; d) y gall ehangu
cynhyrchu bwyd lleol cynaliadwy helpu i leihau milltiroedd bwyd, gwella
diogelwch bwyd, a chreu swyddi gwyrdd yng Nghymru; ac e) bod pontio i fod yn
genedl fwyd gynaliadwy yn gofyn am ddull cydgysylltiedig, cydweithredol ac
ataliol yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. 2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) datblygu
strategaeth llywodraeth gyfannol a chydgysylltiedig i wella diet pobl; b) hyrwyddo manteision
bwyd ffres, heb ei brosesu i annog newidiadau dietegol a mynd i'r
afael â goruchafiaeth bwydydd wedi'u prosesu'n helaeth; c) defnyddio'r
buddsoddiad sydd i'w groesawu mewn partneriaethau bwyd lleol i ddod â thyfwyr,
arlwywyr a bwytawyr at ei gilydd i ehangu garddwriaeth yng Nghymru; d) cyflymu'r
gwaith o lunio strategaeth fwyd gymunedol o fewn y Chweched Senedd;
ac e) defnyddio pŵer
caffael cyhoeddus i wella'r bwyd a weinir i ddisgyblion, cleifion a phobl sy'n
byw mewn cartrefi gofal. Cyd-gyflwynwyr Cefnogwyr James Evans
(Brycheiniog a Sir Faesyfed) Julie Morgan
(Gogledd Caerdydd) Mike Hedges
(Dwyrain Abertawe) Samuel Kurtz
(Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro) Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol - Sioc ddiwylliannol: Diwylliant a’r berthynas newydd â’r Undeb Ewropeaidd NDM8822 Delyth Jewell
(Dwyrain De Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau
Rhyngwladol: ‘Sioc ddiwylliannol: Diwylliant a’r berthynas newydd â’r Undeb
Ewropeaidd' a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Tachwedd 2024. Sylwer:
Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Chwefror
2025. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
16.15 NDM8822 Delyth Jewell
(Dwyrain De Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau
Rhyngwladol: ‘Sioc ddiwylliannol: Diwylliant a’r berthynas newydd â’r Undeb
Ewropeaidd' a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Tachwedd 2024. Sylwer: Gosodwyd ymateb
Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Chwefror 2025. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ymchwiliad i gamfanteisio'n rhywiol ar blant NDM8821 Paul Davies
(Preseli Sir Benfro) Cynnig bod y Senedd: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gomisiynu ymchwiliad annibynnol i gamfanteisio'n rhywiol ar blant gan
gangiau meithrin perthynas amhriodol. Cyflwynwyd y gwelliant a
ganlyn: Gwelliant 1 Heledd Fychan
(Canol De Cymru) Dileu'r cyfan a'i
ddisodli gyda'r canlynol: Cynnig bod y Senedd 1. Yn condemnio'r
methiannau sefydliadol a arweiniodd at yr esgeulustod a'r diffyg adrodd
achosion o gam-drin plant dros sawl degawd, fel y canfuwyd yn ymchwiliad
annibynnol yr Athro Alexis Jay yn 2022. 2. Yn canmol dewrder y
dioddefwyr a'r goroeswyr am rannu eu tystiolaethau, ac yn credu y dylai eu
lleisiau bob amser gael blaenoriaeth wrth adolygu a chryfhau'r mesurau diogelu
perthnasol. 3. Yn cydnabod pryder
diweddar y cyhoedd ynghylch trais a cham-drin rhywiol gan rwydweithiau
cyfundrefnol. 4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i: a) gweithredu holl
argymhellion Adroddiad Jay yn ddi-oed; b) ymgysylltu â phob
sefydliad ar y rheng flaen sy'n gwasanaethu dioddefwyr a goroeswyr trais a
cham-drin rhywiol; c) gweithio gyda
heddluoedd Cymru i gynnal archwiliad Cymru gyfan ar unwaith, gyda
goruchwyliaeth annibynnol briodol, a sicrhau cydweithrediad â'r archwiliad ar
draws y DU dan arweiniad y Farwnes Casey i raddfa a natur camfanteisio gan
gangiau; a d) ystyried comisiynu
ymchwiliad annibynnol llawn yn sgil y dystiolaeth a gasglwyd gan yr archwiliad. Adroddiad yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn
Rhywiol (Saesneg yn unig) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.04 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y
Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8821 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod y Senedd: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwiliad
annibynnol i gamfanteisio'n rhywiol ar blant gan gangiau meithrin perthynas
amhriodol.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 Heledd Fychan (Canol De Cymru) Dileu'r
cyfan a'i ddisodli gyda'r canlynol: Cynnig
bod y Senedd 1. Yn
condemnio'r methiannau sefydliadol a arweiniodd at yr esgeulustod a'r diffyg
adrodd achosion o gam-drin plant dros sawl degawd, fel y canfuwyd yn ymchwiliad
annibynnol yr Athro Alexis Jay yn 2022. 2. Yn
canmol dewrder y dioddefwyr a'r goroeswyr am rannu eu tystiolaethau, ac yn
credu y dylai eu lleisiau bob amser gael blaenoriaeth wrth adolygu a chryfhau'r
mesurau diogelu perthnasol. 3. Yn
cydnabod pryder diweddar y cyhoedd ynghylch trais a cham-drin rhywiol gan
rwydweithiau cyfundrefnol. 4. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i: a)
gweithredu holl argymhellion Adroddiad Jay yn ddi-oed; b)
ymgysylltu â phob sefydliad ar y rheng flaen sy'n gwasanaethu dioddefwyr a
goroeswyr trais a cham-drin rhywiol; c)
gweithio gyda heddluoedd Cymru i gynnal archwiliad Cymru gyfan ar unwaith, gyda
goruchwyliaeth annibynnol briodol, a sicrhau cydweithrediad â'r archwiliad ar
draws y DU dan arweiniad y Farwnes Casey i raddfa a natur camfanteisio gan
gangiau; a d)
ystyried comisiynu ymchwiliad annibynnol llawn yn sgil y dystiolaeth a gasglwyd
gan yr archwiliad. Adroddiad
yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol (Saesneg yn unig) Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: Cynnig
bod y Senedd: 1. Yn
condemnio'r methiannau sefydliadol a arweiniodd at yr esgeulustod a'r diffyg
adrodd achosion o gam-drin plant dros sawl degawd, fel y canfuwyd yn ymchwiliad
annibynnol yr Athro Alexis Jay yn 2022. 2. Yn
canmol dewrder y dioddefwyr a'r goroeswyr am rannu eu tystiolaethau, ac yn
credu y dylai eu lleisiau bob amser gael blaenoriaeth wrth adolygu a chryfhau'r
mesurau diogelu perthnasol. 3. Yn
cydnabod pryder diweddar y cyhoedd ynghylch trais a cham-drin rhywiol gan
rwydweithiau cyfundrefnol. 4. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i: a)
gweithredu holl argymhellion Adroddiad Jay yn ddi-oed; b)
ymgysylltu â phob sefydliad ar y rheng flaen sy'n gwasanaethu dioddefwyr a
goroeswyr trais a cham-drin rhywiol; c)
gweithio gyda heddluoedd Cymru i gynnal archwiliad Cymru gyfan ar unwaith, gyda
goruchwyliaeth annibynnol briodol, a sicrhau cydweithrediad â'r archwiliad ar
draws y DU dan arweiniad y Farwnes Casey i raddfa a natur camfanteisio gan
gangiau; a d)
ystyried comisiynu ymchwiliad annibynnol llawn yn sgil y dystiolaeth a gasglwyd
gan yr archwiliad.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||
|
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 17.55 |
||||||||||||||||||||||||||
|
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM8810 Carolyn Thomas
(Gogledd Cymru) Cau'r
trap am byth - yr achos dros wahardd rasio milgwn yng Nghymru. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 17.58 NDM8810 Carolyn Thomas (Gogledd Cymru) Cau'r
trap am byth - yr achos dros wahardd rasio milgwn yng Nghymru. |
PDF 152 KB