NDM8821 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ymchwiliad i gamfanteisio'n rhywiol ar blant
NDM8821 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ymchwiliad i gamfanteisio'n rhywiol ar blant
NDM8821 Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gomisiynu ymchwiliad annibynnol i gamfanteisio'n rhywiol ar blant gan
gangiau meithrin perthynas amhriodol.
Cyflwynwyd y gwelliant a
ganlyn:
Gwelliant 1 Heledd Fychan
(Canol De Cymru)
Dileu'r cyfan a'i
ddisodli gyda'r canlynol:
Cynnig bod y Senedd
1. Yn condemnio'r
methiannau sefydliadol a arweiniodd at yr esgeulustod a'r diffyg adrodd
achosion o gam-drin plant dros sawl degawd, fel y canfuwyd yn ymchwiliad
annibynnol yr Athro Alexis Jay yn 2022.
2. Yn canmol dewrder y
dioddefwyr a'r goroeswyr am rannu eu tystiolaethau, ac yn credu y dylai eu
lleisiau bob amser gael blaenoriaeth wrth adolygu a chryfhau'r mesurau diogelu
perthnasol.
3. Yn cydnabod pryder
diweddar y cyhoedd ynghylch trais a cham-drin rhywiol gan rwydweithiau
cyfundrefnol.
4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a) gweithredu holl
argymhellion Adroddiad Jay yn ddi-oed;
b) ymgysylltu â phob
sefydliad ar y rheng flaen sy'n gwasanaethu dioddefwyr a goroeswyr trais a
cham-drin rhywiol;
c) gweithio gyda
heddluoedd Cymru i gynnal archwiliad Cymru gyfan ar unwaith, gyda
goruchwyliaeth annibynnol briodol, a sicrhau cydweithrediad â'r archwiliad ar
draws y DU dan arweiniad y Farwnes Casey i raddfa a natur camfanteisio gan
gangiau; a
d) ystyried comisiynu
ymchwiliad annibynnol llawn yn sgil y dystiolaeth a gasglwyd gan yr archwiliad.
Adroddiad yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol (Saesneg yn unig)
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 18/02/2025