NDM8814 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Bwyd
NDM8814 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Bwyd
NDM8814 Jenny Rathbone
(Canol Caerdydd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) er gwaethaf y
digonedd o fwyd o safon a gynhyrchir gan ffermwyr Cymru, mae goruchafiaeth bwyd
wedi'i brosesu'n helaeth yn ein diet yn arwain at ganlyniadau dinistriol i
iechyd, cyfoeth a llesiant ein cenedl;
b) bod mynediad at fwyd
fforddiadwy ac iach yn fater cyfiawnder cymdeithasol, gyda chymunedau tlotach
yn cael eu heffeithio'n anghymesur gan afiechydon sy'n gysylltiedig â diet;
c) bod cynhyrchiant
Cymru o 20,000 tunnell o ffrwythau a llysiau y flwyddyn ond yn cyfateb i
chwarter dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd fesul person;
d) y gall ehangu
cynhyrchu bwyd lleol cynaliadwy helpu i leihau milltiroedd bwyd, gwella
diogelwch bwyd, a chreu swyddi gwyrdd yng Nghymru; ac
e) bod pontio i fod yn
genedl fwyd gynaliadwy yn gofyn am ddull cydgysylltiedig, cydweithredol ac
ataliol yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
2. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a) datblygu strategaeth
llywodraeth gyfannol a chydgysylltiedig i wella diet pobl;
b) hyrwyddo manteision
bwyd ffres, heb ei brosesu i annog newidiadau dietegol a mynd i'r
afael â goruchafiaeth bwydydd wedi'u prosesu'n helaeth;
c) defnyddio'r
buddsoddiad sydd i'w groesawu mewn partneriaethau bwyd lleol i ddod â thyfwyr,
arlwywyr a bwytawyr at ei gilydd i ehangu garddwriaeth yng Nghymru;
d) cyflymu'r
gwaith o lunio strategaeth fwyd gymunedol o fewn y Chweched Senedd;
ac
e) defnyddio pŵer
caffael cyhoeddus i wella'r bwyd a weinir i ddisgyblion, cleifion a phobl sy'n
byw mewn cartrefi gofal.
Cyd-gyflwynwyr
Supporters
James Evans
(Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Julie Morgan
(Gogledd Caerdydd)
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 18/02/2025