Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyfeirnod: 243
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 20/11/2024 - Y Cyfarfod Llawn
| Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y
Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl
Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau
i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl
Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.18 Gofynnwyd
cwestiynau 1-4 a 6-9. Tynnwyd cwestiwn 5 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y
pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.21 Gofynnwyd
y 3 cwestiwn cyntaf. |
|||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol I ofyn i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y
Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Janet
Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad
ynglŷn â pham y mae Llywodraeth Cymru yn camu allan o'r dull pedair cenedl
o ymdrin â'r cynllun dychwelyd ernes? I ofyn Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal
Cymdeithasol Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ar
gyhoeddiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i oedi darpariaeth
llawdriniaethau fasgwlaidd yn Ysbyty Glan Clwyd, a fydd yn arwain at gleifion
yn gorfod derbyn triniaethau yn Lloegr? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.35 Atebwyd
gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a
Materion Gwledig Janet
Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad
ynglŷn â pham y mae Llywodraeth Cymru yn camu allan o'r dull pedair cenedl
o ymdrin â'r cynllun dychwelyd ernes? Atebwyd
gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ar gyhoeddiad Bwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr i oedi darpariaeth llawdriniaethau fasgwlaidd yn
Ysbyty Glan Clwyd, a fydd yn arwain at gleifion yn gorfod derbyn triniaethau yn
Lloegr? |
|||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Nid oedd unrhyw Ddatganiadau 90 Eiliad |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau Dechreuodd yr eitem am
16.06 Derbyniwyd y cynnig o
dan Reol Sefydlog 12.24 a 12.40 i grwpio’r cynigion a ganlyn ar gyfer eu trafod
a phleidleisio arnynt. NNDM8741 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Carolyn Thomas (Llafur Cymru) yn lle Jack
Sargeant (Llafur Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog. NNDM8742 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Carolyn Thomas (Llafur Cymru) yn lle
Hefin David (Llafur Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. NNDM8743 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Mick Antoniw (Llafur Cymru) yn lle
Carolyn Thomas (Llafur Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y
Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol. Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i benodi Comisiynydd Safonau dros dro Dechreuodd yr eitem am
16.07 NNDM8744 Hannah
Blythyn (Delyn) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod
Comisiynydd Safonau'r Senedd wedi hysbysu'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad na all
weithredu mewn perthynas â chwyn benodol. 2. Yn penodi Melissa
McCullough yn Gomisiynydd dros dro mewn perthynas â’r gŵyn y cyfeirir ati
ym mhwynt 1, yn unol ag Adran 4(1) o Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad
Cenedlaethol Cymru 2009, ar sail y telerau a ganlyn: a) daw’r penodiad i rym
ar 21 Tachwedd 2024; b) daw'r penodiad i ben
pan fydd Clerc y Senedd yn hysbysu’r Comisiynydd dros dro; c) tâl y Comisiynydd
dros dro fydd cyfradd ddyddiol o £458.36 (neu pro-rata am ran o ddiwrnod) am
weithgareddau sy'n ymwneud yn uniongyrchol â rôl a chyfrifoldebau'r swydd,
ynghyd â threuliau rhesymol; a d)
Comisiwn y Senedd fydd yn talu pob swm y cyfeirir atynt ym mhwynt 2(c) i'r
Comisiynydd dros dro. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil ar yr hawl i dai digonol - Gohiriwyd NDM8712 Sian Gwenllian
(Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi cynnig
ar gyfer Bil ar ymgorffori’r hawl i dai digonol, fel y nodir yn y Cyfamod
Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol (ICESCR), yng
nghyfraith Cymru. 2. Yn nodi mai
diben y Bil hwn fyddai: a) sefydlu’r hawl i dai
digonol fel hawl sylfaenol yng nghyfraith Cymru, gan sicrhau mynediad i dai
saff, diogel a fforddiadwy i bawb; b) gosod dyletswydd ar
Weinidogion Cymru ac awdurdodau cyhoeddus i wireddu'n raddol yr hawl i dai
digonol; c) gofyn am asesiadau
rheolaidd o anghenion ac amodau tai, gyda thargedau wedi'u gosod i leihau'r
anghenion tai sydd heb eu diwallu a gwella amodau dros amser; d) cryfhau
amddiffyniadau tenantiaid a chefnogi arferion rhentu teg i sicrhau
sefydlogrwydd tai; ac e) sefydlu mecanweithiau
i unigolion geisio iawn os yw eu hawl i dai digonol yn cael ei dorri neu heb ei
fodloni. Cyd-gyflwynwyr Cofnodion: Gohiriwyd yr eitem
hon |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2025-26 NDM8729 Hefin David
(Caerffili) Cynnig bod y Senedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 20.16: Yn cytuno ar gyllideb
Comisiwn y Senedd ar gyfer 2025-26, fel y’i nodir yn Nhabl 1 o Gyllideb
Comisiwn y Senedd ar gyfer 2025-26, a osodwyd
gerbron y Senedd ar 13 Tachwedd 2024, a’i bod yn cael ei hymgorffori yng
Nghynnig y Gyllideb Flynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii). Dogfennau ategol Adroddiad gan y Pwyllgor Cyllid – Craffu ar Gyllideb Ddrafft
Comisiwn y Senedd 2025-26 Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.09 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM8729 Hefin David
(Caerffili) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16: Yn
cytuno ar gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2025-26, fel y’i nodir yn Nhabl 1
o Gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2025-26, a osodwyd gerbron
y Senedd ar 13 Tachwedd 2024, a’i bod yn cael ei hymgorffori yng Nghynnig
y Gyllideb Flynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii). Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid - Adolygiad o weithrediadau, prosesau ac ymchwiliadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru NDM8730 Peredur Owen
Griffiths (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor
Cyllid ‘Adolygiad o weithrediadau, prosesau ac ymchwiliadau Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru’ a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Tachwedd 2024. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.31 NDM8730 Peredur
Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ‘Adolygiad o
weithrediadau, prosesau ac ymchwiliadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru’
a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Tachwedd 2024. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr NDM8732 Heledd Fychan
(Canol De Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi penderfyniad
Llywodraeth y DU i gynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yng
nghyllideb yr hydref. 2. Yn credu y dylai'r
gost ychwanegol i gyflogwyr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru gael ei dalu'n
llawn gan Drysorlys y DU. 3. Yn nodi asesiad y
Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol fod disgwyl i'r cynnydd yng nghyfraniadau
yswiriant gwladol cyflogwyr arwain at arafu twf cyflogau gwirioneddol ar
adeg pan mai Cymru sydd â’r cyfraddau cyflogaeth isaf yn y
DU. 4. Yn gresynu at y
diffyg eglurder o ran a fydd yr ad-daliad gan Drysorlys y DU yn cynnwys,
ymhlith sectorau eraill, cyflogwyr fel prifysgolion, meddygon teulu a
sefydliadau'r trydydd sector. 5. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru: a) i bwyso ar Drysorlys
y DU i sicrhau bod yr ad-daliad ar gyfer costau ychwanegol cyfraniadau
yswiriant gwladol yn y sector cyhoeddus yn seiliedig ar ddiffiniadau StatsCymru
a’r Arolwg o’r Lafurlu o weithlu'r sector cyhoeddus, sy'n cynnwys ymhlith sectorau
eraill cyflogwyr fel prifysgolion, meddygon teulu a sefydliadau'r trydydd
sector. b) i ddarparu
dadansoddiad cynhwysfawr o'r effaith y bydd y cynnydd yng nghyfraniadau
yswiriant gwladol cyflogwyr yn ei chael ar y farchnad swyddi yng Nghymru; ac c) i gynyddu lefel y
rhyddhad ardrethi busnes yng nghyllideb Cymru sydd ar ddod er mwyn lliniaru ar
effaith y cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol yn y sector busnesau bach
a chanolig domestig. Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn: Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) penderfyniad
Llywodraeth y DU i gynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yng
nghyllideb yr hydref, er mwyn helpu i sefydlogi sefyllfa ariannol y wlad; b) asesiad cyffredinol y
Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol y bydd effaith net polisïau Cyllideb Llywodraeth
y DU yn cynyddu twf yn y tymor hwy; c) awgrym Trysorlys y DU
y bydd cyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu ar gyfer costau cyfraniadau
yswiriant gwladol cyflogwyr yn y sector cyhoeddus; d) cadarnhad Trysorlys y
DU y bydd, wrth wneud hynny, yn dilyn dosbarthiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol,
sef yr hyn a fabwysiadwyd gan lywodraethau blaenorol; ac e) o ganlyniad i’r holl
fesurau yng Nghyllideb Llywodraeth y DU, na fydd 865,000 o fusnesau yn y DU yn
talu cyfraniadau yswiriant gwladol o gwbl, ac y bydd dros hanner y cyflogwyr
sydd ag atebolrwydd i dalu cyfraniadau yswiriant gwladol naill ai’n gweld dim
newid neu ar eu hennill yn gyffredinol y flwyddyn nesaf. Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Gwelliant 2 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Ychwanegu fel pwynt
newydd ar ôl pwynt 4 ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn gresynu ymhellach fod
Llywodraeth Lafur y DU wedi torri ymrwymiad yn ei maniffesto i beidio â chodi
treth ar bobl sy'n gweithio. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.48 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8732 Heledd Fychan (Canol De Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi penderfyniad
Llywodraeth y DU i gynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yng
nghyllideb yr hydref. 2. Yn credu y dylai'r gost
ychwanegol i gyflogwyr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru gael ei dalu'n llawn
gan Drysorlys y DU. 3. Yn nodi asesiad y Swyddfa
Cyfrifoldeb Cyllidebol fod disgwyl i'r cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant
gwladol cyflogwyr arwain at arafu twf cyflogau gwirioneddol ar adeg pan
mai Cymru sydd â’r cyfraddau cyflogaeth isaf yn y DU.
4. Yn gresynu at y diffyg
eglurder o ran a fydd yr ad-daliad gan Drysorlys y DU yn cynnwys, ymhlith
sectorau eraill, cyflogwyr fel prifysgolion, meddygon teulu a sefydliadau'r
trydydd sector. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru: a) i bwyso ar Drysorlys y DU i
sicrhau bod yr ad-daliad ar gyfer costau ychwanegol cyfraniadau yswiriant
gwladol yn y sector cyhoeddus yn seiliedig ar ddiffiniadau StatsCymru a’r
Arolwg o’r Lafurlu o weithlu'r sector cyhoeddus, sy'n cynnwys ymhlith sectorau
eraill cyflogwyr fel prifysgolion, meddygon teulu a sefydliadau'r trydydd
sector. b) i ddarparu dadansoddiad
cynhwysfawr o'r effaith y bydd y cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol
cyflogwyr yn ei chael ar y farchnad swyddi yng Nghymru; ac c) i gynyddu lefel y rhyddhad
ardrethi busnes yng nghyllideb Cymru sydd ar ddod er mwyn lliniaru ar effaith y
cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol yn y sector busnesau bach a
chanolig domestig.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) penderfyniad Llywodraeth y DU i gynyddu cyfraniadau
yswiriant gwladol cyflogwyr yng nghyllideb yr hydref, er mwyn helpu i sefydlogi
sefyllfa ariannol y wlad; b) asesiad cyffredinol y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol y
bydd effaith net polisïau Cyllideb Llywodraeth y DU yn cynyddu twf yn y tymor
hwy; c) awgrym Trysorlys y DU y bydd cyllid ychwanegol yn cael
ei ddarparu ar gyfer costau cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn y sector
cyhoeddus; d) cadarnhad Trysorlys y DU y bydd, wrth wneud hynny, yn
dilyn dosbarthiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sef yr hyn a fabwysiadwyd gan
lywodraethau blaenorol; ac e) o ganlyniad i’r holl fesurau yng Nghyllideb
Llywodraeth y DU, na fydd 865,000 o fusnesau yn y DU yn talu cyfraniadau
yswiriant gwladol o gwbl, ac y bydd dros hanner y cyflogwyr sydd ag atebolrwydd
i dalu cyfraniadau yswiriant gwladol naill ai’n gweld dim newid neu ar eu
hennill yn gyffredinol y flwyddyn nesaf. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1 wedi ei dderbyn, cafodd gwelliant 2
ei ddad-ddethol. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) penderfyniad Llywodraeth y DU i gynyddu cyfraniadau
yswiriant gwladol cyflogwyr yng nghyllideb yr hydref, er mwyn helpu i sefydlogi
sefyllfa ariannol y wlad; b) asesiad cyffredinol y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol y
bydd effaith net polisïau Cyllideb Llywodraeth y DU yn cynyddu twf yn y tymor
hwy; c) awgrym Trysorlys y DU y bydd cyllid ychwanegol yn cael
ei ddarparu ar gyfer costau cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn y sector
cyhoeddus; d) cadarnhad Trysorlys y DU y bydd, wrth wneud hynny, yn
dilyn dosbarthiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sef yr hyn a fabwysiadwyd gan
lywodraethau blaenorol; ac e) o ganlyniad i’r holl fesurau yng Nghyllideb
Llywodraeth y DU, na fydd 865,000 o fusnesau yn y DU yn talu cyfraniadau
yswiriant gwladol o gwbl, ac y bydd dros hanner y cyflogwyr sydd ag atebolrwydd
i dalu cyfraniadau yswiriant gwladol naill ai’n gweld dim newid neu ar eu
hennill yn gyffredinol y flwyddyn nesaf.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||
|
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.33 |
||||||||||||||||||||||||||
|
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM8731 Gareth Davies
(Dyffryn Clwyd) Gwneud
cynnydd neu gadw pethau fel ag y maent: sut y dylai llywodraeth gyfrifol ymateb
i newid diwylliannol a chymdeithasol yng Nghymru? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.38 NDM8731 Gareth Davies
(Dyffryn Clwyd) Gwneud cynnydd neu
gadw pethau fel ag y maent: sut y dylai llywodraeth gyfrifol ymateb i newid
diwylliannol a chymdeithasol yng Nghymru? |
PDF 164 KB