NDM8732 Dadl Plaid Cymru - Cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr
NDM8732 Dadl Plaid Cymru - Cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr
NDM8732 Heledd Fychan
(Canol De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi penderfyniad
Llywodraeth y DU i gynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yng
nghyllideb yr hydref.
2. Yn credu y dylai'r
gost ychwanegol i gyflogwyr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru gael ei dalu'n
llawn gan Drysorlys y DU.
3. Yn nodi asesiad y
Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol fod disgwyl i'r cynnydd yng nghyfraniadau
yswiriant gwladol cyflogwyr arwain at arafu twf cyflogau gwirioneddol ar
adeg pan mai Cymru sydd â’r cyfraddau cyflogaeth isaf yn y
DU.
4. Yn gresynu at y
diffyg eglurder o ran a fydd yr ad-daliad gan Drysorlys y DU yn cynnwys,
ymhlith sectorau eraill, cyflogwyr fel prifysgolion, meddygon teulu a
sefydliadau'r trydydd sector.
5. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru:
a) i bwyso ar Drysorlys
y DU i sicrhau bod yr ad-daliad ar gyfer costau ychwanegol cyfraniadau
yswiriant gwladol yn y sector cyhoeddus yn seiliedig ar ddiffiniadau StatsCymru
a’r Arolwg o’r Lafurlu o weithlu'r sector cyhoeddus, sy'n cynnwys ymhlith sectorau
eraill cyflogwyr fel prifysgolion, meddygon teulu a sefydliadau'r trydydd
sector.
b) i ddarparu
dadansoddiad cynhwysfawr o'r effaith y bydd y cynnydd yng nghyfraniadau
yswiriant gwladol cyflogwyr yn ei chael ar y farchnad swyddi yng Nghymru; ac
c) i gynyddu lefel y
rhyddhad ardrethi busnes yng nghyllideb Cymru sydd ar ddod er mwyn lliniaru ar
effaith y cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol yn y sector busnesau bach
a chanolig domestig.
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) penderfyniad
Llywodraeth y DU i gynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yng
nghyllideb yr hydref, er mwyn helpu i sefydlogi sefyllfa ariannol y wlad;
b) asesiad cyffredinol y
Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol y bydd effaith net polisïau Cyllideb Llywodraeth
y DU yn cynyddu twf yn y tymor hwy;
c) awgrym Trysorlys y DU
y bydd cyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu ar gyfer costau cyfraniadau
yswiriant gwladol cyflogwyr yn y sector cyhoeddus;
d) cadarnhad Trysorlys y
DU y bydd, wrth wneud hynny, yn dilyn dosbarthiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol,
sef yr hyn a fabwysiadwyd gan lywodraethau blaenorol ; ac
e) o ganlyniad i’r holl
fesurau yng Nghyllideb Llywodraeth y DU, na fydd 865,000 o fusnesau yn y DU yn
talu cyfraniadau yswiriant gwladol o gwbl, ac y bydd dros hanner y cyflogwyr
sydd ag atebolrwydd i dalu cyfraniadau yswiriant gwladol naill ai’n gweld dim
newid neu ar eu hennill yn gyffredinol y flwyddyn nesaf.
Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 2 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu fel pwynt
newydd ar ôl pwynt 4 ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn
gresynu ymhellach fod Llywodraeth Lafur y DU wedi torri ymrwymiad yn ei
maniffesto i beidio â chodi treth ar bobl sy'n gweithio.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 18/11/2024