NDM8712 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil ar yr hawl i dai digonol
NDM8712 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil ar yr hawl i dai digonol
NDM8712 Sian Gwenllian
(Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig
ar gyfer Bil ar ymgorffori’r hawl i dai digonol, fel y nodir yn y Cyfamod
Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol (ICESCR), yng
nghyfraith Cymru.
2. Yn nodi mai
diben y Bil hwn fyddai:
a) sefydlu’r hawl i dai
digonol fel hawl sylfaenol yng nghyfraith Cymru, gan sicrhau mynediad i dai
saff, diogel a fforddiadwy i bawb;
b) gosod dyletswydd ar
Weinidogion Cymru ac awdurdodau cyhoeddus i wireddu'n raddol yr hawl i dai
digonol;
c) gofyn am asesiadau
rheolaidd o anghenion ac amodau tai, gyda thargedau wedi'u gosod i leihau'r
anghenion tai sydd heb eu diwallu a gwella amodau dros amser;
d) cryfhau
amddiffyniadau tenantiaid a chefnogi arferion rhentu teg i sicrhau
sefydlogrwydd tai;
e) sefydlu mecanweithiau
i unigolion geisio iawn os yw eu hawl i dai digonol yn cael ei dorri neu heb ei
fodloni.
Cyd-gyflwynwyr
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 18/11/2024