Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyfeirnod: 237
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 23/10/2024 - Y Cyfarfod Llawn
| Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl
Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 5 a 7 gan y Gweinidog Diwylliant,
Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau
i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl
Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.23 Gofynnwyd
cwestiynau 1-6 a 8. Atebwyd cwestiynau 2 a 6 gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a
Llesiant. Ni ofynnwyd cwestiwn 7. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i
ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet a’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol I ofyn i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y
Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig James
Evans (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd
Cabinet yn eu cael gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch eu Hadroddiad Blynyddol
a Chyfrifon ar gyfer 2023-24 sy'n cynnwys manylion ymchwiliadau Cyllid a
Thollau EM i gydymffurfiaeth hanesyddol Cyfoeth Naturiol Cymru â gofynion
gweithio oddi ar y gyflogres, a maint yr atebolrwydd posibl a allai fod yn
ddyledus? I ofyn i’r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch Cefin
Campbell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Llywodraeth Cymru
egluro’r cymorth ariannol sydd ar gael i brifysgolion Cymru sydd mewn perygl,
yn dilyn llythyr y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch at Aelodau'r Senedd ar 16
Hydref 2024? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.04 Atebwyd gan y Dirprwy Brif
Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig James Evans (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa drafodaethau y mae'r
Ysgrifennydd Cabinet yn eu cael gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch eu
Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer 2023-24 sy'n cynnwys manylion
ymchwiliadau Cyllid a Thollau EM i gydymffurfiaeth hanesyddol Cyfoeth Naturiol
Cymru â gofynion gweithio oddi ar y gyflogres, a maint yr atebolrwydd posibl a
allai fod yn ddyledus? Atebwyd gan y Gweinidog Addysg
Bellach ac Uwch Cefin Campbell
(Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Llywodraeth Cymru
egluro’r cymorth ariannol sydd ar gael i brifysgolion Cymru sydd mewn perygl,
yn dilyn llythyr y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch at Aelodau'r Senedd ar 16
Hydref 2024? |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.34 Gwnaeth
Hannah Blythyn ddatganiad am - Gŵyl Daniel Owen (19-25 Hydref). Gwnaeth
Sioned Williams ddatganiad am - Camlas Castell-Nedd – cysondeb mewn
cyfnod o newid. Gwnaeth
Rhys ab Owen ddatganiad am - 20 mlynedd o Gôr Meibion Taf. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Cymorth i farw NDM8656 Julie Morgan
(Gogledd Caerdydd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi nad yw'r
cyfrifoldeb dros ddeddfu i ganiatáu cymorth i farw wedi ei ddatganoli i Gymru,
gan ei fod ar hyn o bryd yn fater a gaiff ei lywodraethu gan gyfraith
droseddol. 2. Yn nodi, pe bai
cymorth i farw yn cael ei gyfreithloni, ac o ystyried ei chyfrifoldeb dros
iechyd a gofal cymdeithasol, y byddai angen i Lywodraeth Cymru gael
dealltwriaeth fanwl o unrhyw gynigion. 3. Yn credu y dylai
oedolyn yn ei lawn bwyll, y mae ganddo gyflwr corfforol annioddefadwy na ellir
ei wella ac y mae wedi nodi ei ddymuniad clir a phendant i farw, gael yr opsiwn
o gymorth i farw, yn ddarostyngedig i fesurau diogelu cadarn. 4. Yn nodi bod
ymchwiliad diweddar gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol San Steffan wedi
canfod cysylltiad rhwng cyflwyno cymorth i farw a gwelliant o ran gofal
lliniarol mewn sawl awdurdodaeth. 5. Yn nodi bod y Swyddfa
Economeg Iechyd wedi canfod, hyd yn oed pe baent yn cael y feddygaeth liniarol
orau, y byddai o leiaf 5,000 o bobl y flwyddyn yng Nghymru a Lloegr yn marw heb
unrhyw ffordd effeithiol o leddfu eu poen yn eu mis olaf. 6. Yn nodi bod
agweddau'r cyhoedd at roi cymorth i farw wedi newid, gyda hyd at 88% o'r
cyhoedd yn ffafrio newid y gyfraith. 7. Yn nodi, o ran pobl
o'r DU sy'n dioddef, bod mwy nag un yr wythnos bellach yn dewis dod â'u bywyd i
ben yn un o ganolfannau diwedd oes y Swistir, a bod llawer yn rhagor a fyddai'n
dewis gwneud yr un peth ond sy’n methu â fforddio'r costau uchel perthnasol,
sy’n aml ymhell dros £10,000. 8. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i: a) cefnogi egwyddorion
cymorth i farw; a b) cefnogi senedd San
Steffan i gyflwyno deddf dosturiol o ran cymorth i farw yng Nghymru a Lloegr. Cyd-gyflwynwyr Heledd Fychan
(Canol De Cymru) Adam Price
(Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr) James Evans
(Brycheiniog a Sir Faesyfed) Cefnogwyr Carolyn
Thomas (Gogledd Cymru) Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.39 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM8656 Julie Morgan (Gogledd Caerdydd) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn nodi nad yw'r cyfrifoldeb dros ddeddfu i ganiatáu cymorth i farw wedi ei
ddatganoli i Gymru, gan ei fod ar hyn o bryd yn fater a gaiff ei lywodraethu
gan gyfraith droseddol. 2.
Yn nodi, pe bai cymorth i farw yn cael ei gyfreithloni, ac o ystyried ei
chyfrifoldeb dros iechyd a gofal cymdeithasol, y byddai angen i Lywodraeth
Cymru gael dealltwriaeth fanwl o unrhyw gynigion. 3.
Yn credu y dylai oedolyn yn ei lawn bwyll, y mae ganddo gyflwr corfforol
annioddefadwy na ellir ei wella ac y mae wedi nodi ei ddymuniad clir a phendant
i farw, gael yr opsiwn o gymorth i farw, yn ddarostyngedig i fesurau diogelu
cadarn. 4.
Yn nodi bod ymchwiliad diweddar gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol San
Steffan wedi canfod cysylltiad rhwng cyflwyno cymorth i farw a gwelliant o ran
gofal lliniarol mewn sawl awdurdodaeth. 5.
Yn nodi bod y Swyddfa Economeg Iechyd wedi canfod, hyd yn oed pe baent yn cael
y feddygaeth liniarol orau, y byddai o leiaf 5,000 o bobl y flwyddyn yng
Nghymru a Lloegr yn marw heb unrhyw ffordd effeithiol o leddfu eu poen yn eu
mis olaf. 6.
Yn nodi bod agweddau'r cyhoedd at roi cymorth i farw wedi newid, gyda hyd at
88% o'r cyhoedd yn ffafrio newid y gyfraith. 7.
Yn nodi, o ran pobl o'r DU sy'n dioddef, bod mwy nag un yr wythnos bellach yn
dewis dod â'u bywyd i ben yn un o ganolfannau diwedd oes y Swistir, a bod
llawer yn rhagor a fyddai'n dewis gwneud yr un peth ond sy’n methu â fforddio'r
costau uchel perthnasol, sy’n aml ymhell dros £10,000. 8.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a)
cefnogi egwyddorion cymorth i farw; a b)
cefnogi senedd San Steffan i gyflwyno deddf dosturiol o ran cymorth i farw yng
Nghymru a Lloegr. Cyd-gyflwynwyr Heledd
Fychan (Canol De Cymru) Adam
Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr) James
Evans (Brycheiniog a Sir Faesyfed) Cefnogwyr Carolyn
Thomas (Gogledd Cymru) Jenny
Rathbone (Canol Caerdydd) Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
|
|||||||||||||||||||||||||
(90 munud) |
Dadl ar y cyd ar adroddiadau gan Bwyllgorau - Cynllun Ffermio Cynaliadwy a Chyswllt Ffermio NDM8702 Paul Davies
(Preseli Sir Benfro) Cynnig bod y Senedd yn
nodi: 1. Adroddiad Pwyllgor yr
Economi, Masnach a Materion Gwledig ar gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer
Cynllun Ffermio Cynaliadwy a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Gorffennaf
2024, ac y gosodwyd ymateb iddo gan Lywodraeth Cymru ar
16 Hydref 2024; 2. Adroddiad Pwyllgor yr
Economi, Masnach a Materion Gwledig ar y rhaglen Cyswllt Ffermio a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Mehefin
2024, ac y gosodwyd ymateb iddo gan Lywodraeth Cymru ar
16 Hydref 2024; a 3. Adroddiad y Pwyllgor
Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar Gynigion ar gyfer Cynllun Ffermio
Cynaliadwy a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Gorffennaf
2024, ac y gosodwyd ymateb iddo gan Lywodraeth Cymru ar
11 Medi 2024. Cyd-gyflwynwyr Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.01 NDM8702 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod y Senedd yn nodi: 1. Adroddiad Pwyllgor yr
Economi, Masnach a Materion Gwledig ar gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer
Cynllun Ffermio Cynaliadwy a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Gorffennaf 2024, ac y gosodwyd ymateb
iddo gan Lywodraeth Cymru ar 16 Hydref 2024; 2. Adroddiad Pwyllgor yr
Economi, Masnach a Materion Gwledig ar y rhaglen Cyswllt Ffermio a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Mehefin 2024, ac y gosodwyd ymateb
iddo gan Lywodraeth Cymru ar 16 Hydref 2024; a 3. Adroddiad y Pwyllgor Newid
Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar Gynigion ar gyfer Cynllun Ffermio
Cynaliadwy a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Gorffennaf 2024, ac y gosodwyd ymateb
iddo gan Lywodraeth Cymru ar 11 Medi 2024. Cyd-gyflwynwyr Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau - Cymdeithas heb arian parod? P-06-1335: Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i sicrhau y gall oedolion agored i niwed heb gerdyn banc dalu ag arian parod NDM8700 Carolyn
Thomas (Gogledd Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Deisebau, ‘Cymdeithas heb arian parod?: P-6-1335 Dylai Llywodraeth
Cymru gymryd camau i sicrhau y gall oedolion agored i niwed heb gerdyn banc
dalu ag arian parod’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mehefin
2024 Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r
adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Hydref 2024 Dogfennau ategol Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 18.31 NDM8700 Carolyn Thomas
(Gogledd Cymru) Cynnig
bod y Senedd: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau, ‘Cymdeithas heb arian parod?: P-6-1335 Dylai
Llywodraeth Cymru gymryd camau i sicrhau y gall oedolion agored i niwed heb
gerdyn banc dalu ag arian parod’, a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mehefin 2024 Noder: Gosodwyd ymateb
Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Hydref 2024 Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Cyllideb Llywodraeth y DU NDM8701 Heledd Fychan
(Canol De Cymru) Yn cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) cyllideb Llywodraeth
y DU sydd ar ddod; a b) y sefyllfa cyllid
cyhoeddus hynod heriol, gyda chyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn
ariannol bresennol gwerth £700 miliwn yn llai mewn termau real o'i gymharu â
phan gafodd ei gosod gyntaf. 2. Yn gresynu fod
Llywodraeth Lafur y DU wedi gwrthod: a) darparu unrhyw
gyllid canlyniadol i Gymru o brosiect HS2; b) datganoli Ystâd y
Goron yng Nghymru i sicrhau bod elw o'i hasedau yn mynd yn syth i gyllideb
Cymru; ac c) disodli fformiwla
Barnett gyda fframwaith ariannu sy'n seiliedig ar anghenion. 3. Yn gresynu at
fethiant y 'bartneriaeth o bŵer' rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a
Llywodraeth Lafur y DU i sicrhau buddion diriaethol i Gymru. 4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i osod gofynion brys ar Lywodraeth Lafur y DU, ac i gyhoeddi'r ohebiaeth,
gan ofyn i'r gyllideb gynnwys: a) ailddosbarthu HS2 yn
brosiect i Loegr yn unig; b) ymrwymiad bod Cymru'n
derbyn £4 biliwn o gyllid canlyniadol HS2, fel y mae Gweinidogion Llywodraeth
Cymru ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi galw amdano; c) ymrwymiad i
ddatganoli Ystâd y Goron cyn gynted â phosibl, gydag amserlenni perthnasol; d) ymrwymiad i ddisodli
fformiwla Barnett cyn gynted â phosibl, gydag amserlenni perthnasol; e) ymrwymiad i adfer
lwfans tanwydd y gaeaf i bensiynwyr; ac f) ymrwymiad i gael
gwared ar y cap budd-dal dau blentyn. Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn: Gwelliant 1 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Dileu'r cyfan a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi cyllideb
Llywodraeth y DU sydd ar ddod. 2 Yn gresynu fod
Llywodraeth Lafur y DU wedi gwrthod: a) dileu'r toriad mewn
taliadau tanwydd gaeaf, a fydd yn gweld tua 400,000 o aelwydydd yng Nghymru yn
colli hyd at £300 y pen; b) diystyru unrhyw
gynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol; c) sicrhau bod Cymru'n
derbyn ei symiau canlyniadol o HS2; d) ariannu'r gwaith o
drydaneiddio prif reilffordd Gogledd Cymru; ac e) cyflwyno trefniant
ariannu newydd i Gymru i ddisodli'r fformiwla Barnett hen ffasiwn. 3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i osod gofynion brys ar Lywodraeth Lafur y DU, ac i gyhoeddi’r ohebiaeth,
gan ofyn i'r gyllideb gynnwys cynlluniau i: a) dileu toriad taliadau
tanwydd y gaeaf; b) sicrhau nad oes
cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol; c) galluogi Cymru i
dderbyn ei chyfran deg o gyllid canlyniadol HS2; d) trydaneiddio prif
reilffordd Gogledd Cymru; ac e) dileu'r fformiwla
Barnett hen ffasiwn a'i ddisodli â fformiwla ariannu newydd yn seiliedig ar
anghenion, sy'n deg, yn dryloyw ac yn darparu ar gyfer pobl Cymru. Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol. Gwelliant 2 Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Dileu pwyntiau 2, 3 a 4
a rhoi yn eu lle: Yn sylweddoli bod y
sefyllfa ariannol a etifeddodd Llywodraeth Lafur y DU gan Lywodraeth flaenorol
y DU yn un hynod heriol. Yn cydnabod bod ethol
Llywodraeth newydd y DU yn gyfle i ailosod a gwella’r berthynas
rynglywodraethol. Yn nodi mai
blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllideb Llywodraeth y DU yn yr
hydref yw: a) cynnydd mewn gwariant
adnoddau a chyfalaf uwchlaw’r lefel a bennwyd gan Lywodraeth flaenorol y DU; b) hyblygrwydd
cyllidebol ychwanegol; c) rhaglen fuddsoddi ar
y cyd i fynd i'r afael â diogelwch tomenni glo; a d)
ymrwymiad i ragor o drafodaethau am gyllid mewn perthynas â HS2, ac am
fuddsoddi yn y seilwaith rheilffyrdd yn y dyfodol. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 19.01 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8701 Heledd Fychan (Canol De Cymru) Yn cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) cyllideb Llywodraeth y DU
sydd ar ddod; a b) y sefyllfa cyllid cyhoeddus
hynod heriol, gyda chyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol
bresennol gwerth £700 miliwn yn llai mewn termau real o'i gymharu â phan gafodd
ei gosod gyntaf. 2. Yn gresynu fod Llywodraeth
Lafur y DU wedi gwrthod: a) darparu unrhyw gyllid
canlyniadol i Gymru o brosiect HS2; b) datganoli Ystâd y Goron yng
Nghymru i sicrhau bod elw o'i hasedau yn mynd yn syth i gyllideb Cymru; ac c) disodli fformiwla Barnett
gyda fframwaith ariannu sy'n seiliedig ar anghenion. 3. Yn gresynu at fethiant y
'bartneriaeth o bŵer' rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Llywodraeth Lafur y
DU i sicrhau buddion diriaethol i Gymru. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i osod gofynion brys ar Lywodraeth Lafur y DU, ac i gyhoeddi'r ohebiaeth, gan
ofyn i'r gyllideb gynnwys: a) ailddosbarthu HS2 yn
brosiect i Loegr yn unig; b) ymrwymiad bod Cymru'n derbyn
£4 biliwn o gyllid canlyniadol HS2, fel y mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru ac
Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi galw amdano; c) ymrwymiad i ddatganoli Ystâd
y Goron cyn gynted â phosibl, gydag amserlenni perthnasol; d) ymrwymiad i ddisodli
fformiwla Barnett cyn gynted â phosibl, gydag amserlenni perthnasol; e) ymrwymiad i adfer lwfans
tanwydd y gaeaf i bensiynwyr; ac f) ymrwymiad i gael gwared ar y
cap budd-dal dau blentyn.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi cyllideb Llywodraeth y DU sydd ar ddod. 2 Yn gresynu fod Llywodraeth Lafur y DU wedi gwrthod: a) dileu'r toriad mewn taliadau tanwydd gaeaf, a fydd yn
gweld tua 400,000 o aelwydydd yng Nghymru yn colli hyd at £300 y pen; b) diystyru unrhyw gynnydd i gyfraniadau yswiriant
gwladol; c) sicrhau bod Cymru'n derbyn ei symiau canlyniadol o
HS2; d) ariannu'r gwaith o drydaneiddio prif reilffordd
Gogledd Cymru; ac e) cyflwyno trefniant ariannu newydd i Gymru i ddisodli'r
fformiwla Barnett hen ffasiwn. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod gofynion brys ar
Lywodraeth Lafur y DU, ac i gyhoeddi’r ohebiaeth, gan ofyn i'r gyllideb gynnwys
cynlluniau i: a) dileu toriad taliadau tanwydd y gaeaf; b) sicrhau nad oes cynnydd i gyfraniadau yswiriant
gwladol; c) galluogi Cymru i dderbyn ei chyfran deg o gyllid
canlyniadol HS2; d) trydaneiddio prif reilffordd Gogledd Cymru; ac e) dileu'r fformiwla Barnett hen ffasiwn a'i ddisodli â
fformiwla ariannu newydd yn seiliedig ar anghenion, sy'n deg, yn dryloyw ac yn
darparu ar gyfer pobl Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwyntiau 2, 3 a 4 a rhoi yn eu lle: Yn sylweddoli bod y sefyllfa ariannol a etifeddodd
Llywodraeth Lafur y DU gan Lywodraeth flaenorol y DU yn un hynod heriol. Yn cydnabod bod ethol Llywodraeth newydd y DU yn gyfle i
ailosod a gwella’r berthynas rynglywodraethol. Yn nodi mai blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer
cyllideb Llywodraeth y DU yn yr hydref yw: a) cynnydd mewn gwariant adnoddau a chyfalaf uwchlaw’r
lefel a bennwyd gan Lywodraeth flaenorol y DU; b) hyblygrwydd cyllidebol ychwanegol; c) rhaglen fuddsoddi ar y cyd i fynd i'r afael â
diogelwch tomenni glo; a d) ymrwymiad i ragor o drafodaethau am gyllid mewn
perthynas â HS2, ac am fuddsoddi yn y seilwaith rheilffyrdd yn y dyfodol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd
ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y
gwelliant. |
|||||||||||||||||||||||||
|
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr
eitem am 20.07 |
||||||||||||||||||||||||||
|
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM8699 Mike Hedges
(Dwyrain Abertawe) Economi
Cymru: problemau strwythurol a'u cywiro Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 20.12 NDM8699 Mike Hedges (Dwyrain
Abertawe) Economi
Cymru: problemau strwythurol a'u cywiro |
PDF 171 KB