NDM8701 Dadl Plaid Cymru - Cyllideb Llywodraeth y DU
NDM8701 Dadl Plaid Cymru - Cyllideb Llywodraeth y DU
NDM8701 Heledd Fychan
(Canol De Cymru)
Yn cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) cyllideb Llywodraeth
y DU sydd ar ddod; a
b) y sefyllfa cyllid
cyhoeddus hynod heriol, gyda chyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn
ariannol bresennol gwerth £700 miliwn yn llai mewn termau real o'i gymharu â
phan gafodd ei gosod gyntaf.
2. Yn gresynu fod
Llywodraeth Lafur y DU wedi gwrthod:
a) darparu unrhyw
gyllid canlyniadol i Gymru o brosiect HS2;
b) datganoli Ystâd y
Goron yng Nghymru i sicrhau bod elw o'i hasedau yn mynd yn syth i gyllideb
Cymru; ac
c) disodli fformiwla
Barnett gyda fframwaith ariannu sy'n seiliedig ar anghenion.
3. Yn gresynu at
fethiant y 'bartneriaeth o bŵer' rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a
Llywodraeth Lafur y DU i sicrhau buddion diriaethol i Gymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i osod gofynion brys ar Lywodraeth Lafur y DU, ac i gyhoeddi'r ohebiaeth,
gan ofyn i'r gyllideb gynnwys:
a) ailddosbarthu HS2 yn
brosiect i Loegr yn unig;
b) ymrwymiad bod Cymru'n
derbyn £4 biliwn o gyllid canlyniadol HS2, fel y mae Gweinidogion Llywodraeth
Cymru ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi galw amdano;
c) ymrwymiad i
ddatganoli Ystâd y Goron cyn gynted â phosibl, gydag amserlenni perthnasol;
d) ymrwymiad i ddisodli
fformiwla Barnett cyn gynted â phosibl, gydag amserlenni perthnasol;
e) ymrwymiad i adfer
lwfans tanwydd y gaeaf i bensiynwyr; ac
f) ymrwymiad i gael
gwared ar y cap budd-dal dau blentyn.
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Dileu'r cyfan a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cyllideb
Llywodraeth y DU sydd ar ddod.
2 Yn gresynu fod
Llywodraeth Lafur y DU wedi gwrthod:
a) dileu'r toriad mewn
taliadau tanwydd gaeaf, a fydd yn gweld tua 400,000 o aelwydydd yng Nghymru yn
colli hyd at £300 y pen;
b) diystyru unrhyw
gynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol;
c) sicrhau bod Cymru'n
derbyn ei symiau canlyniadol o HS2;
d) ariannu'r gwaith o
drydaneiddio prif reilffordd Gogledd Cymru; ac
e) cyflwyno trefniant
ariannu newydd i Gymru i ddisodli'r fformiwla Barnett hen ffasiwn.
3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i osod gofynion brys ar Lywodraeth Lafur y DU, ac i gyhoeddi’r ohebiaeth,
gan ofyn i'r gyllideb gynnwys cynlluniau i:
a) dileu toriad taliadau
tanwydd y gaeaf;
b) sicrhau nad oes
cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol;
c) galluogi Cymru i
dderbyn ei chyfran deg o gyllid canlyniadol HS2;
d) trydaneiddio prif
reilffordd Gogledd Cymru; ac
e) dileu'r fformiwla
Barnett hen ffasiwn a'i ddisodli â fformiwla ariannu newydd yn seiliedig ar
anghenion, sy'n deg, yn dryloyw ac yn darparu ar gyfer pobl Cymru.
Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.
Gwelliant 2 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Dileu pwyntiau 2, 3 a 4
a rhoi yn eu lle:
Yn sylweddoli bod y
sefyllfa ariannol a etifeddodd Llywodraeth Lafur y DU gan Lywodraeth flaenorol
y DU yn un hynod heriol.
Yn cydnabod bod ethol
Llywodraeth newydd y DU yn gyfle i ailosod a gwella’r berthynas
rynglywodraethol.
Yn nodi mai
blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllideb Llywodraeth y DU yn yr
hydref yw:
a) cynnydd mewn gwariant
adnoddau a chyfalaf uwchlaw’r lefel a bennwyd gan Lywodraeth flaenorol y DU;
b) hyblygrwydd
cyllidebol ychwanegol;
c) rhaglen fuddsoddi ar
y cyd i fynd i'r afael â diogelwch tomenni glo; a
d)
ymrwymiad i ragor o drafodaethau am gyllid mewn perthynas â HS2, ac am
fuddsoddi yn y seilwaith rheilffyrdd yn y dyfodol.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 05/11/2024