Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyfeirnod: 235
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/10/2024 - Y Cyfarfod Llawn
| Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl
Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl
Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.20 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.16 Gofynnwyd y 5 cwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol I ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal
Cymdeithasol Altaf
Hussain (Gorllewin De Cymru): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad
am faterion llifogydd yn Ysbyty Tywysoges Cymru? I ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a
Thai Peter
Fox (Mynwy): Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cael gyda
Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chynghorau ynghylch diffyg o £540 miliwn
yn y gyllideb sy'n wynebu cynghorau a'u gallu i ddarparu gwasanaethau hanfodol,
gan arwain at lawer o gynghorau yn wynebu methdaliad? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.38 Atebwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a
Gofal Cymdeithasol Altaf Hussain (Gorllewin
De Cymru): A wnaiff yr Ysgrifennydd
Cabinet ddatganiad am faterion llifogydd yn Ysbyty Tywysoges Cymru? Atebwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth
Leol a Thai Peter Fox (Mynwy): Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet
yn eu cael gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chynghorau ynghylch diffyg
o £540 miliwn yn y gyllideb sy'n wynebu cynghorau a'u gallu i ddarparu
gwasanaethau hanfodol, gan arwain at lawer o gynghorau yn wynebu methdaliad? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.59 Gwnaeth
Mike Hedges ddatganiad am - Menter yn darparu offer gwaedu critigol ochr
yn ochr â diffibrilwyr yng Ngorllewin Morgannwg. Gwnaeth
Heledd Fychan ddatganiad am - Gŵyl Morfydd Llwyn Owen, a gynhelir
ym Mhontypridd a Threfforest (11-13 Hydref). Gwnaeth
Cefin Campbell ddatganiad am - 50 mlynedd ers darlledu Pobol y Cwm y tro
cyntaf (16 Hydref). |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i sefydlu pwyllgor NDM8694 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 16.5: 1. Yn sefydlu Pwyllgor
Senedd y Dyfodol. 2. Yn cytuno mai cylch
gwaith y Pwyllgor yw trafod tri mater a chyflwyno adroddiad arnynt erbyn 9 Mai
2025: a) trefn busnes yn y
Seithfed Senedd, gyda’r nod o ganfod opsiynau sy’n cynyddu effeithiolrwydd ei
gwaith craffu, effeithiolrwydd y modd y mae’n darparu busnes o ddydd i ddydd, a
hygyrchedd busnes seneddol i’r Aelodau; b) nodi atebion i
rwystrau (gwirioneddol a chanfyddedig) a all amharu ar allu’r Senedd i
gynrychioli pobl o bob cefndir, profiad bywyd, dewis a chred, neu sydd â’r
potensial i wneud hynny, gan gynnwys ystyried fersiynau drafft a therfynol y
canllawiau ar amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer pleidiau gwleidyddol; ac c) trothwyon a osodir ar
hyn o bryd yn y Rheolau Sefydlog ar gyfer nifer yr Aelodau sy’n ofynnol at
wahanol ddibenion, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) ffurfio grwpiau
gwleidyddol, diswyddo deiliaid swyddi, a chworwm. 3. Yn unol â Rheol
Sefydlog 17.2T, yn penderfynu na fydd Rheolau Sefydlog 17.2A i 17.2S yn gymwys
mewn perthynas â Phwyllgor Senedd y Dyfodol. 4. Yn unol â Rheol
Sefydlog 17.3, yn ethol: a) Julie James AS
(Llafur Cymru), Alun Davies AS (Llafur Cymru), Darren Millar AS (Ceidwadwyr
Cymreig) a Heledd Fychan AS (Plaid Cymru) yn aelodau o Bwyllgor Senedd y
Dyfodol; a b) David Rees (y Dirprwy
Lywydd) yn Gadeirydd Pwyllgor Senedd y Dyfodol. 5.
Yn unol â Rheol Sefydlog 33.6, yn atal dros dro ran gyntaf Rheol Sefydlog 17.37
mewn perthynas â Phwyllgor Senedd y Dyfodol, ac yn cytuno mai dim ond wrth
arfer pleidlais fwrw y caiff cadeirydd y Pwyllgor bleidleisio. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.04 NDM8694 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.5: 1.
Yn sefydlu Pwyllgor Senedd y Dyfodol. 2.
Yn cytuno mai cylch gwaith y Pwyllgor yw trafod tri mater a chyflwyno adroddiad
arnynt erbyn 9 Mai 2025: a)
trefn busnes yn y Seithfed Senedd, gyda’r nod o ganfod opsiynau sy’n cynyddu
effeithiolrwydd ei gwaith craffu, effeithiolrwydd y modd y mae’n darparu busnes
o ddydd i ddydd, a hygyrchedd busnes seneddol i’r Aelodau; b)
nodi atebion i rwystrau (gwirioneddol a chanfyddedig) a all amharu ar allu’r
Senedd i gynrychioli pobl o bob cefndir, profiad bywyd, dewis a chred, neu sydd
â’r potensial i wneud hynny, gan gynnwys ystyried fersiynau drafft a therfynol
y canllawiau ar amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer pleidiau gwleidyddol;
ac c)
trothwyon a osodir ar hyn o bryd yn y Rheolau Sefydlog ar gyfer nifer yr
Aelodau sy’n ofynnol at wahanol ddibenion, gan gynnwys (ond heb fod yn
gyfyngedig) ffurfio grwpiau gwleidyddol, diswyddo deiliaid swyddi, a chworwm. 3.
Yn unol â Rheol Sefydlog 17.2T, yn penderfynu na fydd Rheolau Sefydlog 17.2A i
17.2S yn gymwys mewn perthynas â Phwyllgor Senedd y Dyfodol. 4.
Yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol: a)
Julie James AS (Llafur Cymru), Alun Davies AS (Llafur Cymru), Darren Millar AS
(Ceidwadwyr Cymreig) a Heledd Fychan AS (Plaid Cymru) yn aelodau o Bwyllgor
Senedd y Dyfodol; a b)
David Rees (y Dirprwy Lywydd) yn Gadeirydd Pwyllgor Senedd y Dyfodol. 5.
Yn unol â Rheol Sefydlog 33.6, yn atal dros dro ran gyntaf Rheol Sefydlog 17.37
mewn perthynas â Phwyllgor Senedd y Dyfodol, ac yn cytuno mai dim ond wrth
arfer pleidlais fwrw y caiff cadeirydd y Pwyllgor bleidleisio. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil yn ymwneud â phrosesau cynllunio ar gyfer datblygu chwareli NDM8687 Heledd Fychan
(Canol De Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi cynnig ar
gyfer Bil ar gyflwyno rhagdybiaeth mewn prosesau cynllunio yn erbyn cymeradwyo
datblygu chwareli yn agos at aneddiadau. 2. Yn nodi mai diben y
Bil fyddai: a) ei gwneud yn ofynnol
i risgiau i'r amgylchedd a bioamrywiaeth, ac i iechyd y cyhoedd, mewn
cysylltiad â safleoedd chwarelyddol arfaethedig gael eu hasesu fel rhan o'r
broses gynllunio; b) gosod parth clustogi
gorfodol o 1,000 metr ar gyfer yr holl chwareli newydd a'r rhai presennol;
ac c)
darparu mai dim ond Gweinidog perthnasol Llywodraeth Cymru all wneud y
penderfyniad ar gais cynllunio ar gyfer datblygu chwarel, gydag ystyriaeth yn
cael ei rhoi i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.12 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM8687 Heledd Fychan (Canol
De Cymru) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar gyflwyno rhagdybiaeth mewn prosesau cynllunio yn
erbyn cymeradwyo datblygu chwareli yn agos at aneddiadau. 2.
Yn nodi mai diben y Bil fyddai: a)
ei gwneud yn ofynnol i risgiau i'r amgylchedd a bioamrywiaeth, ac i iechyd y
cyhoedd, mewn cysylltiad â safleoedd chwarelyddol arfaethedig gael eu hasesu
fel rhan o'r broses gynllunio; b)
gosod parth clustogi gorfodol o 1,000 metr ar gyfer yr holl chwareli
newydd a'r rhai presennol; a c)
darparu mai dim ond Gweinidog perthnasol Llywodraeth Cymru all wneud y
penderfyniad ar gais cynllunio ar gyfer datblygu chwarel, gydag ystyriaeth yn
cael ei rhoi i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Gweithredu Diwygiadau Addysg: Adroddiad Interim NDM8690 Buffy Williams (Rhondda) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, sef 'Gweithredu diwygiadau addysg:
Adroddiad interim’ a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Gorffennaf 2024. Sylwch:
Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Hydref 2024. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.46 NDM8690 Buffy Williams (Rhondda) Cynnig
bod y Senedd: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, sef 'Gweithredu
diwygiadau addysg: Adroddiad interim’ a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Gorffennaf 2024. Sylwch: Gosodwyd ymateb
Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Hydref 2024. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ffermydd sy'n eiddo i gynghorau NDM8692 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod y
cyfraniad gwerthfawr a wneir gan ffermydd sy’n eiddo i gynghorau o ran cefnogi
cynhyrchiant bwyd a galluogi pobl ifanc i fentro i fyd ffermio. 2. Yn gresynu bod
gwerthu ffermydd sy’n eiddo i gynghorau yn peryglu diogeledd bwyd Cymru a’i
harferion ffermio traddodiadol, gan arwain at newid i arferion llai cynaliadwy. 3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i roi moratoriwm ar werthu ffermydd sy’n eiddo i gynghorau y mae
awdurdodau lleol yng Nghymru yn berchen arnynt. Cyflwynwyd y gwelliant a
ganlyn: Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Dileu pwyntiau 2 a 3 a
rhoi yn eu lle: Yn croesawu’r ffaith y
bydd y cynllun ffermio cynaliadwy ar gael i ffermwyr ar ffermydd sy’n eiddo i
gynghorau ac y bydd yn cefnogi’r ffermwyr hyn. Yn
nodi mai mater i awdurdodau lleol Cymru yn y pen draw yw rheoli ffermydd sy’n
eiddo i gynghorau. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.37 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8692 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod y cyfraniad
gwerthfawr a wneir gan ffermydd sy’n eiddo i gynghorau o ran cefnogi
cynhyrchiant bwyd a galluogi pobl ifanc i fentro i fyd ffermio. 2. Yn gresynu bod gwerthu
ffermydd sy’n eiddo i gynghorau yn peryglu diogeledd bwyd Cymru a’i harferion
ffermio traddodiadol, gan arwain at newid i arferion llai cynaliadwy. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i roi moratoriwm ar werthu ffermydd sy’n eiddo i gynghorau y mae awdurdodau
lleol yng Nghymru yn berchen arnynt.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle: Yn croesawu’r ffaith y bydd y cynllun ffermio cynaliadwy
ar gael i ffermwyr ar ffermydd sy’n eiddo i gynghorau ac y bydd yn cefnogi’r
ffermwyr hyn. Yn nodi mai mater i awdurdodau lleol Cymru yn y pen draw
yw rheoli ffermydd sy’n eiddo i gynghorau. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod y cyfraniad gwerthfawr a wneir gan
ffermydd sy’n eiddo i gynghorau o ran cefnogi cynhyrchiant bwyd a galluogi pobl
ifanc i fentro i fyd ffermio. 2. Yn croesawu’r ffaith y bydd y cynllun ffermio
cynaliadwy ar gael i ffermwyr ar ffermydd sy’n eiddo i gynghorau ac y bydd yn
cefnogi’r ffermwyr hyn. 3. Yn nodi mai mater i awdurdodau lleol Cymru yn y pen
draw yw rheoli ffermydd sy’n eiddo i gynghorau.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Addysgu sgiliau darllen mewn ysgolion NDM8693 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi canlyniadau
PISA 2022 a ganfu mai Cymru oedd â’r sgoriau darllen gwaethaf yn y Deyrnas
Unedig, a’u bod ymhell islaw cyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a
Datblygiad Economaidd. 2. Yn gresynu bod 20 y
cant o blant Cymru yn ymarferol anllythrennog pan fyddant yn dechrau yn yr
ysgol uwchradd. 3. Yn cydnabod y cafodd
y system o ddefnyddio ciwiau wrth addysgu darllen ei gwahardd yn Lloegr yn
2005, yn sgil pryderon y gallai danseilio ymdrechion i addysgu disgyblion i
ddarllen, ond bod hynny dal heb ddigwydd yng Nghymru. 4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru: a) i gyhoeddi canllawiau
ar unwaith i sicrhau bod ysgolion ac athrawon yn defnyddio'r dull ffoneg o
addysgu darllen i wella perfformiad, ac i hyrwyddo hynny; a b) i gyflwyno cyfundrefn
o brofion darllen ar frys, fel y gwelwyd mewn rhannau eraill o'r Deyrnas
Unedig, er mwyn gwella safonau darllen. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cefnogi: a) codi safonau darllen
fel rhan o flaenoriaeth Llywodraeth Cymru i godi safonau mewn ysgolion a
cholegau; b) ymgorffori
llythrennedd ar draws pob maes dysgu fel rhan o'r Cwricwlwm i Gymru; c) cymryd camau i
wella’r broses o addysgu dysgwyr i ddarllen, gan gynnwys gwneud geiriad
canllawiau yn gliriach lle bo angen; a d) defnyddio asesiadau
personol i gefnogi cynnydd dysgwyr o ran darllen, ac i gadw llygad ar
welliannau yn genedlaethol. 2. Yn nodi bod y
disgwyliadau o ran pwysigrwydd ffoneg eisoes wedi’u hamlinellu yng nghanllawiau
statudol Cwricwlwm i Gymru. 3. Yn cydnabod bod yn
rhaid i benderfyniadau am addysgu dysgwyr i ddarllen gael eu llywio bob amser
gan yr hyn sydd orau i’r dysgwr. Canllawiau statudol Cwricwlwm i Gymru Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei
ddad-ddethol. Gwelliant 2 Heledd Fychan
(Canol De Cymru) Dileu pwyntiau 3 a 4 a
rhoi yn eu lle: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru: a) i gyhoeddi canllawiau
ar unwaith i sicrhau bod y dull ffoneg yn flaenllaw wrth addysgu darllen er
mwyn gwella perfformiad; b) i gynnal adolygiad
parhaus o'r dystiolaeth arbenigol ddiweddaraf a chymharu arfer da mewn gwledydd
eraill er mwyn sicrhau'r dulliau mwyaf effeithiol o addysgu sgiliau darllen; c) ailddatgan ei tharged
o sicrhau 500 pwynt ym mhob un o’r tri maes a asesir gan PISA, gan gynnwys
sgiliau darllen, a chyhoeddi strategaeth o’r newydd, gyda cherrig milltir
mesuradwy, er mwyn ei gyrraedd; a d) asesu pam fod
disgyblion mewn ardaloedd difreintiedig yn cael canlyniadau PISA, gan gynnwys
sgiliau darllen, is na disgyblion mewn cymunedau tebyg yn Lloegr. Gwelliant 3 Heledd Fychan
(Canol De Cymru) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
gresynu bod y Llywodraeth wedi methu â chyrraedd ei tharged mwyaf diweddar o
sicrhau 500 pwynt ym mhob un o’r tri maes a asesir gan PISA erbyn 2022, gan
gynnwys sgiliau darllen, a hynny yn dilyn methu â chyrraedd y targed
gwreiddiol i Gymru fod ymhlith yr 20 o wledydd uchaf ar restr PISA. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.10 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8693 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi canlyniadau PISA
2022 a ganfu mai Cymru oedd â’r sgoriau darllen gwaethaf yn y Deyrnas Unedig,
a’u bod ymhell islaw cyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a
Datblygiad Economaidd. 2. Yn gresynu bod 20 y cant o
blant Cymru yn ymarferol anllythrennog pan fyddant yn dechrau yn yr ysgol
uwchradd. 3. Yn cydnabod y cafodd y
system o ddefnyddio ciwiau wrth addysgu darllen ei gwahardd yn Lloegr yn 2005,
yn sgil pryderon y gallai danseilio ymdrechion i addysgu disgyblion i ddarllen,
ond bod hynny dal heb ddigwydd yng Nghymru. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru: a) i gyhoeddi canllawiau ar
unwaith i sicrhau bod ysgolion ac athrawon yn defnyddio'r dull ffoneg o addysgu
darllen i wella perfformiad, ac i hyrwyddo hynny; a b) i gyflwyno cyfundrefn o
brofion darllen ar frys, fel y gwelwyd mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig,
er mwyn gwella safonau darllen.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cefnogi: a) codi safonau darllen fel rhan o flaenoriaeth
Llywodraeth Cymru i godi safonau mewn ysgolion a cholegau; b) ymgorffori llythrennedd ar draws pob maes dysgu fel
rhan o'r Cwricwlwm i Gymru; c) cymryd camau i wella’r broses o addysgu dysgwyr i
ddarllen, gan gynnwys gwneud geiriad canllawiau yn gliriach lle bo angen; a d) defnyddio asesiadau personol i gefnogi cynnydd dysgwyr
o ran darllen, ac i gadw llygad ar welliannau yn genedlaethol. 2. Yn nodi bod y disgwyliadau o ran pwysigrwydd ffoneg
eisoes wedi’u hamlinellu yng nghanllawiau statudol Cwricwlwm i Gymru. 3. Yn cydnabod bod yn rhaid i benderfyniadau am addysgu
dysgwyr i ddarllen gael eu llywio bob amser gan yr hyn sydd orau i’r dysgwr. Canllawiau
statudol Cwricwlwm i Gymru Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1 wedi ei dderbyn, cafodd
gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Gwelliant 3 Heledd Fychan (Canol De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu bod y Llywodraeth wedi methu â chyrraedd ei
tharged mwyaf diweddar o sicrhau 500 pwynt ym mhob un o’r tri maes a asesir gan
PISA erbyn 2022, gan gynnwys sgiliau darllen, a hynny yn dilyn methu â
chyrraedd y targed gwreiddiol i Gymru fod ymhlith yr 20 o wledydd uchaf ar
restr PISA. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cefnogi: a) codi safonau darllen fel rhan o flaenoriaeth
Llywodraeth Cymru i godi safonau mewn ysgolion a cholegau; b) ymgorffori llythrennedd ar draws pob maes dysgu fel
rhan o'r Cwricwlwm i Gymru; c) cymryd camau i wella’r broses o addysgu dysgwyr i
ddarllen, gan gynnwys gwneud geiriad canllawiau yn gliriach lle bo angen; a d) defnyddio asesiadau personol i gefnogi cynnydd dysgwyr
o ran darllen, ac i gadw llygad ar welliannau yn genedlaethol. 2. Yn nodi bod y disgwyliadau o ran pwysigrwydd ffoneg
eisoes wedi’u hamlinellu yng nghanllawiau statudol Cwricwlwm i Gymru. 3. Yn cydnabod bod yn rhaid i benderfyniadau am addysgu
dysgwyr i ddarllen gael eu llywio bob amser gan yr hyn sydd orau i’r dysgwr. Canllawiau
statudol Cwricwlwm i Gymru
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.40 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM8691 Buffy Williams (Rhondda) Sicrhau
y gall pob plentyn ffynnu: dathlu addysg amgen yng Nghymru Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.45 NDM8691 Buffy Williams (Rhondda) Sicrhau
y gall pob plentyn ffynnu: dathlu addysg amgen yng Nghymru |
PDF 162 KB