NDM8693 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Addysgu sgiliau darllen mewn ysgolion
NDM8693 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Addysgu sgiliau darllen mewn ysgolion
NDM8693 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi canlyniadau
PISA 2022 a ganfu mai Cymru oedd â’r sgoriau darllen gwaethaf yn y Deyrnas
Unedig, a’u bod ymhell islaw cyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a
Datblygiad Economaidd.
2. Yn gresynu bod 20 y
cant o blant Cymru yn ymarferol anllythrennog pan fyddant yn dechrau yn yr
ysgol uwchradd.
3. Yn cydnabod y cafodd
y system o ddefnyddio ciwiau wrth addysgu darllen ei gwahardd yn Lloegr yn
2005, yn sgil pryderon y gallai danseilio ymdrechion i addysgu disgyblion i
ddarllen, ond bod hynny dal heb ddigwydd yng Nghymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru:
a) i gyhoeddi canllawiau
ar unwaith i sicrhau bod ysgolion ac athrawon yn defnyddio'r dull ffoneg o
addysgu darllen i wella perfformiad, ac i hyrwyddo hynny; a
b) i gyflwyno cyfundrefn
o brofion darllen ar frys, fel y gwelwyd mewn rhannau eraill o'r Deyrnas
Unedig, er mwyn gwella safonau darllen.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cefnogi:
a) codi safonau darllen
fel rhan o flaenoriaeth Llywodraeth Cymru i godi safonau mewn ysgolion a
cholegau;
b) ymgorffori
llythrennedd ar draws pob maes dysgu fel rhan o'r Cwricwlwm i Gymru;
c) cymryd camau i
wella’r broses o addysgu dysgwyr i ddarllen, gan gynnwys gwneud geiriad
canllawiau yn gliriach lle bo angen; a
d) defnyddio asesiadau
personol i gefnogi cynnydd dysgwyr o ran darllen, ac i gadw llygad ar
welliannau yn genedlaethol.
2. Yn nodi bod y
disgwyliadau o ran pwysigrwydd ffoneg eisoes wedi’u hamlinellu yng nghanllawiau
statudol Cwricwlwm i Gymru.
3. Yn cydnabod bod yn
rhaid i benderfyniadau am addysgu dysgwyr i ddarllen gael eu llywio bob amser
gan yr hyn sydd orau i’r dysgwr.
Canllawiau statudol Cwricwlwm i Gymru
Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei
ddad-ddethol.
Gwelliant 2 Heledd Fychan
(Canol De Cymru)
Dileu pwyntiau 3 a 4 a
rhoi yn eu lle:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru:
a) i gyhoeddi canllawiau
ar unwaith i sicrhau bod y dull ffoneg yn flaenllaw wrth addysgu darllen er
mwyn gwella perfformiad;
b) i gynnal adolygiad
parhaus o'r dystiolaeth arbenigol ddiweddaraf a chymharu arfer da mewn gwledydd
eraill er mwyn sicrhau'r dulliau mwyaf effeithiol o addysgu sgiliau darllen;
c) ailddatgan ei tharged
o sicrhau 500 pwynt ym mhob un o’r tri maes a asesir gan PISA, gan gynnwys
sgiliau darllen, a chyhoeddi strategaeth o’r newydd, gyda cherrig milltir
mesuradwy, er mwyn ei gyrraedd; a
d) asesu pam fod
disgyblion mewn ardaloedd difreintiedig yn cael canlyniadau PISA, gan gynnwys
sgiliau darllen, is na disgyblion mewn cymunedau tebyg yn Lloegr.
Gwelliant 3 Heledd Fychan
(Canol De Cymru)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
gresynu bod y Llywodraeth wedi methu â chyrraedd ei tharged mwyaf diweddar o
sicrhau 500 pwynt ym mhob un o’r tri maes a asesir gan PISA erbyn 2022, gan
gynnwys sgiliau darllen, a hynny yn dilyn methu â chyrraedd y targed
gwreiddiol i Gymru fod ymhlith yr 20 o wledydd uchaf ar restr PISA.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 05/11/2024