NDM8687 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil yn ymwneud â phrosesau cynllunio ar gyfer datblygu chwareli
NDM8687 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil yn ymwneud â phrosesau cynllunio ar gyfer datblygu chwareli
NDM8687 Heledd Fychan
(Canol De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar
gyfer Bil ar gyflwyno rhagdybiaeth mewn prosesau cynllunio yn erbyn cymeradwyo
datblygu chwareli yn agos at aneddiadau.
2. Yn nodi mai diben y
Bil fyddai:
a) ei gwneud yn ofynnol
i risgiau i'r amgylchedd a bioamrywiaeth, ac i iechyd y cyhoedd, mewn
cysylltiad â safleoedd chwarelyddol arfaethedig gael eu hasesu fel rhan o'r
broses gynllunio;
b) gosod parth clustogi
gorfodol o 1,000 metr ar gyfer yr holl chwareli newydd a'r rhai presennol;
a
c)
darparu mai dim ond Gweinidog perthnasol Llywodraeth Cymru all wneud y
penderfyniad ar gais cynllunio ar gyfer datblygu chwarel, gydag ystyriaeth yn
cael ei rhoi i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 05/11/2024