Gweithredu diwygiadau addysg
Inquiry2
Mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn
monitro’r broses o weithredu dau ddiwygiad addysg allweddol wrth iddynt gael eu
cyflwyno drwy gydol y Chweched Senedd.
Cefndir
Mae Llywodraeth
Cymru yn gweithredu dwy Ddeddf addysg o bwys mawr a basiwyd yn y Senedd
ddiwethaf:
>>>>
>>>Bil
Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021
>>>Deddf
Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018
<<<
Mae'r cwricwlwm
newydd yn gwyro oddi wrth ddull gweithredu rhagnodedig y cwricwlwm cenedlaethol
blaenorol. Bwriedir i’r Cwricwlwm i Gymru gael ei arwain at ddiben yn hytrach na
bod yn seiliedig ar gynnwys. Bydd gan ysgolion hyblygrwydd i ddylunio eu
cwricwla eu hunain, o fewn fframwaith cenedlaethol eang.
Mae’r cwricwlwm
newydd yn cael ei gyflwyno mewn ysgolion cynradd ym mis Medi 2022. Yn ôl y
gyfraith, caiff ei gyflwyno mewn ysgolion uwchradd erbyn mis Medi 2023 fan
bellaf ar gyfer Blwyddyn 7 a Blwyddyn 8. Fodd bynnag, mae gan ysgolion uwchradd
y dewis i’w gyflwyno ym Mlwyddyn 7 ym mis Medi 2022 os ydynt yn barod i wneud
hynny (bydd bron i hanner yr ysgolion uwchradd yn dechrau addysgu'r cwricwlwm
newydd o fis Medi 2022 ymlaen). Caiff ei gyflwyno, wedyn, i grŵp blwyddyn hŷn ychwanegol – flwyddyn ar ôl blwyddyn –
hyd nes iddo gyrraedd Blwyddyn 11 yn 2026/27. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn
yr erthygl hon gan Ymchwil
y Senedd.
Mae’r diwygiadau
Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn effeithio ar tua un o bob pump o
ddisgyblion. Roedd y system 'Anghenion Addysgol Arbennig' (AAA) bresennol yn
destun adolygiad ac yn cynnig diwygiad am dros ddegawd tan Ddeddf 2018. Roedd y
system AAA bresennol yn rhagnodi system tair haen. O dan Ddeddf 2018, rhoddir
Cynllun Datblygu Unigol statudol i bob dysgwr ag ADY yn nodi ei anghenion a pha
ymyriadau sydd eu hangen arno. Mae’r trefniadau newydd yn cael eu cyflwyno
fesul cam dros gyfnod o dair blynedd rhwng mis Medi 2021 a mis Gorffennaf 2024.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr erthygl hon gan Ymchwil
y Senedd.
Mae’r diwygiadau
i’r cwricwlwm ac ADY fel ei gilydd yn rhaglenni heriol ac uchelgeisiol at
ddibenion newid, ar gyfer system addysg sydd wedi wynebu’r dasg o reoli’r
pandemig dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae lefelau’r cyllid sydd ar gael i
ysgolion – a hyd a lled y dysgu a’r hyfforddiant proffesiynol sydd eu hangen ar
y gweithlu – yn faterion sydd wedi’u nodi’n gyson fel rhai hanfodol i’w
gweithredu’n llwyddiannus.
Cylch gorchwyl
Bydd yr
ymchwiliad hwn yn canolbwyntio ar:
>>>>
>>>Weithredu’r
Cwricwlwm i Gymru mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar, ysgolion cynradd ac
ysgolion uwchradd.
>>>Lefel
cysondeb a thegwch y cyfleoedd dysgu i ddisgyblion ledled Cymru, o ystyried yr
hyblygrwydd sydd i ysgolion ddatblygu eu cwricwla eu hunain o fewn fframwaith
cenedlaethol.
>>>Diwygio
cymwysterau i gyd-fynd â'r Cwricwlwm newydd i Gymru.
>>>Gweithredu'r
system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) newydd a throsglwyddo dysgwyr yn
effeithiol o'r system Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) bresennol.
>>>Cymhwyso'r
diffiniad o ADY, o'i gymharu â’r diffiniad ar hyn o bryd ar gyfer AAA, ac a oes
unrhyw achos o 'godi'r bar' o ran pennu cymhwysedd ar gyfer darpariaeth.
>>>Yr
hyn y mae’r lleoliadau dysgu proffesiynol a chymorth eraill yn ei dderbyn er
mwyn sicrhau gweithrediad effeithiol y Cwricwlwm i Gymru a’r system ADY.
>>>Ffactorau
eraill a allai, o bosibl, effeithio ar weithrediad y Cwricwlwm i Gymru a’r
system ADY, er enghraifft lefelau cyllid a’r hyn a gododd yn sgil y pandemig.
>>>Yr
heriau a’r cyfleoedd penodol sy’n dod i ran gwahanol fathau o ysgolion mewn
amgylchiadau amrywiol (e.e. cyfrwng iaith, demograffeg ac ardal) o ran
gweithredu diwygio’r cwricwlwm ac ADY.
<<<
Casglu
tystiolaeth
Bydd y Pwyllgor yn cynnal cyfres o wiriadau byr, â
ffocws, thematig drwy gydol y Chweched Senedd. Bydd pob gwiriad yn cynnwys
gweithgareddau ymgysylltu (e.e. ymweliadau ag ysgolion i siarad â staff,
disgyblion a rhieni) a chraffu ar waith un o Weinidogion Llywodraeth Cymru.
Gellir pennu ffocws pob ymchwiliad fesul achos. Mae ffocws pob sesiwn ryngweithio'n
debygol o gael ei bennu gan y canlynol:
>>>>
>>>cynlluniau
Llywodraeth Cymru ar gyfer y broses weithredu ac unrhyw wybodaeth gyd-destunol
arall a amlygwyd gan staff ymchwil a rhanddeiliaid;
>>>unrhyw
beth a ddysgwyd o sesiynau rhyngweithio blaenorol;
>>>unrhyw
faterion sy’n deillio o’r ymgynghoriad agored; ac
>>>unrhyw
bryderon neu feysydd eraill sydd o ddiddordeb i’r Aelodau ar y pryd.
<<<
Ar sail cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer
gweithredu'r diwygiadau, bwriada’r Pwyllgor gynnal y gwiriadau unwaith neu
ddwywaith y flwyddyn.
Sesiwn gyntaf galw heibio – Gorffennaf/Medi 2022
Cynhaliodd y Pwyllgor ei sesiwn gyntaf galw geibio yn
ystod yr haf, gan gynnwys ymweliadau ag ysgolion a sesiwn graffu gyda
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg. Arweiniodd hyn at lythyr
at y Gweinidog ynghylch nifer y dysgwyr sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd
fel rhai ag Anghenion Addysgol Arbennig (AAA), sy’n cael eu nodi gel bod ag ADY
a'u trosglwyddo i'r system ADY newydd. Ymatebodd
Llywodraeth Cymru, gan gadarnhau bod y diffiniad o ADY bellach yn cael ei
ddefnyddio'n fwy trylwyr nag oedd AAA yn y gorffennol.
Mae'r erthygl hon gan Ymchwil
y Senedd yn crynhoi'r ohebiaeth a'r materion a godwyd.
Ail archwiliad – Ebrill/Mai 2023
Bydd y Pwyllgor yn cynnal ail archwiliad ar ddechrau
tymor yr haf 2023. Ffocws yr archwiliad hwn fydd cyflwyno’r diwygiadau ADY mewn
ysgolion uwchradd a chyflwyno'r cwricwlwm newydd ar gyfer ysgolion uwchradd a'i
mabwysiadodd ar gyfer disgyblion blwyddyn 7 ar gyfer blwyddyn academaidd
2022-2023.
Bydd y Pwyllgor yn ymweld ag ysgolion ac yn craffu ar
waith Gweinidog y Gymraeg ac Addysg fel rhan o'r archwiliad. Bydd Tîm
Ymgysylltu â Dinasyddion y Senedd hefyd yn ymgymryd â gwaith ymgysylltu gyda
staff ysgolion i ychwanegu at broses casglu tystiolaeth yr Aelodau. Os ydych yn
weithiwr proffesiynol ym maes addysg ac os hoffech gymryd rhan yn y gwaith
ymgysylltu hwn, cysylltwch â SeneddPlant@Senedd.Cymru
Os hoffech gyfrannu at yr archwiliad hwn, a fyddech
cystal â chyflwyno ymateb i'r ymgynghoriad gan ddefnyddio'r linc isod erbyn
dydd Llun 24 Ebrill 2023 fan bellaf.
Ymgynghoriad
Gall unrhyw un sydd â diddordeb naill ai yn y cwricwlwm
newydd neu'r diwygiadau ADY - fel addysgwyr, rhanddeiliaid, disgyblion neu
rieni - gyflwyno eu barn ar unrhyw elfen o gyflwyno'r diwygiadau addysg ar
unrhyw adeg o’u taith pan gânt eu gweithredu. Mae croeso i chi gyflwyno cymaint
o ymatebion ag y dymunwch, mor rheolaidd ag y dymunwch. Byddant i gyd yn
cyfrannu at benderfyniadau'r Pwyllgor ynghylch sut i ganolbwyntio ei waith
craffu.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau yw diwedd Chweched
Senedd Cymru (yn 2026).
Mae rhagor o wybodaeth am sut i ymateb i’w chael ar
dudalen yr ymgynghoriad.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/05/2022
Dogfennau
- Cyfyngedig
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Gymwysterau Cymru – 23 Mawrth 2023
PDF 176 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at sectorau addysg uwch ledled y DU - 22 Mawrth 2023
PDF 158 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Brifysgolion Cymru - 22 Mawrth 2023
PDF 153 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru - 22 Mawrth 2023
PDF 152 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Golegau Cymru – 22 Mawrth 2023
PDF 152 KB
- Llythyr gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg - 28 Medi 2022
PDF 182 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Weinidog y Gymraeg ac Addysg - 08 Awst 2022
PDF 119 KB
Ymgynghoriadau
- Gweithredu diwygiadau addysg (Rhedeg hyd 31/12/2025)