Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 113(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 11/01/2023 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y
Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd Bydd y Llywydd yn galw ar
Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn
2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
y 9 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 2 a 6 gan y Dirprwy Weinidog Newid
Hinsawdd. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg Bydd y Llywydd yn galw ar
Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn
2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.24 Gofynnwyd
y 7 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau
i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad Jack
Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru
wedi'i wneud o'r effaith y bydd cynlluniau Llywodraeth y DU i gyfyngu ar yr
hawl i streicio yn ei chael ar weithwyr yng Nghymru? Gofyn i’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Luke
Fletcher (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol
Maes Awyr Caerdydd yn sgil cyhoeddiad Wizz Air ei fod yn rhoi'r gorau i
weithrediadau i mewn ac allan o Gymru? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.11 Atebwyd gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y
Cyfansoddiad Jack Sargeant (Alun a Glannau
Dyfrdwy): Pa asesiad y mae Llywodraeth
Cymru wedi'i wneud o'r effaith y bydd cynlluniau Llywodraeth y DU i gyfyngu ar
yr hawl i streicio yn ei chael ar weithwyr yng Nghymru? Atebwyd gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Luke
Fletcher (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol Maes Awyr Caerdydd yn sgil
cyhoeddiad Wizz Air ei fod yn rhoi'r gorau i
weithrediadau i mewn ac allan o Gymru? |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.36 Gwnaeth
Jack Sargeant, Llyr Gruffydd a Tom Giffard ddatganiad am – Ymddeoliad Gareth
Bale. |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 10.5 i benodi Cadeirydd Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru NDM8169 Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â pharagraff 5(1) o Atodlen 1 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru)
2013, ac o dan Reol Sefydlog 10.5: Yn penodi Dr Kathryn
Chamberlain yn Gadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru o 16 Mawrth 2023 tan 15 Mawrth
2027. Noder: Gosodwyd
adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Benodi Cadeirydd ac Aelodau Anweithredol i Fwrdd
Swyddfa Archwilio Cymru yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Ionawr 2023. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.42 NDM8169 Peredur Owen Griffiths (Dwyrain
De Cymru) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â pharagraff 5(1) o Atodlen 1 i Ddeddf Archwilio
Cyhoeddus (Cymru) 2013, ac o dan Reol Sefydlog 10.5: Yn
penodi Dr Kathryn Chamberlain yn Gadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru o 16 Mawrth
2023 tan 15 Mawrth 2027. Noder: Gosodwyd adroddiad y
Pwyllgor Cyllid ar Benodi Cadeirydd ac Aelodau Anweithredol i Fwrdd Swyddfa
Archwilio Cymru yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Ionawr 2023. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai – Asedau Cymunedol NDM8170 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, ‘Asedau Cymunedol’, a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 13 Hydref 2022. Noder:
Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Ionawr 2023. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.44 NDM8170 John Griffiths (Dwyrain
Casnewydd) Cynnig
bod y Senedd: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, ‘Asedau Cymunedol’, a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 13 Hydref 2022. Noder: Gosodwyd ymateb
Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Ionawr 2023. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Clefyd yr afu NDM8171 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi cyhoeddi
diweddar y Datganiad Ansawdd ar gyfer Clefydau’r Afu gan
Lywodraeth Cymru. 2. Yn gresynu at y
ffaith, er bod modd atal 90 y cant o'r achosion o glefydau'r afu,
fod marwolaethau o ganlyniad i glefydau'r afu wedi dyblu yn ystod y ddau
ddegawd diwethaf a bod 9 o bob 10 claf canser yr afu yn marw o fewn 5 mlynedd o
gael diagnosis. 3. Yn cydnabod mai
alcohol, gordewdra a hepatitis feirol yw'r prif ffactorau risg ar gyfer clefyd
yr afu y rhagamcanir y bydd yn cynyddu, gyda dros 3 ym mhob 5 o bobl yng
Nghymru dros eu pwysau neu'n ordew ac un ym mhob 5 o bobl yng Nghymru yn yfed
alcohol uwchben y lefelau a argymhellir. 4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyhoeddi amserlen glir ar gyfer cyflwyno'r canlyniadau a'r
targedau yn y datganiad ansawdd, gan gynnwys: a) dyblu'r gweithlu
hepatoleg, gan gynnwys arbenigwyr nyrsys afu, i fynd i'r afael ag amrywiad
enfawr mewn mynediad at ofal arbenigol; b) nodi pryd fydd
gan bob bwrdd iechyd dimau gofal alcohol yn eu lle saith diwrnod yr wythnos i
fodloni angen lleol; c)
nodi pryd a sut y bydd llwybr prawf gwaed afu annormal Cymru gyfan yn cael
ei fabwysiadu gan bob meddyg teulu i wella'r broses o ganfod clefyd yr afu yn
gynnar. Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu pwynt 4 a rhoi
yn ei le: Yn
cydnabod yr angen i Lywodraeth Cymru, y byrddau iechyd, ynghyd â strwythurau
rhwydwaith Gweithrediaeth y GIG sy'n cael eu datblygu, gydweithio'n agos i
yrru'r gwaith o weithredu datganiad ansawdd clefyd yr afu ac i sicrhau
canlyniadau gwell o ran atal, diagnosis a thriniaeth clefyd yr afu yng Nghymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.40 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8171 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi cyhoeddi diweddar
y Datganiad Ansawdd ar gyfer Clefydau’r Afu gan Lywodraeth
Cymru. 2. Yn gresynu at y ffaith, er
bod modd atal 90 y cant o'r achosion o glefydau'r afu,
fod marwolaethau o ganlyniad i glefydau'r afu wedi dyblu yn ystod y ddau
ddegawd diwethaf a bod 9 o bob 10 claf canser yr afu yn marw o fewn 5 mlynedd o
gael diagnosis. 3. Yn cydnabod mai alcohol,
gordewdra a hepatitis feirol yw'r prif ffactorau risg ar gyfer clefyd yr afu y
rhagamcanir y bydd yn cynyddu, gyda dros 3 ym mhob 5 o bobl yng Nghymru
dros eu pwysau neu'n ordew ac un ym mhob 5 o bobl yng Nghymru yn yfed alcohol
uwchben y lefelau a argymhellir. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gyhoeddi amserlen glir ar gyfer cyflwyno'r canlyniadau a'r targedau yn y
datganiad ansawdd, gan gynnwys: a) dyblu'r gweithlu hepatoleg,
gan gynnwys arbenigwyr nyrsys afu, i fynd i'r afael ag amrywiad enfawr mewn
mynediad at ofal arbenigol; b) nodi pryd fydd gan bob
bwrdd iechyd dimau gofal alcohol yn eu lle saith diwrnod yr wythnos i fodloni
angen lleol; c) nodi pryd a sut y
bydd llwybr prawf gwaed afu annormal Cymru gyfan yn cael ei fabwysiadu gan
bob meddyg teulu i wella'r broses o ganfod clefyd yr afu yn gynnar.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le: Yn cydnabod yr angen i Lywodraeth Cymru, y byrddau
iechyd, ynghyd â strwythurau rhwydwaith Gweithrediaeth y GIG sy'n cael eu
datblygu, gydweithio'n agos i yrru'r gwaith o weithredu datganiad ansawdd
clefyd yr afu ac i sicrhau canlyniadau gwell o ran atal, diagnosis a thriniaeth
clefyd yr afu yng Nghymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM8171 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi cyhoeddi diweddar
y Datganiad Ansawdd ar gyfer Clefydau’r Afu gan Lywodraeth
Cymru. 2. Yn gresynu at y ffaith, er
bod modd atal 90 y cant o'r achosion o glefydau'r afu,
fod marwolaethau o ganlyniad i glefydau'r afu wedi dyblu yn ystod y ddau
ddegawd diwethaf a bod 9 o bob 10 claf canser yr afu yn marw o fewn 5 mlynedd o
gael diagnosis. 3. Yn cydnabod mai alcohol,
gordewdra a hepatitis feirol yw'r prif ffactorau risg ar gyfer clefyd yr afu y
rhagamcanir y bydd yn cynyddu, gyda dros 3 ym mhob 5 o bobl yng Nghymru
dros eu pwysau neu'n ordew ac un ym mhob 5 o bobl yng Nghymru yn yfed alcohol
uwchben y lefelau a argymhellir. 4. Yn
cydnabod yr angen i Lywodraeth Cymru, y byrddau iechyd, ynghyd â strwythurau
rhwydwaith Gweithrediaeth y GIG sy'n cael eu datblygu, gydweithio'n agos i
yrru'r gwaith o weithredu datganiad ansawdd clefyd yr afu ac i sicrhau
canlyniadau gwell o ran atal, diagnosis a thriniaeth clefyd yr afu yng Nghymru.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ad-drefnu canolfannau Ambiwlans Awyr Cymru NDM8172 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod gwaith amhrisiadwy
gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru o ran achub bywydau. 2. Yn nodi pryderon
sylweddol y cyhoedd ynghylch cynigion i ganoli gwasanaeth ambiwlans awyr
gogledd a chanolbarth Cymru mewn un lleoliad. 3. Yn cydnabod
deisebau yn cynnwys dros 20,000 llofnod yn galw am gadw canolfannau yn y
Trallwng a Chaernarfon. 4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithio gyda'i phartneriaid yn y GIG ac Ymddiriedolaeth
Elusennol Ambiwlans Awyr Cymru i sicrhau bod canolfannau ambiwlans awyr yn y
Trallwng a Chaernarfon yn parhau i fod yn weithredol. Cyd-gyflwynwyr Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu'r cyfan ar ôl
pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn nodi bod y Pwyllgor
Gwasanaethau Ambiwlans Brys yn cynnal gwaith ymgysylltu ffurfiol fel rhan o
adolygiad o wasanaeth Gwasanaethau Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS)
Cymru. Yn nodi mai bwriad yr
adolygiad yw sicrhau bod y cleifion y mae angen y gwasanaeth arnynt yn gallu ei
gael, waeth ble maent yn byw yng Nghymru neu ba bryd y mae arnynt ei angen. Yn
nodi nad oes unrhyw opsiynau na chynigion wedi'u cytuno eto, na phenderfyniadau
wedi eu gwneud. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.28 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8172 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod gwaith
amhrisiadwy gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru o ran achub bywydau. 2. Yn nodi pryderon sylweddol y
cyhoedd ynghylch cynigion i ganoli gwasanaeth ambiwlans awyr gogledd a
chanolbarth Cymru mewn un lleoliad. 3. Yn cydnabod deisebau yn
cynnwys dros 20,000 llofnod yn galw am gadw canolfannau yn y Trallwng a
Chaernarfon. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i weithio gyda'i phartneriaid yn y GIG ac Ymddiriedolaeth Elusennol Ambiwlans
Awyr Cymru i sicrhau bod canolfannau ambiwlans awyr yn y Trallwng a Chaernarfon
yn parhau i fod yn weithredol.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu'r cyfan ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn nodi bod y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys yn
cynnal gwaith ymgysylltu ffurfiol fel rhan o adolygiad o wasanaeth Gwasanaethau
Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) Cymru. Yn nodi mai bwriad yr adolygiad yw sicrhau bod y cleifion
y mae angen y gwasanaeth arnynt yn gallu ei gael, waeth ble maent yn byw yng
Nghymru neu ba bryd y mae arnynt ei angen. Yn nodi nad oes unrhyw opsiynau na chynigion wedi'u
cytuno eto, na phenderfyniadau wedi eu gwneud. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM8172 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod gwaith amhrisiadwy
gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru o ran achub bywydau. 2. Yn nodi bod y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys yn
cynnal gwaith ymgysylltu ffurfiol fel rhan o adolygiad o wasanaeth Gwasanaethau
Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) Cymru. 3. Yn nodi mai bwriad yr adolygiad yw sicrhau bod y
cleifion y mae angen y gwasanaeth arnynt yn gallu ei gael, waeth ble maent yn
byw yng Nghymru neu ba bryd y mae arnynt ei angen. 4. Yn nodi nad oes unrhyw opsiynau na chynigion wedi'u
cytuno eto, na phenderfyniadau wedi eu gwneud.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.25 |
||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM8167 Peter Fox (Mynwy) Yr heriau presennol
sy'n wynebu'r system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, a chyfleoedd i
drawsnewid gwasanaethau yn y dyfodol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.30 NDM8167 Peter Fox (Mynwy) Yr heriau presennol
sy'n wynebu'r system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, a chyfleoedd i
drawsnewid gwasanaethau yn y dyfodol |