NDM8171 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Clefyd yr afu
NDM8171 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cyhoeddi
diweddar y Datganiad Ansawdd ar gyfer Clefydau’r Afu gan
Lywodraeth Cymru.
2. Yn gresynu at y
ffaith, er bod modd atal 90 y cant o'r achosion o glefydau'r afu,
fod marwolaethau o ganlyniad i glefydau'r afu wedi dyblu yn ystod y ddau
ddegawd diwethaf a bod 9 o bob 10 claf canser yr afu yn marw o fewn 5 mlynedd o
gael diagnosis.
3. Yn cydnabod mai
alcohol, gordewdra a hepatitis feirol yw'r prif ffactorau risg ar gyfer clefyd
yr afu y rhagamcanir y bydd yn cynyddu, gyda dros 3 ym mhob 5 o bobl yng
Nghymru dros eu pwysau neu'n ordew ac un ym mhob 5 o bobl yng Nghymru yn yfed
alcohol uwchben y lefelau a argymhellir.
4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyhoeddi amserlen glir ar gyfer cyflwyno'r canlyniadau a'r
targedau yn y datganiad ansawdd, gan gynnwys:
a) dyblu'r gweithlu
hepatoleg, gan gynnwys arbenigwyr nyrsys afu, i fynd i'r afael ag amrywiad
enfawr mewn mynediad at ofal arbenigol;
b) nodi pryd fydd
gan bob bwrdd iechyd dimau gofal alcohol yn eu lle saith diwrnod yr wythnos i
fodloni angen lleol;
c) nodi pryd a sut y
bydd llwybr prawf gwaed afu annormal Cymru gyfan yn cael ei fabwysiadu gan
bob meddyg teulu i wella'r broses o ganfod clefyd yr afu yn gynnar.
Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwynt 4 a rhoi
yn ei le:
Yn
cydnabod yr angen i Lywodraeth Cymru, y byrddau iechyd, ynghyd â strwythurau
rhwydwaith Gweithrediaeth y GIG sy'n cael eu datblygu, gydweithio'n agos i
yrru'r gwaith o weithredu datganiad ansawdd clefyd yr afu ac i sicrhau
canlyniadau gwell o ran atal, diagnosis a thriniaeth clefyd yr afu yng Nghymru.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 09/01/2023