Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 111(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 14/12/2022 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Economi Bydd y Llywydd yn galw ar
Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn
2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau
i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw ar
Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn
2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.21 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Mabon
ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd): Pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i
fynd i'r afael a'r prinder gwrthfiotigau dros gyfnod y Nadolig? Gofyn i’r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol Joel
James (Canol De Cymru): Pa gamau y mae
Llywodraeth Cymru yn eu cynnig i sicrhau safonau cyflogaeth mwy trwyadl yng
ngwasanaethau tân ac achub Cymru yn sgil yr honiadau yn erbyn Gwasanaeth Tân ac
Achub De Cymru? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.15 Atebwyd
gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Mabon ap
Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd): Pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i fynd
i'r afael â'r prinder gwrthfiotigau dros gyfnod y Nadolig? Atebwyd
gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol Joel James (Canol De
Cymru):
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynnig i sicrhau safonau cyflogaeth mwy
trwyadl yng ngwasanaethau tân ac achub Cymru yn sgil yr honiadau yn erbyn
Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru? |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.30 Gwnaeth
Natasha Asghar ddatganiad am - Dechrau gŵyl Hanukkah (18 Rhagfyr). Gwnaeth
Janet Finch-Saunders ddatganiad am - #YmgyrchPickstock – ymgyrch ymwybyddiaeth
troseddau cyllyll yn Aberconwy. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Datganiad gan Peter Fox - Cyflwyno Bil Arfaethedig Aelod: Bil Bwyd (Cymru) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.35 |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol - Trais ar sail rhywedd: Anghenion menywod mudol NDM8166 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor
Cydraddoldeb a Chyfiawnder ar drais ar sail rhywedd – Anghenion menywod mudol,
a osodwyd ar
26 Hydref 2022. Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Rhagfyr 2022. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 16.26 NDM8166 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd) Cynnig
bod y Senedd: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder ar drais ar sail rhywedd –
Anghenion menywod mudol, a osodwyd ar 26 Hydref
2022. Gosodwyd ymateb
Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Rhagfyr 2022 Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Tlodi plant NDM8165 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn gresynu at y
ffaith bod gan Gymru'r cyfraddau tlodi plant uchaf yn y DU. 2. Yn cydnabod bod yr argyfwng
costau byw presennol yn gwaethygu tueddiadau diweddar sydd wedi gweld cyfraddau
tlodi plant yn cynyddu yng Nghymru, er gwaethaf addewid Llywodraeth Cymru i
ddileu tlodi plant erbyn 2020. 3. Yn nodi nad yw
Llywodraeth Cymru yn meddu ar strategaeth i fynd i'r afael â thlodi plant
ar hyn o bryd, er gwaethaf y ffaith bod Comisiynydd Plant Cymru a grwpiau
gweithredu tlodi plant eraill wedi galw dro ar ôl thro am ffocws a gweithredu
penodol a brys yn y maes hwn. 4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth tlodi plant, wedi'i
ategu gan dargedau statudol, a hynny ar frys. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu'r cyfan a rhoi
yn ei le: Cynnig bod y Senedd: Yn nodi buddsoddiad
sylweddol Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi plant ac y bydd
Llywodraeth Cymru, yn unol â'i Strategaeth Tlodi Plant gyfredol, yn cyhoeddi ei
hadroddiad diweddaru y mis hwn ac yn cyhoeddi strategaeth ddiwygiedig yn 2023. [Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol] Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnwys fel pwynt 3
newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn
croesawu'r camau y mae Llywodraeth y DU yn eu cymryd i helpu i leddfu'r pwysau
costau byw y mae cartrefi yng Nghymru yn eu hwynebu. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.05 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8165 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn gresynu at y ffaith
bod gan Gymru'r cyfraddau tlodi plant uchaf yn y DU. 2. Yn cydnabod bod yr argyfwng
costau byw presennol yn gwaethygu tueddiadau diweddar sydd wedi gweld cyfraddau
tlodi plant yn cynyddu yng Nghymru, er gwaethaf addewid Llywodraeth Cymru i
ddileu tlodi plant erbyn 2020. 3. Yn nodi nad yw Llywodraeth
Cymru yn meddu ar strategaeth i fynd i'r afael â thlodi plant ar hyn o
bryd, er gwaethaf y ffaith bod Comisiynydd Plant Cymru a grwpiau
gweithredu tlodi plant eraill wedi galw dro ar ôl thro am ffocws a gweithredu
penodol a brys yn y maes hwn. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i ddatblygu strategaeth tlodi plant, wedi'i ategu gan dargedau
statudol, a hynny ar frys.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: Yn nodi buddsoddiad sylweddol Llywodraeth Cymru i fynd
i'r afael â thlodi plant ac y bydd Llywodraeth Cymru, yn unol â'i Strategaeth
Tlodi Plant gyfredol, yn cyhoeddi ei hadroddiad diweddaru y mis hwn ac yn
cyhoeddi strategaeth ddiwygiedig yn 2023. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1 wedi ei dderbyn, cafodd
gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM8165 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi buddsoddiad sylweddol Llywodraeth Cymru i fynd i'r
afael â thlodi plant ac y bydd Llywodraeth Cymru, yn unol â'i Strategaeth Tlodi
Plant gyfredol, yn cyhoeddi ei hadroddiad diweddaru y mis hwn ac yn cyhoeddi
strategaeth ddiwygiedig yn 2023.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.58 |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM8148 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Gwasanaethau
bancio yn Gymraeg Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.01 NDM8148 Jack Sargeant
(Alun a Glannau Dyfrdwy) Gwasanaethau bancio yn
Gymraeg |
|||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |