Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 105
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 23/11/2022 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd Mae’r Llywydd wedi cael gwybod, o dan Reol Sefydlog 12.58, y bydd y Dirprwy
Weinidog Newid Hinsawdd yn ateb cwestiynau ar ran y Gweinidog. Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd i’r Dirprwy Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Hysbyswyd
y Llywydd, o dan Reol Sefydlog 12.58, y byddai’r Dirprwy Weinidog Newid
Hinsawdd yn ateb cwestiynau ar ran y Gweinidog. Atebwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. Gwahoddodd y Llywydd
Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Dirprwy Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.19 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad Adam
Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa asesiad y mae'r Cwnsler
Cyffredinol wedi'i wneud o sut bydd dyfarniad y Goruchaf Lys ar fwriad Senedd
yr Alban i gynnal ail refferendwm ar annibyniaeth yn effeithio ar allu Cymru i
benderfynu ar ei dyfodol cyfansoddiadol ei hun? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.14 Atebwyd gan y Cwnsler
Cyffredinol a Gweinidog yr Economi Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a
Dinefwr):
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o sut bydd dyfarniad y
Goruchaf Lys ar fwriad Senedd yr Alban i gynnal ail refferendwm ar annibyniaeth
yn effeithio ar allu Cymru i benderfynu ar ei dyfodol cyfansoddiadol ei hun? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Ni ddewiswyd unrhyw Ddatganiadau 90 Eiliad |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24 NDM8137 Ken Skates (De Clwyd) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 20.16: Yn
cytuno ar gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24, fel y pennir yn Nhabl 1
o Gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24, a osodwyd gerbron
y Senedd ar 9 Tachwedd 2022, a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig
Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii). Dogfennau
Ategol Ymateb
Comisiwn y Senedd i adroddiad y Pwyllgor Cyllid Llythyr
gan Gomisiynydd y Cyllideb a Lywodraethu i’r Pwyllgor Cyllid Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.26 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM8137 Ken Skates (De Clwyd) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16: Yn
cytuno ar gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24, fel y pennir yn Nhabl 1
o Gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24, a osodwyd gerbron
y Senedd ar 9 Tachwedd 2022, a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig
Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii). Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Chweched Adroddiad i’r Chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9 NDM8136 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn ystyried
Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Chweched Adroddiad i'r Chweched
Senedd a osodwyd
gerbron y Senedd ar 16 Tachwedd 2022 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9 2.
Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.00 NDM8136 John Griffiths (Dwyrain
Casnewydd) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Chweched Adroddiad i'r
Chweched Senedd a osodwyd gerbron
y Senedd ar 16 Tachwedd 2022 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9 2.
Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Iechyd meddwl a gwytnwch cymunedol NDM8130 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd) Cynnig bod y
Senedd: 1. Yn nodi: a) cyhoeddi adroddiad
Gyda'n Gilydd drwy Adegau Anodd gan MIND Cymru; b) bod gwytnwch
cymunedol yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl da. 2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) gweithio gyda'r
sector gwirfoddol a chymunedol i adeiladu cymunedau gwydn drwy: (i) hyrwyddo cyfalaf
cymdeithasol; (ii) buddsoddi mewn
asedau cymunedol; (iii) mynd i'r afael â
rhwystrau sy'n wynebu rhai grwpiau; b) cynnwys y rôl a
chwaraeir gan asedau a rhwydweithiau cymunedol mewn unrhyw strategaeth iechyd
meddwl yn y dyfodol. Gyda'n
Gilydd drwy Adegau Anodd Cefnogwyr Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.03 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM8130 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd) Cynnig bod
y Senedd: 1.
Yn nodi: a)
cyhoeddi adroddiad Gyda'n Gilydd drwy Adegau Anodd gan MIND Cymru; b)
bod gwytnwch cymunedol yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl da. 2.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a)
gweithio gyda'r sector gwirfoddol a chymunedol i adeiladu cymunedau gwydn drwy: (i)
hyrwyddo cyfalaf cymdeithasol; (ii)
buddsoddi mewn asedau cymunedol; (iii)
mynd i'r afael â rhwystrau sy'n wynebu rhai grwpiau; b)
cynnwys y rôl a chwaraeir gan asedau a rhwydweithiau cymunedol mewn unrhyw
strategaeth iechyd meddwl yn y dyfodol. Gyda'n
Gilydd drwy Adegau Anodd Cefnogwyr Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) Sioned Williams (Gorllewin De Cymru) Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai - Darparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr NDM8139 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, 'Darparu safleoedd ar gyfer cymunedau
Sipsiwn, Roma a Theithwyr', a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 11 Awst 2022. Noder:
Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Tachwedd
2022. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.42 NDM8139 John Griffiths
(Dwyrain Casnewydd) Cynnig
bod y Senedd: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, 'Darparu safleoedd ar gyfer
cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr', a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Awst 2022. Noder: Gosodwyd ymateb
Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Tachwedd 2022. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Tâl nyrsys NDM8140 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn credu bod nyrsys
Cymru yn haeddu tâl teg am eu gwaith hanfodol o ran cadw ein cymunedau'n
ddiogel ac yn iach. 2.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio pob ysgogiad datganoledig sydd ar gael
iddi er mwyn gwneud cynnig tâl gwell i nyrsys y GIG yng Nghymru. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu pwynt 2 Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i gyfarfod â Choleg Nyrsio Brenhinol Cymru i drafod ei
ymgyrch ar gyfer cyflog teg a staffio diogel i osgoi streicio y gaeaf hwn. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.27 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8140 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn credu bod nyrsys Cymru yn
haeddu tâl teg am eu gwaith hanfodol o ran cadw ein cymunedau'n ddiogel ac yn
iach. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i ddefnyddio pob ysgogiad datganoledig sydd ar gael iddi er mwyn gwneud cynnig
tâl gwell i nyrsys y GIG yng Nghymru.
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig heb
ei ddiwygio. Felly, gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu pwynt 2 Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfarfod â Choleg Nyrsio Brenhinol
Cymru i drafod ei ymgyrch ar gyfer cyflog teg a staffio diogel i osgoi streicio
y gaeaf hwn. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM8140 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd:
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiad gan y Llywydd Am 18.26, rhoddodd y Llywydd anerchiad i’r
Siambr ynghylch defnydd cynt o’r term ‘hysterig’ (hysterical) gan y Dirprwy
Weinidog Newid Hinsawdd. Dywedodd y Llywydd na fyddai’n disgwyl clywed defnydd
o’r term hwn i ddisgrifio cyfraniad gan fenyw yn y dyfodol. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.26 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM8138 Cefin Campbell (Canolbarth a Gorllewin
Cymru) Mewn
undod mae nerth: mentrau cymdeithasol a busnesau dan berchnogaeth cymunedau yng
Nghymru Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.35 NDM8138 Cefin Campbell (Canolbarth a
Gorllewin Cymru) Mewn undod mae nerth:
mentrau cymdeithasol a busnesau dan berchnogaeth cymunedau yng Nghymru. |