NDM8140 Dadl Plaid Cymru - Tâl nyrsys
NDM8140 Dadl Plaid Cymru - Tâl nyrsys
NDM8140 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu bod nyrsys
Cymru yn haeddu tâl teg am eu gwaith hanfodol o ran cadw ein cymunedau'n
ddiogel ac yn iach.
2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ddefnyddio pob ysgogiad datganoledig sydd ar gael iddi er
mwyn gwneud cynnig tâl gwell i nyrsys y GIG yng Nghymru.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwynt 2
Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i gyfarfod â Choleg Brenhinol Nyrsio Cymru i drafod ei
ymgyrch ar gyfer cyflog teg a staffio diogel i osgoi streicio y gaeaf hwn.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 24/11/2022