Darparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr
Mae’r Pwyllgor wedi
cyhoeddi ei adroddiad
ar ddarparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr (PDF 882
KB).
Dyma gylch
gorchwyl y Pwyllgor ar gyfer ei ymchwiliad:
- A yw fframwaith presennol Llywodraeth Cymru yn
sicrhau digon o safleoedd preswyl a thramwy sy'n ddiwylliannol-briodol i
Sipsiwn a Theithwyr ledled Cymru.
- I ba raddau y mae awdurdodau cynllunio lleol a
Sipsiwn a Theithwyr yn llwyddo i gydweithio, fel yr argymhellir yng Nghanllawiau
Llywodraeth Cymru, gyda'r nod o ganfod safleoedd cynaliadwy ar gyfer
cymunedau Sipsiwn a Theithwyr.
- I ba raddau y mae Asesiadau Llety Sipsiwn a Theithwyr
awdurdodau lleol yn cael eu gweithredu, eu monitro a'u hadolygu i sicrhau
eu bod yn diwallu anghenion llety y gymuned teithwyr.
- Archwilio’r heriau posibl i awdurdodau lleol a
Llywodraeth Cymru o ran darparu safleoedd llety addas a digonol ar gyfer
cymunedau teithwyr.
- Archwilio beth fydd goblygiadau’r darpariaethau ym Mil yr Heddlu, Troseddu,
Dedfrydu a’r Llysoedd Llywodraeth y DU.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/04/2022
Papurau cefndir
Ymgynghoriadau
- Ymchwiliad i ddarparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr (Wedi ei gyflawni)