Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 97
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 19/10/2022 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
y 9 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 2, 3 a 9 gan y Dirprwy Weinidog Newid
Hinsawdd. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog
ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Economi Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.24 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro Dechreuodd yr eitem am 15.12 NNDM8111 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8: Yn atal dros dro Reol Sefydlog 12.20(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog
11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog
11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos
ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM8110 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn
ddydd Mawrth 19 Hydref. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Prisiau Ynni NNDM8110 Julie James (Gorllewin
Abertawe) Cynnig bod y Senedd: Yn unol â Rheol
Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil
Prisiau Ynni, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y
Senedd. Gosodwyd
Memorandwm Cydsyniad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Hydref 2022 yn unol â Rheol Sefydlog
29.2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.12 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NNDM8110 Julie James (Gorllewin
Abertawe) Cynnig bod y Senedd: Yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y
darpariaethau yn y Bil Prisiau Ynni, i’r graddau y maent yn dod o fewn
cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18
Hydref 2022 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Cwestiynau Amserol Ni chafwyd unrhyw Gwestiynau Amserol Cofnodion: Ni
chyflwynwyd unrhyw Gwestiynau Amserol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.34 Gwnaeth
Jack Sargeant ddatganiad am - Nodi tri degawd o gynhyrchu peiriannau Toyota ar
Lannau Dyfrdwy Gwnaeth
John Griffiths ddatganiad am - Wythnos Caru ein Colegau (17-21 Hydref). Gwnaeth
Laura Anne Jones ddatganiad am - Diwrnod Menopos y Byd (18 Hydref) |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith - Ynni adnewyddadwy yng Nghymru NDM8102 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor
Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: ‘Ynni adnewyddadwy yng Nghymru', a osodwyd ar 26
Mai 2022. Noder: Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Gorffennaf
2022. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.39 NDM8102 Llyr Gruffydd
(Gogledd Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: ‘Ynni adnewyddadwy yng
Nghymru', a osodwyd
ar 26 Mai 2022. Noder:
Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Gorffennaf
2022. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus - Comisiynu Cartrefi Gofal NDM8104 Mark Isherwood (Gogledd Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar ei ymchwiliad: Comisiynu
Cartrefi Gofal, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Medi 2022. Noder:
Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Hydref 2022. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem 16.34 NDM8104 Mark Isherwood
(Gogledd Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar ei ymchwiliad: Comisiynu
Cartrefi Gofal, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Medi 2022. Noder:
Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Hydref 2022. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar ddeiseb P-06-1294 - Peidiwch â gadael cleifion â chanser y fron metastatig yng Nghymru y tu ôl NDM8103 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Cynnig bod y Senedd: Yn
nodi’r ddeiseb ‘P-06-1294
Peidiwch â gadael cleifion â chanser y fron metastatig yng Nghymru y tu ôl’
a gasglodd 14,106 o lofnodion. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.34 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM8103 Jack Sargeant
(Alun a Glannau Dyfrdwy) Cynnig bod y Senedd: Yn
nodi’r ddeiseb ‘P-06-1294 Peidiwch â gadael cleifion â chanser y fron metastatig
yng Nghymru y tu ôl’
a gasglodd 14,106 o lofnodion. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ardrethi busnes NDM8105 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn gresynu at y
ffaith bod gan Gymru'r ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain Fawr. 2.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar unwaith i leihau trethi annomestig i
gefnogi busnesau a diogelu swyddi. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: 1. Yn nodi’r
gwahanol gyfraddau ardrethi annomestig sy’n bodoli yng Nghymru, gyda chyfran
uwch o fusnesau bach a chanolig. 2. Yn croesawu: a)
y rhyddhad ardrethi annomestig y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i
drethdalwyr bob blwyddyn, sy’n golygu nad yw 44 y cant yn talu unrhyw filiau. b)
y cymorth ychwanegol gwerth £116 miliwn ar gyfer busnesau manwerthu,
hamdden a lletygarwch eleni er mwyn eu helpu i adfer ar ôl y pandemig, gan
ddarparu rhyddhad o hyd at 50 y cant ar eu biliau ardrethi annomestig. c) y
ffaith bod, o ganlyniad i’r rhyddhad yma, 70 y cant o eiddo annomestig yng
Nghymru yn derbyn cymorth â’u biliau ardrethi annomestig yn 2022-23. Gwelliant 2 Sian Gwenllian (Arfon) Ychwanegwch pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i ddisodli'r system bresennol o ardrethi
annomestig gyda chynigion ar gyfer un dreth dir ac eiddo newydd sy'n cwmpasu
tir preswyl, tir masnachol, a thir diwydiannol (gyda thir amaethyddol yn parhau
i gael ei eithrio). Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.44 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8105 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn gresynu at y
ffaith bod gan Gymru'r ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain Fawr. 2.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar unwaith i leihau trethi annomestig i
gefnogi busnesau a diogelu swyddi.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: 1. Yn nodi’r
gwahanol gyfraddau ardrethi annomestig sy’n bodoli yng Nghymru, gyda chyfran
uwch o fusnesau bach a chanolig. 2. Yn croesawu: a) y rhyddhad
ardrethi annomestig y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i drethdalwyr bob
blwyddyn, sy’n golygu nad yw 44 y cant yn talu unrhyw filiau. b) y cymorth
ychwanegol gwerth £116 miliwn ar gyfer busnesau manwerthu, hamdden a
lletygarwch eleni er mwyn eu helpu i adfer ar ôl y pandemig, gan ddarparu
rhyddhad o hyd at 50 y cant ar eu biliau ardrethi annomestig. c)
y ffaith bod, o ganlyniad i’r rhyddhad yma, 70 y cant o eiddo
annomestig yng Nghymru yn derbyn cymorth â’u biliau ardrethi annomestig yn
2022-23. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 Sian Gwenllian
(Arfon) Ychwanegwch pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i ddisodli'r system bresennol o ardrethi
annomestig gyda chynigion ar gyfer un dreth dir ac eiddo newydd sy'n cwmpasu
tir preswyl, tir masnachol, a thir diwydiannol (gyda thir amaethyddol yn parhau
i gael ei eithrio). Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: [Insert amended motion]
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Yn unol â Rheol Sefydlog 12.44,
canwyd y gloch am 18.18 a gohiriwyd y cyfarfod tan y cyfnod pleidleisio. Dechreuodd yr eitem am 18.26 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM8095 Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru) Byw
gyda chanser yng Nghymru: gwella mynediad at wasanaethau rhagsefydlu
ac adsefydlu Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.28 NDM8095 Altaf Hussain
(Gorllewin De Cymru) Byw gyda chanser yng
Nghymru: gwella mynediad at wasanaethau rhagsefydlu ac adsefydlu |