Cynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru

Cynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru

Inquiry5

 

Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith (“y Pwyllgor”) wedi cytuno i wneud darn byr o waith ar gynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru.

 

Bydd y Pwyllgor yn ystyried canlyniadau Archwiliad Dwfn Llywodraeth Cymru i Ynni Adnewyddadwy, a materion cysylltiedig eraill.

 

Casglu tystiolaeth:

 

Er mwyn helpu i lywio ei waith, cynhaliodd y Pwyllgor sesiynau tystiolaeth lafar gyda rhanddeiliaid ddydd Iau 3 Mawrth 2022.

 

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth ysgrifenedig hefyd gan randdeiliaid ac mae'r rhain wedi'u cyhoeddi.

 

Adroddiad

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar Ynni adnewyddadwy yng Nghymru ar 26 Mai 2022. Ymatebodd Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar 11 Gorffennaf 2022, gallwch weld yr ymateb yma.

 

Dadl Y Cyfarfod Llawn

Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 19 Hydref 2022.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 19/01/2022

Dogfennau

Ymgynghoriadau